Safeguarding training requirements/ Gofynion hyfforddiant diogelu
- PACEY
- $
- Training and Qualifications
- $
- Training in Wales
- $
- Safeguarding training in Wales
- $
- Safeguarding training requirements/ Gofynion hyfforddiant diogelu
PACEY Cymru and Children in Wales have worked in partnership to develop a package of safeguarding training in Wales for the sector.
Safeguarding training requirements
Guidance on the safeguarding training requirements for different roles within childcare, early years and play settings can be found in Annex C of the National Minimum Standards for regulated childcare. We are aware that there is some confusion around the changes, so we have developed some Frequently Asked Questions to support you in understanding and meeting these requirements.
Why have the safeguarding training requirements changed?
In November 2022 the National safeguarding training, learning and development standards were published, setting out for the first time in Wales, a nationally consistent approach to safeguarding training. The standards aim to make sure everyone in Wales gets consistent and good quality safeguarding learning and development. The updated National Minimum Standards for regulated childcare recognises the importance of these standards, and ensures that those working in registered childcare settings access training that meets these.
Which safeguarding training course should I complete?
This will depend on your role:
- Those who don’t work directly with children such as cooks, cleaners and administration roles would only need to complete Group A training.
- Individuals that work with children in a supervised role such as childminding assistants, nursery assistants would initially need to complete Group A and Group B training. Renewal of their training would only be at Group B.
- Those with ultimate safeguarding responsibility such as registered childminders, managers, leaders, and the Designated Safeguarding Person should initially complete Group A, B and C training.
Further information about the training for each of the groups and renewal requirements is provided within the safeguarding training courses information below.
How do I access safeguarding training?
Group A training is freely accessible as an online course from Social Care Wales, there is a link to access this in the Group A training information below.
For Group B and C training, the first step is to check with your local authority for details of any local courses, as these are often available at a subsidised rate. PACEY Cymru and Children in Wales have worked in partnership to develop a package of Group B and Group C safeguarding training in Wales for the sector.
It is important to use a reputable training provider and that you ensure the training you access is relevant for Wales and meets the National safeguarding training, learning and development standards.
What are the timescales for completing safeguarding training?
There is a lead in-time until the end of November 2024 to meet the new training requirements. As these standards are raising the training expectations, it may take time for this training to be available to you. Please keep an eye out for information from your local authority, and PACEY Cymru as further details as training becomes available.
In the meantime, it is important for you to continue to keep your safeguarding training up to date and renewed at least every three years. If you have any questions or concerns please contact your local authority or PACEY Cymru to discuss.
Safeguarding training courses
Group A (Level 1) Safeguarding Awareness
This is the only training that is required for those who may not work directly with children but either work or volunteer where childcare provision is based, for example in an administration role, as a cook, caretaker or cleaner, or are members of a board or committee who support a childcare provision. Those working in other roles, would need to complete Group A training before progressing on.
Course requirements: This training can be accessed as an online training module provided by Social Care Wales at no cost at: Grŵp A Diogelu.
Renewal requirements: This training should be renewed at least every 3 years by practitioners that work in Group A roles.
Group B (Level 2) Safeguarding Intermediate Course
Following on from completion of Group A training, this training is suitable for those who work or volunteer directly with children, normally in a supervised role. This includes childminding assistants, nursery assistants and trainees, playworkers, room leaders, and transport drivers. Other practitioners with further safeguarding responsibility should complete this training before they progress onto Group C.
Course requirements: This training should be accessed either face to face or as blended learning over a minimum of six hours to cover the learning outcomes. PACEY Cymru are working in partnership with Children in Wales to develop training that will meet the new standards, please keep an eye out for updates on this.
Renewal requirements: Refresher training for practitioners working in Group B roles should be for a minimum of six hours over a three-year period, including any changes to safeguarding legislation and topics specific to the role.
Group C (Level 3) Advanced Safeguarding Course
Following on from completion of Group A and B training, this training is suitable for those in contact with children who have ultimate safeguarding responsibility for the provision. This could include registered childminders, managers, setting leaders, the person in charge, Designated Safeguarding Person, Responsible Individual, or Registered person.
Course requirements: This training should be accessed either face to face or as blended learning, over the equivalent of two days. PACEY Cymru are working in partnership with Children in Wales to develop training that will meet the new standards, please keep an eye out for updates on this.
Renewal requirements: Refresher training for practitioners working in Group C roles should be at least eight hours every three years on the generic training, and at least six hours per year of additional training, including detailed training on specific safeguarding topics or internal processes.
Further support
If you have any questions or would like any additional support or guidance, then please get in touch with PACEY Cymru on 02920 351407 or email paceycymru@pacey.org.uk.
Hyfforddiant diogelu yng Nghymru
Mae PACEY Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth I ddatblygu pecyn hyfforddiant diogelu ar gyfer y sector.
Gofynion hyfforddiant diogelu
Ceir canllawiau ar y gofynion hyfforddiant diogelu ar gyfer gwahanol rolau o fewn lleoliadau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yn Atodiad C y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoledig. Rydym yn ymwybodol bod rhywfaint o ddryswch ynghylch y newidiadau felly rydym wedi datblygu rhai Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddeall a bodloni’r gofynion hyn.
Pam fod y gofynion hyfforddiant diogelu wedi newid?
Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddwyd y Safonau hyfforddi, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol, sy’n nodi am y tro cyntaf yng Nghymru, ymagwedd genedlaethol gyson at hyfforddiant diogelu. Nod y safonau yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn manteisio ar ddysgu a datblygu diogelu cyson ac o ansawdd da. Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi’u diweddaru ar gyfer gofal plant rheoledig yn cydnabod pwysigrwydd y safonau hyn, ac yn sicrhau bod y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig yn cael hyfforddiant sy’n bodloni’r rhain.
Pa gwrs hyfforddiant diogelu ddylwn i ei gwblhau?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich rôl:
- Byddai angen i’r rhai nad ydynt yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, megis cogyddion, glanhawyr a rolau gweinyddol, gwblhau hyfforddiant Grŵp A yn unig.
- Byddai angen i unigolion sy’n gweithio gyda phlant mewn rôl dan oruchwyliaeth, megis cynorthwywyr gwarchod plant a chynorthwywyr meithrin, gwblhau hyfforddiant Grŵp A a Grŵp B i ddechrau. Dim ond yng Ngrŵp B y byddai eu hyfforddiant yn cael ei adnewyddu.
- Dylai’r rhai sydd â chyfrifoldeb terfynol am ddiogelu, megis gwarchodwyr plant cofrestredig, rheolwyr, arweinwyr, a’r Person Diogelu Dynodedig, gwblhau hyfforddiant Grŵp A, B a C i ddechrau.
Darperir rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant ar gyfer pob un o’r grwpiau a’r gofynion adnewyddu yn y wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant diogelu isod.
Sut mae cael mynediad at hyfforddiant diogelu?
Mae hyfforddiant Grŵp A ar gael am ddim fel cwrs ar-lein gan Gofal Cymdeithasol Cymru; mae dolen i gael mynediad ato yn y wybodaeth hyfforddiant Grŵp A isod.
Ar gyfer hyfforddiant Grŵp B a C, y cam cyntaf yw gwirio gyda’ch awdurdod lleol am fanylion unrhyw gyrsiau lleol, gan fod y rhain ar gael yn aml am bris gostyngol. Mae PACEY Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth I ddatblygu pecyn hyfforddiant diogelu Grŵp B a Grŵp C ar gyfer y sector.
Mae’n bwysig defnyddio darparwr hyfforddiant ag enw da a’ch bod yn sicrhau bod yr hyfforddiant a gewch yn berthnasol i Gymru ac yn bodloni’r safonau hyfforddi, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.
Beth yw’r amserlenni ar gyfer cwblhau hyfforddiant diogelu?
Mae amser arweiniol tan ddiwedd mis Tachwedd 2024 i fodloni’r gofynion hyfforddi newydd. Gan fod y safonau hyn yn codi’r disgwyliadau hyfforddi, efallai y bydd yn cymryd amser i’r hyfforddiant hwn fod ar gael i chi. Cadwch lygad am wybodaeth gan eich awdurdod lleol, a gan PACEY Cymru, wrth i hyfforddiant ddod ar gael.
Yn y cyfamser, mae’n bwysig i chi barhau i gadw’ch hyfforddiant diogelu yn gyfredol a’i adnewyddu o leiaf bob tair blynedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu PACEY Cymru i drafod.
Cyrsiau hyfforddi diogelu
Grŵp A (Lefel 1) Ymwybyddiaeth Diogelu
Dyma’r unig hyfforddiant sydd ei angen ar y rhai nad ydynt efallai’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant ond sydd naill ai’n gweithio neu’n gwirfoddoli lle mae darpariaeth gofal plant yn bodoli, er enghraifft mewn rôl weinyddol, fel cogydd, gofalwr neu lanhawr, neu’r rhai sy’n aelodau o fwrdd neu bwyllgor sy’n cefnogi darpariaeth gofal plant. Byddai angen i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau eraill gwblhau hyfforddiant Grŵp A cyn symud ymlaen.
Gofynion y cwrs: Gellir cyrchu’r hyfforddiant hwn fel modiwl hyfforddi ar-lein a ddarperir gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhad ac am ddim yn: Grŵp A Diogelu.
Gofynion adnewyddu: Dylai’r hyfforddiant hwn gael ei adnewyddu o leiaf bob 3 blynedd gan ymarferwyr sy’n gweithio mewn rolau Grŵp A.
Grŵp B (Lefel 2) Cwrs Diogelu Canolradd
Yn dilyn cwblhau hyfforddiant Grŵp A, mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli’n uniongyrchol gyda phlant, fel arfer mewn rôl dan oruchwyliaeth. Mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr gwarchod plant, cynorthwywyr meithrin a hyfforddeion, gweithwyr chwarae, arweinwyr ystafell, a gyrwyr cludiant. Dylai ymarferwyr eraill sydd â chyfrifoldeb diogelu pellach gwblhau’r hyfforddiant hwn cyn iddynt symud ymlaen i Grŵp C.
Gofynion y cwrs: Dylid cyrchu’r hyfforddiant hwn naill ai wyneb yn wyneb neu fel dysgu cyfunedig dros o leiaf chwe awr i gwmpasu’r canlyniadau dysgu. Mae PACEY Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Plant yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant – gweler yma.
Gofynion adnewyddu: Dylai hyfforddiant gloywi ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn rolau Grŵp B fod am o leiaf chwe awr dros gyfnod o dair blynedd, gan gynnwys unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth diogelu a phynciau sy’n benodol i’r rôl.
Grŵp C (Lefel 3) Cwrs Diogelu Uwch
Yn dilyn cwblhau hyfforddiant Grŵp A a B, mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant sydd â chyfrifoldeb terfynol am ddiogelu ar gyfer y ddarpariaeth. Gallai hyn gynnwys gwarchodwyr plant cofrestredig, rheolwyr, arweinwyr lleoliadau, y person sy’n gyfrifol, Person Diogelu Dynodedig, Unigolyn Cyfrifol, neu Unigolyn Cofrestredig.
Gofynion y cwrs: Dylid dilyn yr hyfforddiant hwn naill ai wyneb yn wyneb neu fel dysgu cyfunedig, dros gyfnod sy’n cyfateb i ddau ddiwrnod. Mae PACEY Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Plant yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant – gweler yma.
Gofynion adnewyddu: Dylai hyfforddiant gloywi ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn rolau Grŵp C fod o leiaf wyth awr bob tair blynedd ar yr hyfforddiant cyffredinol, ac o leiaf chwe awr y flwyddyn o hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys hyfforddiant manwl ar bynciau diogelu penodol neu brosesau mewnol.
Cymorth pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech unrhyw gymorth neu arweiniad ychwanegol, yna cysylltwch â PACEY Cymru ar 02920 351407 neu e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk.
Latest News
Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector
Department for Education publishes 2025/26 funding rates
Report calls for early years reform and a national childminder strategy
Prime Minister sets out ‘Plan for Change’ with early years focus
Today (5 December) Prime Minister Keir Starmer made a speech outlining how the government will...