Safeguarding training in Wales / Hyfforddiant diogelu
- PACEY
- $
- Training and Qualifications
- $
- Training in Wales
- $
- Safeguarding training in Wales
PACEY Cymru and Children in Wales have worked in partnership to develop a package of training for the sector in line with the revised standards that meets the needs of all those working in childcare and early years settings. This bilingual training will be delivered through a blended approach of self-directed online learning and trainer led learning.
Buyers beware!
- Some courses will be built specific to England even if they are marketed in Wales, they will have irrelevant and misleading links to policy and practice.
- Some training providers have robust internal quality processes to support development and delivery and look to review these periodically however this doesn’t always happen.
- If a price appears too good to be true, then it probably is, and you should proceed with caution.
- Take advantage of funding from your local authority if available to reduce the costs you have to pay.
- There can be a misconception that courses with the same, or similar titles, are very much the same, but the quality can vary immensely.
- Positive online reviews are not always a good indicator of quality training and are open to misuse.
When looking to purchase or access safeguarding training in Wales you need to carefully consider if the training meets the requirements in Annex C of the revised NMS. Specifically that:
- The course is specific to Wales
- It is at the required level for your role (see Annex C of the NMS for further detail)
- It is being delivered in an appropriate way to meet the NMS requirements (online for Group A training and blended or face-to-face for group B and C training)
- The duration of the course meets the NMS requirements
Why choose the training provided by PACEY Cymru and Children in Wales?
- Meets the revised requirements of the NMS
- High quality training developed in partnership to meet the specific needs of the childcare and play workforce in Wales
- Blended delivery approach with a balance of self-directed e-learning and tutor-led delivery providing you with the flexibility to undertake the training around your busy working lives.
- Trainers are approved and have relevant knowledge and expertise to support your learning journey
Identifying the training you need
The safeguarding training required will depend upon your role, we have guidance and FAQs to help you identify which level of training applies to you, see safeguarding requirements in Wales.
Once you have established which training you need, check with your local authority for details of any local courses, as these are often available at a subsidised rate.
How is our training delivered?
The training is delivered in two parts as blended learning, e-learning with PACEY Cymru and virtual tutor-led training with Children in Wales. You must complete the e-learning, before you attend the tutor-led training as you will be asked to refer to your workbook and notes from the e-learning during the tutor-led training.
A certificate will be issued upon completion of both parts of the training.
As the training is completed online you will need access to a computer, and some computer skills, to complete the course. We would recommend access to a PC or laptop to complete the training as you will be required to download, save, and complete a workbook.
Upcoming tutor-led training dates are below, be sure to allow sufficient time to complete the e-learning part of the course in the two weeks before your tutor-led training when booking:
Training | Date | Time | Cost |
Intermediate (Group B) Safeguarding | Thursday, 26 September 2024 | 6.30-9.30pm | Closed |
Advanced (Group C) Safeguarding children | Saturday, 12 October 2024 | 9.30am – 4pm | Fully booked |
Intermediate (Group B) Safeguarding | Wednesday, 23 October 2024 | 6.30-9.30pm | Fully booked |
Advanced (Group C) Safeguarding children | Tuesday 5 and Wednesday 6, November 2024 | 6.30-9.30pm | Fully booked |
Advanced (Group C) Safeguarding children | Monday 11 and Thursday 14 November 2024 | 6.30-9.30pm | Fully booked |
Advanced (Group C) Safeguarding children | Saturday, 30 November 2024 | 9.30am – 4pm | £69.00 |
How to book and complete your training
Step 1) Check with your local authority to see whether subsidised training is available locally to you before booking on to PACEY Cymru’s and Children in Wales’ training.
Step 2) Choose your date for the tutor-led training with Children in Wales and purchase your course.
Book here
Remember to allow sufficient time to complete the e-learning part of the course in the two weeks before your tutor-led training when booking.
Step 3) You will receive a booking confirmation for the tutor-led training by email from Children in Wales.
Step 4) Forward your booking confirmation to paceycymru@pacey.org.uk for enrolment onto the e-learning part of your course.
Step 5) You will receive confirmation of your enrolment and access to the e-learning course by email from PACEY Cymru two weeks in advance of your tutor-led course date.
Step 6) Access and work through the e-learning part of your course. As part of this download your workbook, work through this and the online knowledge checks when prompted within the e-learning. Be sure to complete the e-learning part of your course before the tutor-led training date.
Step 7) Attend the tutor led part of your course. The email sent by Children in Wales will have the link and access requirements for this. Have your downloaded and completed workbook from the e-learning to hand as this will be referred to throughout the training.
Step 8) Once you have completed both parts of the course your electronic certificate will be released to you by Children in Wales and can be shared with CIW and others as needed.
If you need to cancel or amend your booking
You will need to contact Children in Wales to discuss. Any course cancellations or amends will be in line with the Children in Wales policy given the payment is being made to them.
Mae PACEY Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu pecyn hyfforddiant ar gyfer y sector yn unol â’r safonau diwygiedig sy’n bodloni anghenion pawb sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Bydd yr hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gyflwyno trwy ddull cyfunol o ddysgu ar-lein hunangyfeiriedig a dysgu dan arweiniad hyfforddwr.
Prynwyr, byddwch yn ofalus!
- Bydd rhai cyrsiau’n cael eu hadeiladu’n benodol i Loegr hyd yn oed os cânt eu marchnata yng Nghymru, bydd ganddynt gysylltiadau amherthnasol a chamarweiniol â pholisi ac arfer.
- Mae gan rai darparwyr hyfforddiant brosesau ansawdd mewnol cadarn i gefnogi datblygiad a darpariaeth ac yn edrych i adolygu’r rhain o bryd i’w gilydd, ond nid yw hyn bob amser yn digwydd.
- Os yw’r pris yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg ei fod, a dylech fod yn ofalus.
- Manteisiwch ar gyllid gan eich awdurdod lleol os yw ar gael i leihau’r costau y mae’n rhaid i chi eu talu.
- Gall fod camsyniad bod cyrsiau a’r un teitl, neu deitlau tebyg, yn debyg iawn mewn cynnwys, ond gall yr ansawdd amrywio’n fawr.
- Nid yw adolygiadau ar-lein cadarnhaol bob amser yn ddangosydd da o ansawdd hyfforddiant ac maent yn agored i’w camddefnyddio.
Wrth geisio prynu neu gael mynediad at hyfforddiant diogelu yng Nghymru, mae angen i chi ystyried yn ofalus a yw’r hyfforddiant yn bodloni’r gofynion Atodiad C y Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig. Yn benodol:
- Mae’r cwrs yn benodol i Gymru
- Mae ar y lefel ofynnol ar gyfer eich rôl (gweler Atodiad C y Safonau (NMS) am ragor o fanylion)
- Mae’n cael ei gyflwyno mewn ffordd briodol i fodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (ar-lein ar gyfer hyfforddiant Grŵp A ac wedi’i gyfuno neu wyneb yn wyneb ar gyfer hyfforddiant grŵp B ac C)
- Mae hyd y cwrs yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Pam dewis yr hyfforddiant a ddarperir gan PACEY Cymru a Plant yng Nghymru?
- Mae’n bodloni gofynion diwygiedig y Safonau Gofynnol Cenedlaethol
- Hyfforddiant o ansawdd uchel wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion penodol y gweithlu gofal plant a chwarae yng Nghymru
- Dull cyfuno gyda chydbwysedd o e-ddysgu hunan-gyfeiriedig a chyflwyniad dan arweiniad tiwtor yn rhoi’r hyblygrwydd i chi ymgymryd â’r hyfforddiant o amgylch eich bywydau gwaith prysur.
- Mae hyfforddwyr wedi’u cymeradwyo ac mae ganddynt wybodaeth ac arbenigedd perthnasol i gefnogi eich taith ddysgu
Adnabod yr hyfforddiant sydd ei angen arnoch
Bydd yr hyfforddiant diogelu sydd ei angen yn dibynnu ar eich rôl, mae gennym ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i adnabod pa lefel o hyfforddiant sy’n berthnasol i chi mewn hyfforddiant diogelu yng Nghymru.
Unwaith y byddwch wedi sefydlu pa hyfforddiant sydd ei angen arnoch, holwch eich awdurdod lleol am fanylion gyrsiau lleol, gan fod y rhain ar gael yn aml am bris gostyngol.
Sut darparir ein hyfforddiant?
Cyflwynir yr hyfforddiant mewn dwy ran fel dysgu cyfunol, e-ddysgu gyda PACEY Cymru a hyfforddiant rhithiol dan arweiniad tiwtor gan Plant yng Nghymru. Mae’n rhaid i chi gwblhau’r e-ddysgu, cyn i chi fynychu’r hyfforddiant dan arweiniad tiwtor gan y gofynnir i chi gyfeirio at eich llyfr gwaith a nodiadau o’r e-ddysgu yn ystod yr hyfforddiant dan arweiniad tiwtor.
Rhoddir tystysgrif wedi i chi cwblhau dwy ran yr hyfforddiant.
Gan fod yr hyfforddiant gael ei gwblhau ar-lein bydd angen mynediad i gyfrifiadur, a rhai sgiliau cyfrifiadurol, i gwblhau’r cwrs. Byddem yn argymell mynediad i gyfrifiadur neu liniadur i gwblhau’r hyfforddiant gan y bydd angen i chi lawr lwytho, cadw a chwblhau llyfr gwaith.
Mae dyddiadau hyfforddiant dan arweiniad tiwtor sydd ar ddod isod, gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i gwblhau’r rhan e-ddysgu o’r cwrs yn y pythefnos cyn eich hyfforddiant dan arweiniad tiwtor:
Hyfforddiant | Dyddiad | Amser | Pris |
Diogelu Canolradd (Grŵp B) |
Dydd Iau, 26 Medi 2024 | 6.30-9.30yp | Wedi cau |
Diogelu Plant Uwch (Grŵp C) | Dydd Sadwrn, 12 Hydref 2024 |
9.30yb – 4yp | Llawn |
Diogelu Canolradd (Grŵp B) |
Dydd Mercher, 23 Hydref 2024 |
6.30-9.30yp | Llawn |
Diogelu Plant Uwch (Grŵp C) | Dydd Mawrth 5 ac Dydd Mercher 6, Tachwedd 2024 | 6.30-9.30yp | Llawn |
Diogelu Plant Uwch (Grŵp C) | Dydd Llun 11 ac Dydd Iau 14 Tachwedd 2024 | 6.30-9.30yp | Llawn |
Diogelu Plant Uwch (Grŵp C) | Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd 2024 | 9.30yb – 4yp | £69.00 |
Sut i archebu a chwblhau eich hyfforddiant
Cam 1) Cyn archebu lle ar hyfforddiant PACEY Cymru a Plant yng Nghymru, gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol i weld a oes hyfforddiant cymorthdaledig ar gael yn lleol.
Cam 2) Dewiswch eich dyddiad ar gyfer yr hyfforddiant dan arweiniad tiwtor gyda Plant yng Nghymru a phrynwch eich cwrs yma. Cofiwch, wrth archebu, i ganiatáu digon o amser i gwblhau’r rhan e-ddysgu o’r cwrs yn y pythefnos cyn eich hyfforddiant dan arweiniad tiwtor.
Archebwch yma
Cam 3) Byddwch yn derbyn cadarnhad archeb ar gyfer yr hyfforddiant dan arweiniad tiwtor trwy e-bost gan Plant yng Nghymru.
Cam 4) Anfonwch eich cadarnhad archeb ymlaen at paceycymru@pacey.org.uk i gofrestru ar gyfer rhan e-ddysgu eich cwrs.
Cam 5) Byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch cofrestriad a mynediad i’r cwrs e-ddysgu trwy e-bost gan PACEY Cymru bythefnos cyn dyddiad eich cwrs dan arweiniad tiwtor.
Cam 6) Cewch fynediad a gweithiwch drwy’r rhan e-ddysgu o’ch cwrs. Fel rhan o hyn lawr lwythwch eich llyfr gwaith, gweithiwch drwy hwn a phan ofynnir o fewn y cwrs e-ddysgu, gwiriwch y wybodaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau rhan e-ddysgu eich cwrs cyn y dyddiad hyfforddi dan arweiniad tiwtor.
Cam 7) Mynychwch y rhan o’ch cwrs a arweinir gan diwtor. Bydd gan yr e-bost a anfonir gan Plant yng Nghymru’r gofynion cyswllt a mynediad ar gyfer hyn. Lawrlwythwch eich llyfr gwaith o’r e-ddysgu a sicrhewch ei fod wedi ei gwblhau ac wrth law gan y bydd cyfeiriad at hwn drwy gydol yr hyfforddiant.
Cam 8) Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ddwy ran o’r cwrs bydd eich tystysgrif electronig yn cael ei rhyddhau i chi gan Plant yng Nghymru a gellir ei rhannu ag AGC ac eraill yn ôl yr angen.
Os oes angen i chi ganslo neu newid eich archeb
Bydd angen i chi gysylltu â Plant yng Nghymru i drafod ymhellach. Bydd unrhyw gyrsiau a gaiff eu canslo neu eu diwygio yn unol â pholisi Plant yng Nghymru o ystyried bod y taliad yn cael ei wneud iddynt.
Gwybodaeth bellach
Latest News
Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector