Numeracy is not just numbers / Mae rhifedd yn fwy na rhifau
March 4, 2025
Numeracy is an integral part of children’s everyday lives, with support and opportunities to explore mathematical concepts children can develop their exploration, curiosity, and communication skills.
In this Blog PACEY Cymru speaks to Eleri Williams who accessed three ‘numeracy in early years’ webinars facilitated by PACEY Cymru and tells us how the information shared has supported her practice and the experiences she now offers the children in her care.
Tell us about your setting
I registered as a childminder in 2024, as a bilingual provision, based in Ceredigion. I am registered with CIW (Care Inspectorate Wales) to care for children up to 12 years but currently provide care for children under the age of 6 years. I chose the location of my property carefully as I wanted a rural setting with the countryside on my doorstep, so that we could utilise the environment in our everyday play and learning. I have a large outdoor area, which has a section for our ducks and chickens that the children love to help care for. I am also lucky that within the grounds there are a range of fruit trees where the children are encouraged to pick their own fruit for a snack.
What interested you in the numeracy in early years webinars?
As a newly registered childminder I am eager to develop in the role. Having read about the series of webinars that PACEY Cymru were offering in relation to early numeracy I realised that this was an area I would like to develop my understanding of further. The course description explained each session and I therefore decided it was exactly what I needed, as they would equip me with ideas and knowledge that I could use in my every day, home-based childcare practice.
The first session discussed exploring, sharing, sorting, and grouping through playful, practical activities. The second session focussed on the understanding of numeracy in everyday lives including outdoor learning experiences. The third session discussed the role of the engaging adult in relation to supporting early numeracy, providing inspiration on how to introduce young children to the world of numeracy through exploration, investigation, experimentation, and critical thinking.
How has this training influenced your practice?
As a newly registered childminder it is hard to know if what you are doing is right. After the training I felt reassured and informed. The discussions during the sessions enabled me to reflect on my current practice. It reminded me that there is more to numeracy than counting and number recognition. The training helped me identify aspects that were working well within my provision and provided a confidence boost as I was reassured that I was already incorporating lots of opportunities to develop early numeracy skills. The discussions helped me understand my role as the enabling adult and in creating a numeracy rich environment, the importance of open-ended resources and mathematical tools such as tape measures and weighing scales. I now understand that by providing something that provokes interest, awe and wonder and giving children time to explore, allows them to develop many numerical skills including decision making. It was shared with us of the need for children to learn by trial and error, having access to a range of resources to explore and incorporate as well as opportunities to plan and let children solve their own problems without an enabling adult imposing a solution. We discussed how we can scaffold children’s play, by asking open ended questions, and including mathematical vocabulary to encourage the children to develop their foundational skills. Since the training I am more aware of the questions I’m asking to scaffold the children’s understanding, stepping back to allow time for them to be absorbed in their play and have uninterrupted time to explore and experiment. Already I can see the benefit of this in terms of concentration.
In addition it has given me a greater awareness of numeracy in terms of the curriculum, the part it plays in the children’s development; the importance of observation and knowing how to support children whilst also allowing them to pose and solve their own problems using everyday items and experiences, allowing them to work on developing key life skills. The course has emphasised the benefit of an inspiring and enriched environment, the need for a good understanding of each child’s interests and that each child faces a different challenge, even when given the same experience.
I am also now looking at the resources I have and the activities and experiences I provide in a new light. Taking time to think how I can incorporate a wider variety of play experiences to enhance children’s numeracy skills as much as possible.
Christmas was an amazing opportunity to holistically incorporate mathematical vocabulary into our play. The children loved posting letters to Santa. I took this opportunity to expand on their skills by not only counting the letters, and recognising numbers on the letters, as I would have previously, instead I offered a range of letters to post. Children sorted and matched the letters, ordered by size, we talked about the positioning of the stamps, and took them to the post box to post to Santa. Even at the post box there was numerical vocabulary used; we talked about the height of the post box how they had to reach up high to post the letter. We talked about who was the tallest. Where do the letters go? On the post box or in the post box? We even looked at how they fit in the post box, what if the letters were too big? How could we get them in?
I have also provided the children with a variety of exploration trays. These included berries, dried fruits, fir tree branches, and ice cubes. Using these provided opportunities to compare, order, sort, and match items by size.
The sessions inspired me, and I look forward to incorporating the new ideas into our play. While I have many resources for small loose parts play, the idea of using Go kart tyres, old steering wheels and guttering to enhance the environment is such a fabulous idea. Go kart tyres are small enough for the children to roll, stack and organise and I will definitely be looking to include these in my outside area.
As a result of the training, I can see a wealth of opportunity for mathematical vocabulary development. It’s been heartening to observe the children incorporating into their independent play, some of the new mathematical vocabulary I have introduced since attending the webinars. This shows that they have retained the information modelled and shared.
I am enthused to use the children’s natural curiosity and fascinations to embed the essential foundational skills including sorting and classifying, understanding spatial awareness of themselves and shapes as well as recognising patterns, counting and understanding numbers. My outdoor area is perfect for using the children’s love of nature and the outdoors to ignite their imagination and allow opportunities for learning and consolidating all of the skills covered in the sessions. For example, when we go out for walks in the autumn, we will continue to collect leaves and allow the children to sort, match by size, shape, and count. I can enhance their learning by creating problem solving scenarios which pose a challenge to each child and allow them to solve their individual challenges.
Would you have any top tips or suggestions for peers?
My top tip would be to look at each activity and experience and consider the wider numeracy skills that can come from it. Numeracy is not just numbers.
Mae rhifedd yn rhan annatod o fywydau bob dydd plant, gyda chefnogaeth a chyfleoedd i archwilio cysyniadau mathemategol gall plant ddatblygu eu harchwiliad, eu chwilfrydedd, a'u sgiliau cyfathrebu.
Yn y Blog hwn, siarada PACEY Cymru ag Eleri Williams a gyrchodd dair gweminar 'rhifedd yn y blynyddoedd cynnar' wedi'u hwyluso gan PACEY Cymru a dywed wrthym sut y mae'r wybodaeth a rannwyd wedi cefnogi ei harfer a'r profiadau y mae'n eu cynnig i blant dan ei gofal.
Dywedwch wrthym am eich lleoliad
Cofrestrais fel gwarchodwr plant yn 2024, fel darpariaeth ddwyieithog, wedi fy lleoli yng Ngheredigion. Rwyf wedi cofrestru gydag AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) i ofalu am blant hyd at 12 oed, ond yn darparu gofal ar hyn o bryd i blant sy'n iau na 6 oed. Dewisais leoliad fy eiddo yn ofalus oherwydd roeddwn eisiau lleoliad gwledig gyda chefn gwlad ar garreg fy nrws, er mwyn i ni allu defnyddio'r amgylchedd yn ein chwarae a'n dysgu bob dydd. Mae gennyf ardal awyr agored fawr, ac ynddi ardal ar gyfer ein hwyaid a'n hieir y mae'r plant wrth eu boddau yn helpu i ofalu amdanynt. Rwy'n ffodus bod yr ardd yn cynnwys ystod o goed ffrwythau ac mae'r plant yn cael eu hannog i gasglu eu ffrwyth eu hunain i gael byrbryd.
Beth am y gweminarau rhifedd yn y blynyddoedd cynnar a ddenodd eich diddordeb?
Fel gwarchodwr plant sydd newydd gofrestru rwy'n awyddus i ddatblygu yn y rôl. Ar ôl darllen am y gyfres o weminarau yr oedd PACEY Cymru yn eu cynnig mewn perthynas â rhifedd cynnar, sylweddolais fod hwn yn agwedd yr hoffwn ddatblygu fy nealltwriaeth ohono ymhellach. Esboniodd y disgrifiad cwrs pob sesiwn ac felly penderfynais mai dyna'n union oedd ei angen arnaf, gan y byddent yn fy nghyfarparu â syniadau a gwybodaeth y gallwn eu defnyddio yn fy arfer gwarchod plant yn y cartref bob dydd.
Trafododd y sesiwn gyntaf archwilio, rhannu, didoli, a grwpio trwy weithgareddau ymarferol, chwareus. Canolbwyntiodd yr ail sesiwn ar ddealltwriaeth o rifedd ym mywyd bob dydd gan gynnwys profiadau dysgu awyr agored. Trafododd y trydydd sesiwn rôl yr oedolyn sy'n ymgysylltu mewn perthynas â chefnogi rhifedd cynnar, gan gynnig ysbrydoliaeth ar sut i gyflwyno plant ifanc i'r byd rhifedd trwy archwilio, ymchwilio, arbrofi, a meddwl yn gritigol.
Sut y mae'r hyfforddiant hwn wedi dylanwadu ar eich arfer?
Fel gwarchodwr plant sydd newydd gofrestru mae'n anodd gwybod a ydych chi'n gwneud y pethau cywir. Ar ôl yr hyfforddiant roeddwn i'n teimlo'n fwy hyderus a gwybodus. Fe wnaeth y trafodaethau yn ystod y sesiynau alluogi imi fyfyrio ar fy arfer presennol. Fe wnaeth fy atgoffa bod mwy i rifedd na chyfrif ac adnabod rhifau. Fe wnaeth yr hyfforddiant fy helpu i adnabod agweddau a oedd yn gweithio'n dda o fewn fy narpariaeth ac fe roddodd hwb i fy hyder gan fy mod yn fwy hyderus fy mod eisoes yn cynnwys llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhifedd cynnar.
Fe wnaeth y trafodaethau fy helpu i ddeall fy rôl fel yr oedolyn sy'n galluogi ac wrth greu amgylchedd sy'n cyfoethogi o ran rhifedd, pwysigrwydd adnoddau pen agored ac offer mathemategol megis tapiau mesur a chloriannau pwyso. Deallaf yn awr trwy gynnig rhywbeth sy'n pryfocio diddordeb a rhyfeddod a rhoi amser i blant archwilio, mae'n caniatáu iddynt ddatblygu llawer o sgiliau rhifiadol gan gynnwys gwneud penderfyniadau. Rhannwyd gyda ni'r angen i blant ddysgu trwy brofi a methu, gyda mynediad at ystod o adnoddau i'w harchwilio a'u cynnwys ynghyd â chyfleoedd i gynllunio a gadael i blant ddatrys eu problemau eu hunain heb i oedolyn sy’n galluogi dysgu i orfodi datrysiad. Buom yn trafod sut y gallwn sgaffaldio chwarae plant, trwy ofyn cwestiynau pen agored, a chynnwys geirfa fathemategol i annog y plant i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol.
Ers yr hyfforddiant, rwy'n fwy ymwybodol o'r cwestiynau rwy'n eu gofyn i sgaffaldio dealltwriaeth y plant, gan gamu yn ôl i ganiatáu amser iddynt gael eu hamsugno yn eu chwarae a chael amser heb ymyrraeth i archwilio ac arbrofi. Eisoes gallaf weld budd hyn o ran canolbwyntio.
Yn ychwanegol, mae wedi rhoi ymwybyddiaeth gynyddol i mi o rifedd o ran y cwricwlwm, y rhan y mae'n chwarae yn natblygiad plant; pwysigrwydd arsylwi a gwybod sut i gefnogi plant wrth hefyd ganiatáu iddynt ofyn a datrys eu problemau eu hunain gan ddefnyddio eitemau a phrofiadau bob dydd, gan ganiatáu iddynt weithio ar ddatblygu sgiliau bywyd allweddol. Mae'r cwrs wedi pwysleisio budd amgylchedd ysbrydoledig a chyfoethog, yr angen am ddealltwriaeth dda o ddiddordebau pob plentyn a bod pob plentyn yn wynebu her wahanol, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cael yr un profiad.
Rwyf bellach yn edrych ar yr adnoddau sydd gennyf i a'r gweithgareddau a'r profiadau rwyf yn eu darparu mewn goleuni newydd. Gan gymryd amser i feddwl sut y gallaf gynnwys amrywiaeth ehangach o brofiadau chwarae i gyfoethogi sgiliau rhifedd plant cymaint â phosibl.
Roedd y Nadolig yn gyfle anhygoel i gynnwys geirfa fathemategol yn gyfannol yn ein chwarae. Roedd y plant wrth eu bodd yn postio llythyron at Siôn Corn. Manteisiais ar y cyfle hwn i ehangu ar eu sgiliau trwy wneud mwy na dim ond cyfrif y llythyron ac adnabod rhifau ar y llythyron, fel y byddwn wedi gwneud yn flaenorol, yn lle hynny cynigiais ystod o lythyron i'w postio. Bu'r plant yn didoli ac yn paru'r llythyron, yn eu trefnu yn ôl eu maint, ac yn trafod safle'r stampiau, ac yn mynd â nhw i'r bwlch postio i'w postio at Siôn Corn. Hyd yn oed wrth y blwch postio, defnyddiwyd geirfa rifiadol; buom yn trafod uchder y blwch postio a sut yr oedd angen iddynt ymestyn yn uchel i bostio'r llythyr. Buom yn trafod pwy oedd y talaf. Ble mae'r llythyron yn mynd? Ar y blwch postio neu yn y blwch postio? Fe wnaethom hyd yn oed edrych ar sut y maen nhw'n ffitio yn y blwch postio, beth petai'r llythyron yn rhy fawr? Sut byddai modd inni eu ffitio?
Rwyf hefyd wedi rhoi amrywiaeth o hambyrddau archwilio i'r plant. Roedd y rhain yn cynnwys llus, ffrwythau sych, canghennau coed pinwydd, a chiwbiau iâ. Roedd defnyddio'r rhain yn cynnig cyfleoedd i gymharu, trefnu, didoli, a pharu eitemau yn ôl maint.
Fe wnaeth y sesiynau hyn fy ysbrydoli, ac edrychaf ymlaen at gynnwys y syniadau newydd yn ein chwarae. Er bod gennyf lawer o adnoddau ar gyfer chwarae rhannau rhydd bach, mae'r syniad o ddefnyddio teiars gwibgart, hen olwynion llywio a chafnau i gyfoethogi'r amgylchedd yn syniad anhygoel. Mae teiars gwibgerti yn ddigon bach i'r plant eu rholio, eu pentyrru a'u trefnu a byddaf yn bendant yn edrych i'w cynnwys yn fy ardal awyr agored.
O ganlyniad i'r hyfforddiant, gallaf weld cyfoeth y cyfleoedd ar gyfer datblygu geirfa fathemategol. Mae wedi bod yn galonogol arsylwi ar y plant yn cynnwys yn eu chwarae annibynnol, peth o'r eirfa fathemategol newydd rwyf wedi'i chyflwyno ers mynychu'r gweminarau. Dengys hyn eu bod wedi cadw'r wybodaeth a fodelwyd a'i rhannu.
Rwy'n frwdfrydig i ddefnyddio chwilfrydedd a rhyfeddodau naturiol plant i wreiddio sgiliau sylfaenol hanfodol gan gynnwys didoli a dosbarthu, deall ymwybyddiaeth ofodol o'u hunain a siapiau ynghyd ag adnabod patrymau, cyfrif a deall rhifau. Mae fy ardal awyr agored yn ddelfrydol ar gyfer defnyddio cariad y plant at natur a'r awyr agored i danio eu dychymyg a chaniatáu cyfleoedd ar gyfer dysgu ac atgyfnerthu’r holl sgiliau a drafodwyd yn y sesiynau. Er enghraifft, pan awn am dro yn yr hydref, byddwn yn parhau i gasglu dail ac yn caniatáu i blant ddidoli, paru yn ôl maint, siâp, a chyfrif. Gallaf gyfoethogi eu dysg trwy greu senarios datrys problemau sy'n herio pob plentyn ac yn caniatáu iddynt ddatrys eu heriau unigol.
A fyddai gennych unrhyw gyngor neu awgrymiadau gwych i gyfoedion?
Fy mhrif gyngor fyddai edrych ar bob gweithgaredd a phrofiad ac ystyried y sgiliau rhifedd ehangach a all ddod ohono. Mae rhifedd yn fwy na rhifau.
To provide the best experiences, we use technologies like cookies to store and/or access device information. Consenting to these technologies will allow us to process data such as browsing behaviour or unique IDs on this site. Not consenting or withdrawing consent, may adversely affect certain features and functions.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.