Update 7 November 2023: Extended deadline for childminder assistants meeting qualification requirement now 30 November 2024
Following our news story, in this blog we take a closer look at what the changes to the National Minimum Standards for Regulated Childcare (NMS) mean for those working, or looking to work, with a childminder assistant in Wales.
Welsh Government published a refresh of the National Minimum Standards (NMS) for regulated childcare on the 19 May. This follows a 2019 review and public consultation in 2022-23.
What changes have been made in relation to childminder assistants?
The standards have been revised to be clearer. In particular Standard 13: Suitable person (CM) sets out the responsibilities and role of registered childminders working with a childminding assistant and the relevant training an assistant must undertake. This includes the requirement for assistants to have successfully completed an appropriate course recognised in Social Care Wales’ Qualification Framework. A lead in time is provided for new and existing assistants to meet this new requirement.
Update: extended deadline for childminder assistants meeting qualification requirement. On 7 November Welsh Government confirmed an extension of the lead in time for childminders to meet Standard 13.4 (CM) from end of November 2023 to end of November 2024.
The Welsh Government have included additional guidance as an annex in the NMS.
What is the definition of a childminding assistant?
A childminder assistant can be an employee or a volunteer in a paid or unpaid role who works with children under a registered childminder. It would not include a student on placement in a child minding setting.
Do I need to notify CIW about my intention to work with a childminding assistant?
Childminders must notify CIW about their intention to work with an assistant to look after children. The notification must be made through the childminder’s CIW online account and in advance of the assistant starting to work at the service.
What childcare training does an assistant need to complete?
Any assistant employed by a childminder must have successfully completed an appropriate course recognised in Social Care Wales' Qualification Framework. Existing childminder assistants are required to have attained the required qualification by the end of November 2024 (Standard 13.4(CM)).
The framework notes Introduction to Home-based childcare (IHC) as the current unit accepted, PACEY Cymru can deliver this training, see home-based childcare training in Wales. Those who hold one of the past qualifications noted in the framework do not have to complete IHC. Please contact your local authority childcare team for details on how to access training and funding available. Welsh speakers that are members of PACEY (or join as a member of PACEY) may be able to access Welsh language funding for their course through PACEY Cymru. Please email paceycymru@pacey.org.uk for further details.
When do new and existing assistants need to have completed the course by?
On 7 November Welsh Government confirmed an extension of the lead in time for childminders to meet Standard 13.4 (CM) from end of November 2023 to end of November 2024.
Please note for those that have already enrolled on the training you have been given an individual completion date. You must ensure that you work towards completing your training by this completion date, all current learners will have received an email with further information. If you have any questions please contact paceycymru@pacey.org.uk.
If I take on an assistant after the deadline do they have to have completed the course before they start work?
Yes, After the deadline any assistant employed by a childminder must have successfully completed an appropriate course recognised in the Social Care Wales’s Qualification Framework. This will need to have been achieved before starting work as a childminder assistant.
What first aid training does a childminding assistant require?
Any assistant who might be in sole charge of the children for any period of time, must hold a Full Paediatric First Aid certificate (12 hours) before commencing child minding. (Standard 10.22)
If the assistant is not left in sole charge of children, they should have an Emergency Paediatric First Aid certificate. The Emergency Paediatric First Aid certificate (6 hours) should be undertaken within three months of starting work. (Standard 10.23).
A lead in time of 18 months until the end of November 2024 is provided to enable providers to meet the new qualification requirements related to First Aid.
All first aid certificates should be kept up to date and renewed every 3 years.
Local Authority childcare teams will be able to advise on courses available locally.
What safeguarding training does a childminder assistant require?
The assistant must have completed child protection/safeguarding training and must be able to put the child protection/ safeguarding policy into practice and implement the procedures. This includes awareness of safeguarding and child protection issues, including physical abuse, neglect, emotional abuse and sexual abuse.
The assistant must be aware of their responsibility to report concerns according to the Wales Safeguarding Procedures without delay.
Annex C of the NMS- Safeguarding Guidance: Roles and Responsibilities details the types of roles in childcare and playwork and the safeguarding training appropriate to different roles within the sector.
Annex C states for childminder assistants the relevant training is group B (Level 2 Safeguarding Intermediate Course.
A lead in time of 18 months until the end of November 2024 is provided to enable providers to meet the new training requirements.
Local Authority childcare teams will be able to advise on courses available locally.
Can a childminder assistant be left alone with children?
If all the requirements of the NMS are met in full then a childminding assistant can be left alone with children. There is detail below on some of the requirements and further detail in Annex A of the NMS and in the standards themselves.
The contract between the childminder and the parents/carers should include details about when their children will be left alone with an assistant and parents/carers should sign their agreement to this.
If the childminder starts to work with an assistant after the contract is in place, then the contract must be amended to include details about when their children will be left alone with an assistant and parents/carers sign to confirm their agreement.
Policies and procedures must be amended where relevant to reflect working with an assistant and when children will be left alone with the assistant. Parents/carers should sign agreement to any policies and procedures where it reflects a childminder assistant’s role in working with children.
Can more children be cared for in the setting if working with a childminding assistant?
The maximum number of children for whom a childminder working alone may care is as follows.
- Ten children up to 12 years of age
- Of those ten children, no more than six may be under 8 years of age
- Of those six, no more than three may be under 5 years of age
- Of those three children, normally no more than two may be under 18 months of age, although exceptions can be made for siblings.
When working with an assistant the same adult:child ratios apply to the assistant, as the childminder, for any additional children. However, the available play space may affect these numbers.
If an assistant is not working, then the child minder must revert to the ratios for working alone.
You may also need to consider local planning requirements that may impact the number of children you can care for.
What details need to be included in the Statement of Purpose (SoP) in relation to childminder assistants?
- Clarification that the assistant is not registered with CIW and the childminder is responsible for ensuring suitability for the role. Details about the assistant including confirmation that the suitability checks, in accordance with both regulation 28 of the Child Minding and Day Care (Wales) Regulations 2010(as amended) and the NMS, have been undertaken before the assistant commences work.
- Details about qualifications and experience of the assistant.
- Description of roles and responsibilities of the assistant.
- Details of the length of time and types of activities/outings where children will be left alone with an assistant. If an assistant is not left alone with children this should also be specified in the SoP.
- Confirmation on the numbers and ages of children that an assistant will be caring for if left alone.
- How the assistant will be supervised and monitored.
What do I need to be aware of in relation to recruitment, induction, supervision and appraisal of a childminder assistant?
Annex A of the NMS has further details in relation to the recruitment, induction, supervision and appraisal of a childminder assistant. Childminders need to read this and ensure it is understood and implemented in practice.
What records need to be kept for a childminder assistant?
The childminder should keep a staff file for each assistant including records related to name, address, contact numbers, recruitment, induction, supervision, appraisal, training and qualifications. (Standard 13.7CM)
The hours any assistant works including any hours where they were working alone and the names of the children they are responsible for at these times should also be kept (Standard 13.8CM)
What insurance is required when working with an assistant?
If the assistant is using their own transport for minded children, they must have valid driving and vehicle licences, appropriate insurance cover and where required a current MOT certificate.
The childminder must hold Employers Liability Insurance if employing an assistant(s) and provide any required detail to their insurer around the roles and responsibilities including the time any child(ren) are left alone with the assistant to ensure there is valid insurance in place. There is information about Employer’s Liability Insurance cover on the PACEY website.
Further support
If you have any further queries please contact PACEY Cymru by email paceycymru@pacey.org.uk or telephone 02920 351407
Diweddariad 7 Tachwedd 2023: Dyddiad cau estynedig ar gyfer cynorthwywyr gwarchod plant yn cwrdd â gofynion cymhwyster nawr 30 Tachwedd 2024.
Yn dilyn ein
stori newyddion diweddar, yn y blog hwn rydym yn edrych yn agosach ar yr hyn y mae’r newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (NMS) yn ei olygu i’r rhai sy’n gweithio, neu’n edrych i weithio, gyda chynorthwyydd gwarchod plant yng Nghymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adnewyddiad o’r
Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer gofal plant a reoleiddir ar 19 Mai. Mae hyn yn dilyn adolygiad yn 2019 ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022-23.
Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â chynorthwywyr gwarchod plant?
Mae’r safonau wedi’u diwygio i fod yn gliriach. Yn benodol, mae Safon 13: - Person addas (GP) yn nodi cyfrifoldebau a rôl gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gweithio gyda chynorthwyydd gwarchod plant, a'r hyfforddiant perthnasol y mae'n rhaid i gynorthwyydd ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gynorthwywyr fod wedi cwblhau yn llwyddiannus, cwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Darperir amser arweiniol ar gyfer cynorthwywyr newydd a phresennol i fodloni'r gofyniad newydd hwn.
Diweddariad: Dyddiad cau estynedig ar gyfer cynorthwywyr gwarchod plant yn cwrdd â gofynion cymhwyster. Ar 7 Tachwedd 2023 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru estyniad y cyfnod sydd ar gael i warchodwyr plant fodloni Safon 13.4 (GP) o ddiwedd Tachwedd 2023 i ddiwedd Tachwedd 2024.
Bydd PACEY Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys canllawiau ychwanegol fel atodiad yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Beth yw diffiniad cynorthwy-ydd gwarchod plant?
Gall cynorthwy-ydd gwarchod plant fod yn weithiwr cyflogedig neu'n wirfoddolwr mewn rôl â thâl neu rôl ddi-dâl sy'n gweithio gyda phlant o dan warchodwr plant cofrestredig. Ni fyddai'n cynnwys myfyriwr ar leoliad mewn lleoliad gwarchod plant.
A oes angen i mi hysbysu AGC am fy mwriad i weithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant?
Rhaid i warchodwyr plant hysbysu AGC am eu bwriad i weithio gyda chynorthwy-ydd i ofalu am blant. Rhaid gwneud yr hysbysiad drwy gyfrif ar-lein AGC, y gwarchodwr plant a chyn i’r cynorthwyydd ddechrau gweithio yn y gwasanaeth.
Pa hyfforddiant gofal plant sydd angen i gynorthwyydd ei gwblhau?
Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn
Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n ofynnol i gynorthwywyr gwarchod plant presennol fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol erbyn diwedd Tachwedd 2024 (Safon 13.4 (GP).
Mae'r fframwaith yn nodi Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (CPC) fel yr uned gyfredol a dderbynnir, gall PACEY Cymru ddarparu'r hyfforddiant hwn, gweler
Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru. Nid oes rhaid i'r rhai sy'n meddu ar un o'r cymwysterau blaenorol a nodir yn y fframwaith gwblhau CPC. Cysylltwch â thîm gofal plant eich awdurdod lleol am fanylion ar sut i gael mynediad at yr hyfforddiant a'r cyllid sydd ar gael. Mae’n bosibl y bydd siaradwyr Cymraeg sy’n aelodau o PACEY (neu sy’n ymuno fel aelod o PACEY) yn gallu cael cymorth cyllidol i gwblhau’r cwrs yn y Gymraeg. Cymraeg ar gyfer eu cwrs trwy PACEY Cymru. Am ragor o fanylion anfonwch e-bost at
paceycymru@pacey.org.uk.
Erbyn pryd mae angen i gynorthwywyr newydd a phresennol fod wedi cwblhau'r cwrs?
Ar 7 Tachwedd 2023 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru estyniad y cyfnod sydd ar gael i warchodwyr plant fodloni Safon 13.4 (GP) o ddiwedd Tachwedd 2023 i ddiwedd Tachwedd 2024.
Sylwch, ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cofrestru ar yr hyfforddiant eich bod wedi cael dyddiad cwblhau unigol. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gweithio tuag at gwblhau eich hyfforddiant erbyn y dyddiad cwblhau hwn, bydd pob dysgwr presennol wedi derbyn e-bost gyda gwybodaeth bellach. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â paceycymru@pacey.org.uk.
Os byddaf yn cymryd cynorthwyydd ar ôl dyddiad cau, a oes rhaid iddynt fod wedi cwblhau'r cwrs cyn iddynt ddechrau gweithio?
Ar ddiwedd dyddiad cau, rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant fod wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd angen i hyn fod wedi ei gyflawni cyn dechrau gweithio fel cynorthwyydd gwarchod plant.
Pa hyfforddiant cymorth cyntaf sydd ei angen ar gynorthwy-ydd gwarchod plant?
Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a allai fydd â gofal dros y plant am unrhyw gyfnod o amser feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn (12 awr) cyn dechrau gwarchod plant. (Safon 10.22)
Os na ofynnir i’r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, dylai fod ganddynt dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng. Dylid ymgymryd â'r cwrs 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau'r Gwaith (Safon 10.23).
Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran cymwysterau sy’n ymwneud â Chymorth Cyntaf.
Dylid cadw pob tystysgrif cymorth cyntaf yn gyfredol a'i hadnewyddu bob 3 blynedd.
Bydd timau gofal plant Awdurdodau Lleol yn gallu rhoi cyngor ar gyrsiau sydd ar gael yn lleol.
Pa hyfforddiant diogelu sydd ei angen ar gynorthwyydd gwarchod plant?
Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod wedi cwblhau hyfforddiant amddiffyn plant/diogelu, a rhaid iddynt allu rhoi'r polisi amddiffyn/diogelu plant ar waith ynghyd â'r gweithdrefnau. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol.
Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn ymwybodol o'i chyfrifoldeb i adrodd am yn ddi-oed yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Mae Atodiad C, Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau yn manylu ar y mathau o rolau a geir ym maes gofal plant a gwaith chwarae, a’r hyfforddiant diogelu sy’n briodol i wahanol rolau o fewn y sector.
Mae Atodiad C yn nodi mai grŵp B yw’r hyfforddiant perthnasol ar gyfer cynorthwywyr gwarchodwyr plant (Cwrs Diogelu Canolraddol Lefel 2).
Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran hyfforddiant.
Bydd timau gofal plant Awdurdodau Lleol yn gallu rhoi cyngor ar gyrsiau sydd ar gael yn lleol.
A ellir gadael cynorthwy-ydd gwarchod plant ar ei ben ei hun gyda phlant?
Os bodlonir holl ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn llawn, yna gellir gadael cynorthwy-ydd gwarchod plant ar ei ben ei hun gyda phlant. Ceir manylion isod am rai o'r gofynion a rhagor o fanylion yn safonau eu hunain a hefyd Atodiad A o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Dylai'r contract rhwng y gwarchodwr plant a'r rhieni/gofalwyr gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a dylai'r rhieni/gofalwyr lofnodi eu cytundeb i hyn.
Os bydd y gwarchodwr plant yn dechrau gweithio gyda cynorthwy-ydd ar ôl i'r contract gael ei sefydlu, yna rhaid diwygio'r contract i gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a rhaid i'r rhieni lofnodi i gadarnhau eu bod yn cytuno.
Rhaid diwygio polisïau a gweithdrefnau, lle bo'n berthnasol, i adlewyrchu gweithio gyda chynorthwy-ydd a phryd y bydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd. Dylai rhieni/gofalwyr lofnodi eu bod yn cytuno ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau sy'n cyfeirio at rôl cynorthwy-ydd gwarchod plant.
A ellir gofalu am fwy o blant yn y lleoliad os ydynt yn gweithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant?
Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant sy’n gweithio ar ei ben ei hun ofalu amdanynt yw:
- 10 o blant hyd at 12 oed
- O'r 10 plentyn hynny, ni all mwy na chwech fod o dan wyth oed
- O'r chew phlentyn hynny, ni all mwy na thri fod o dan 5 oed
- O’r tri phlentyn hynny, ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed fel arfer, er bod eithriadau'n bosibl yn achos brodyr a chwiorydd.
Wrth weithio gyda chynorthwyydd mae'r un cymarebau oedolyn:plentyn yn berthnasol i'r cynorthwyydd, â'r gwarchodwr plant, ar gyfer unrhyw blant ychwanegol. Fodd bynnag, gall y lle chwarae sydd ar gael effeithio ar y niferoedd hyn.
Os nad yw cynorthwy-ydd yn gweithio, yna rhaid i'r gwarchodwr plant fynd yn ôl i weithio ar sail y cymarebau ar gyfer gweithio ar ei ben ei hun.
Efallai y bydd angen i chi hefyd ystyried gofynion cynllunio lleol a allai effeithio ar nifer y plant y gallwch ofalu amdanynt.
Pa fanylion sydd angen eu cynnwys yn y Datganiad o Ddiben mewn perthynas â chynorthwywyr gwarchodwyr plant?
- Cadarnhad nad yw'r cynorthwy-ydd wedi'i gofrestru gydag AGC a bod y gwarchodwr plant yn gyfrifol am sicrhau ei addasrwydd ar gyfer y rôl. Manylion am y cynorthwy-ydd, gan gynnwys cadarnhad bod y gwiriadau o’i addasrwydd, yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, wedi'u cynnal cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gweithio.
- Manylion am gymwysterau a phrofiad y cynorthwy-ydd.
- Disgrifiad o rolau a chyfrifoldebau'r cynorthwy-ydd.
- Manylion am hyd yr amser a'r mathau o weithgareddau/tripiau pan fydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd. Os nad yw cynorthwy-ydd yn cael ei adael ar ei ben ei hun gyda phlant, dylid nodi hyn hefyd yn y Datganiad.
- Cadarnhad o niferoedd ac oedran y plant y bydd cynorthwy-ydd yn gofalu amdanynt os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain.
- Sut bydd y cynorthwy-ydd yn cael ei oruchwylio a'i fonitro.
Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono mewn perthynas â recriwtio, sefydlu, goruchwylio ac arfarnu cynorthwy-ydd gwarchod plant?
Mae
Atodiad A y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cynnwys rhagor o fanylion am recriwtio, sefydlu, goruchwylio ac arfarnu cynorthwyydd gwarchod plant. Mae angen i warchodwyr plant ddarllen hwn a sicrhau ei fod yn cael ei ddeall a'i weithredu'n ymarferol.
Pa gofnodion sydd angen eu cadw ar gyfer cynorthwy-ydd gwarchod plant?
Dylai'r gwarchodwr plant cadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd, a fydd yn cynnwys cofnodion sy’n nodi eu henw, eu cyfeiriad, eu rhifau cyswllt, manylion y broses o’u recriwtio, eu sefydlu, eu goruchwylio, eu harfarnu, eu hyfforddiant a’u cymwysterau. (Safon 13.7GP)
Dylid hefyd gadw’r oriau y mae unrhyw gynorthwy-ydd yn eu gweithio gan gynnwys unrhyw oriau pan oedd yn gweithio ar eu pen eu hunain ac enwau’r plant y maent yn gyfrifol amdanynt ar yr adegau hyn. (Safon 13.8CM)
Pa yswiriant sydd ei angen wrth weithio gyda chynorthwy-ydd?
Os yw'r cynorthwy-ydd yn defnyddio ei gerbyd ei hun ar gyfer plant sy'n cael eu gwarchod, rhaid bod ganddo drwyddedau gyrru a cherbyd dilys, yswiriant priodol a thystysgrif MOT gyfredol lle bo angen.
Rhaid i'r gwarchodwr plant feddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr os yw'n cyflogi cynorthwy-ydd/ cynorthwywyr, a darparu unrhyw fanylion gofynnol i'w yswiriwr ynghylch rolau a chyfrifoldebau, gan gynnwys yr amser y caiff unrhyw blentyn/plant eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd, i sicrhau bod yswiriant dilys wedi’i drefnu. Mae gwybodaeth am yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ar
wefan PACEY.
Cefnogaeth bellach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â PACEY Cymru drwy e-bost
paceycymru@pacey.org.uk neu ffoniwch 02920 351407.