Gweminarau ar gyfer Cymru
Os ydych chi am drafod materion gofal plant pwysig mewn lleoliad cyfeillgar, cefnogol, cofrestrwch ar gyfer un o’n sesiynau rhyngweithiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal plant yng Nghymru.
Mae ein gweminarau yn sesiynau hyfforddi rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor PACEY profiadol. Byddant yn eich tywys fel rhan o grŵp bach o weithwyr gofal plant proffesiynol, trwy’r sesiwn ar-lein.
Gall gweminarau PACEY Cymru eich helpu i gadw mewn cysylltiad, cael y wybodaeth ddiweddaraf a pharhau gyda’ch datblygiad proffesiynol o bell o gysur a diogelwch eich cartref.
Mae PACEY Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o digwyddiadau i gefnogi gweithwyr gofal plant proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth a’u harferion.
Dyma beth oedd gan un aelod diweddar i’w ddweud am ei phrofiad gweminar:
“Fy mhryderon am weminar oedd na fyddai fel gweithdy wyneb yn wyneb, ond rwyf wedi darganfod nad yw hynny’n wir. Fe wnaethon ni ryngweithio yn union yr un ffordd gyda’r cyfleustra o beidio â gorfod gyrru i leoliad. (gwarchodwr plant, Cymru)
Gweminarau sydd ar ddod yng Nghymru
Ionawr 2025
8 Ionawr- 6-7yp: Sesiwn Friffio*Archebwch yma
9 Ionawr- 6.30-8yp: Fforwm gwarchodwyr plant**Â Archebwch yma
13 Ionawr- 12.30yp-1yp: C&A cyn-gofrestru*Â Â Archebwch yma
14 Ionawr- 6yp-7yp: Ysgrifennu eich polisïau a’ch gweithdrefnau* Archebwch yma
15 Ionawr – 6.30-7yp: Cymorth Iaith Cymraeg** Archebwch yma
16 Ionawr- 7-8yp: Sgiliau rhifedd plant (sesiwn 3)** Archebwch yma
22 Ionawr- 6.30-8yp: Cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal blynyddol**Â Archebwch yma
28 Ionawr- 6yp-7yp: Datganiad o Ddiben*Â Archebwch yma
29 Ionawr- 6.30-8yp: Deall niwrowahaniaethu (sesiwn 2)**Â Archebwch yma
30 Ionawr- 6-7yp: Dechrau’ch taith dysgu* Archebwch yma
Chwefror 2025
1 & 8 Chwefror – 9.30am-12.30pm: Uwch Arweinwyr, Hyfforddiant Cymru Wrth-hiliol* Archebwch yma
3 Chewfror – 12.30-1yp: C&A cyn-gofrestru* Archebwch yma
5 Chewfror – 6.30-7yp: Cymorth Iaith Cymraeg** Archebwch yma
6 Chwefror – 6.30-7.30yp: Camau i ofal plant yn y cartref* Archebwch yma
11 Chwefror – 6-7yp: Cwblhau eich cais AGC* Archebwch yma
13 Chwefror – 10-11yb: Sesiwn friffio* Archebwch yma
25 February- 6-7yp: Dechrau’ch taith dysgu* Archebwch yma
Mawrth 2025
12 Mawrth – 6.30-7yp: Cymorth Iaith Cymraeg** Archebwch yma
*Mae’r gweminarau hyn am ddim
**Mae’r gweminarau hyn am ddim i aelodau`Practioner’ PACEY yng Nghymru.
Cymryd rhan mwen Gweminar
Mae cymryd rhan mewn gweminar PACEY yn ffordd wych o drafod eich meddyliau ag eraill a gofyn cwestiynau i’n tiwtoriaid arbenigol. Mae gweminarau yn rhedeg gyda’r nos i’ch helpu i drefnu hyfforddiant o amgylch eich diwrnod gwaith prysur.
Mae pob gweminar rydych chi’n cymryd rhan ynddo yn mynd tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus, sy’n rhan bwysig o’ch ymrymiad i fod yn aelod o PACEY.
Sut i gadw lle-
Cofrestrwch ymlaen llaw trwy glicio ar y ddolen archebu uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, ffoniwch PACEY Cymru ar 02920 351407. Mae’r llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i’r amseroedd hyn, anfonwch e-bost at paceycymru@pacey.org.uk ac fe ddown yn ôl atoch chi.
Ddim yn gallu dod o hyd i’r hyfforddiant rydych chi’n chwilio amdano? Edrychwch ar ein gweithdai ac digwyddiadau, neu a oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer gweminarau yn y dyfodol? Cysylltwch â ni, Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae’r gweminarau hyn wedi’u datblygu’n benodol i gefnogi’ch ymarfer yng Nghymru ac mae rhestr o’r holl ddisgrifiadau gweminar i’w gweld isod.Â
Gweminarau gan ddarparwyr eraill
Mae CThEM yn rhedeg dau weminar am ddim ar gyfer gwarchodwyr plant yng Nghymru a Lloegr:
- Hyfforddiant gwrth-hiliaeth yng Nghymru, gan DARPL (Dysgu Proffesiynol ar Wrth-hiliaeth ac Amrywiaeth), a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
- Gofal Plant Di-Dreth, gweminar am y materion sylfaenol i bawb sy’n darparu gweithgareddau a gofal plant.
Cyn-gofrestru
Sesiynau briffio
Pam dewis bod yn warchodwr plant cofrestredig neu nani gymeradwy?
Os ydych chi’n frwd ynglŷn â rhoi’r dechrau gorau posib i fywyd i blant a hoffech gael gyrfa sy’n gweddu i’ch ymrwymiadau teuluol, yna gallai gyrfa fel gwarchodwr plant cofrestredig fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r gweithdy hwn yn amlinellu manteision dod yn warchodwr plant, a sut y gallwch feithrin eich sgiliau a datblygu busnes wrth gefnogi plant a theuluoedd yn eich cymuned leol.
Bydd y weminar hwn yn egluro rolau gwarchodwr plant cofrestredig a nani gymeradwy, yn ogystal â’ch galluogi i wneud y canlynol:
- Deall y broses gofrestru neu gymeradwyo
- Ystyried ai gwarchod plant neu ddod yn nani yw’r dewis gyrfa cywir i chi
- Deall y camau nesaf
Ysgrifennu eich polisïau a'ch gweithdrefnau
Dyma’r cyntaf yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Pan ddewch yn warchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ysgrifennu polisïau ar gyfer eich cais AGC, neu adolygu’r hyn rydych wedi’i ysgrifennu ar ôl cofrestru. Fel gwarchodwr plant, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r Rheoliadau sydd yno a bydd y gweminar hwn yn rhoi esboniad o hyn.
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Deall gwybodaeth berthnasol sy’n ofynnol yn eu Polisïau a’u Gweithdrefnau i leoliadau gwarchod plant yn unol â rheoliadau AGC.
- Deall sut i ddefnyddio’r canllawiau i gofrestru/diweddaru eich gwasanaeth.
Cwblhau eich cais AGC
Dyma’r drydedd yn yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Mae’r gweminar hwn yn rhoi trosolwg o’r camau nesaf ar ôl ysgrifennu’ch polisïau a’ch gweithdrefnau. Byddwn yn mynd trwy broses Ymgeisio AGC a’r gwaith papur angenrheidiol. Bydd y gweminar hwn yn eich cefnogi i ddefnyddio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, Rheoliadau, a gwybodaeth arall i ateb y cwestiynau addasrwydd.Â
Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn gallu:
- Adnabod y wybodaeth berthnasol sydd yn ofynnol o gais cofrestru AGC
- Paratoi i gwblhau’ch cais cofrestru gan ddefnyddio canllawiau PACEY Cymru ac AGC
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu’r gweminarau Datganiad o Ddiben ac Ysgrifennu’ch Polisïau a Gweithdrefnau cyn hyn.
Dechrau'ch taith dysgu
Mae’r weminar hon ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru i gwblhau’r uned Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC) gyda PACEY Cymru, gan gynnwys y rhai a fydd yn mynd ymlaen i gwblhau Paratoi ar gyfer Ymarfer Gwarchod Plant (PCP). Yn ystod y sesiwn byddwn yn cynnig awgrymiadau a chymorth i’ch helpu i gychwyn ar eich taith dysgu. Bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau, trafod arfer da, a bwrw golwg ar yr hyn sydd gan y platfform dysgu i’w gynnig.
Ar ôl y weminar, byddwch yn gallu:
- Cyrchu’r adnoddau sydd eu hangen i ddechrau’ch cwrs
- Deall sut i lywio’r platfform
- Ystyried sut i reoli’ch amser i gwrdd â’r dyddiad cau
- Deall gofynion y meini prawf asesu
- Gwybod sut a phryd i gyfeirnodi’ch gwaith
Datganiad o Ddiben
Dyma’r ail yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Pan fyddwch chi’n cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi ysgrifennu Datganiad o Ddiben, datganiad personol amdanoch chi a’ch gwasanaethau gwarchod plant. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ysgrifennu eich Datganiad o Ddiben, neu ei adolygu os ydych chi eisoes wedi cofrestru.
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Nodi’r wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol yn eu Datganiad o Ddiben
- Paratoi eu Datganiad o Ddiben gan ddefnyddio canllaw PACEY Cymru ac AGC
C&A cyn-gofrestru
Ydych chi’n cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru? Oes gennych chi gwestiynau am eich taith gofrestru?
Mae PACEY Cymru yn eich gwahodd i ymuno â’n sesiwn galw heibio ar-lein C&A cyn-gofrestru misol. Mae’n gyfle i chi ofyn cwestiynau a cheisio cyngor. Bydd y sesiynau’n anffurfiol ac yn hamddenol ac yn gyfle i sgwrsio â thîm PACEY.
Fforwm gwarchodwyr plant
Fforwm gwarchodwyr plant
Mae PACEY Cymru yn eich gwahodd i gadw lle ar ein Fforymau Gwarchodwyr Plant misol newydd. Yn y fforwm hwn cewch gyfle i gael diweddariadau, trafod ymholiadau, rhannu arferion da ac, ar adegau, clywed gan siaradwyr gwadd. Ein gobaith yw cadw’r sesiynau hyn yn anffurfiol ac yn hamddenol, gan roi’r cyfle i bobl gysylltu ag eraill yn rhithiol.
Arfer Proffesiynol (darparu gwasanaeth gwarchod plant o safon)
Camau at Ddiogelwch - Asesiadau Risg
 Nod y weminar hwn yw eich helpu i gydnabod pwysigrwydd asesiadau risg ac archwilio sut mae cyflawni asesiadau risg effeithiol a’u cofnodi, a sut mae dechrau cwblhau asesiad risg effeithiol ar gyfer eich lleoliadau eich hun.
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Disgrifio beth yw asesiadau risg a nodi’r rhesymau pam eu bod nhw’n bwysig
- Ystyried lefelau risgiau a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r rhain
- Ystyried gwahaniaethu risgiau yn dibynnu ar oedran plant a’u cam datblygu
Paratoi ar gyfer arolwg
Nod y weminar hon yw archwilio sut y gall darparwyr gofal plant cofrestredig baratoi ar gyfer eu harolwg, gan gynnwys cyfleoedd i hyrwyddo a thystiolaethu ansawdd y lleoliad yn ystod y broses. Byddwn yn archwilio sut y gall defnyddio Canllawiau Darparwyr Arolygu a Sgorio AGC gefnogi dealltwriaeth o raddfeydd a gwella ansawdd ym mhob thema o’r Fframwaith Arolygu.
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall proses arolygu’r AGC a’r hyn i’w ddisgwyl
- Paratoi ar gyfer eich arolwg AGC
- Adnabod sut i dystiolaethu a hyrwyddo ansawdd eich gwasanaeth
- Deall y sgôr a myfyrio ar eich ymarfer
Cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal blynyddol
Mae’r weminar hwn wedi’i dargedu at y rheiny sy’n paratoi i gwblhau eu Hadolygiad Ansawdd Gofal blynyddol. Mae’n edrych ar fanteision hunanasesu a’r meysydd o arfer gofal plant y gallech eu cynnwys yn eich adroddiadau. Yn dilyn hwn, byddwch yn deall sut mae cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal a chynllunio blaenoriaethau i’w gwella.
Yn dilyn y weminar hwn byddwch yn gallu:
- Deall pwysigrwydd hunan-fyfyrio
- Myfyrio ar feysydd o arfer gofal plant mewn perthynas â themâu Fframwaith Arolygu AGC
- Â Gwybod pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys yn eich Adolygiad Ansawdd Gofal.
Dyma beth oedd gan un aelod diweddar i’w ddweud:
Yn ôl ym mis Chwefror ymunais â’r gweminar ysgrifennu adroddiad Ansawdd Gofal ac, o ganlyniad, newidiais y ffordd rwy’n ysgrifennu fy adroddiad fy hun. Cefais fy arolwg hirddisgwyliedig ddoe, a’r sylw gan yr arolygwr oedd mai fy Adroddiad Ansawdd Gofal i yw o bosib yr un gorau a welodd hi erioed. Yn bendant yn werth aberthu noswaith werthfawr i fynychu’r hyfforddiant.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyflwyniad i gefnogi meddwl plant
Cyflwyniad i gynorthwyo plant i feddwl – Rhan 1
Bydd y weminar yma yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y gallwch gefnogi meddwl plant, gan gynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â thasg a ffocws, datrys problemau a datblygu’r dychymyg. Mae ffocws cryf ar lesiant a hunanreoleiddio trwy ryngweithio sensitif ag eraill trwy gydol yr hyfforddiant. Byddwn yn trafod sut y gall hunan-fyfyrio a’r rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn wella ansawdd y ddarpariaeth a lles plant sy’n annog cynnydd yn ansawdd y gofal.
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall beth yw ystyr meddwl ar y cyd parhaus o ran datblygiad plant
- Archwilio’r defnydd o feddwl ar y cyd parhaus er mwyn cefnogi lles emosiynol y plentyn
- Myfyriwch ar y cyfleoedd a ddarperir yn eich lleoliad
Cynorthwyo plant i feddwl – Rhan 2
Mae’r weminar hon yn dilyn ymlaen o’r cyflwyniad i gefnogi meddwl plant lle byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio’r Meddwl Cyson a Rennir a Lles Emosiynol (SSTEW) fel Pecyn Cymorth hunan-fyfyriol. Wnawn eich tywys drwy’r adnodd a darparu senarios i gefnogi arfer da trwy edrych ar bump is-raddfa SSTEW sy’n cynnwys: (i) Adeiladu ymddiriedaeth a hyder, (ii) Lles cymdeithasol ac emosiynol, (iii) Cefnogi ac ymestyn iaith a chyfathrebu, (iv) Cefnogi dysgu a meddwl yn feirniadol, (v) Asesu dysgu ac iaith. Trwy gydol y gweithdy hwn byddwn yn egluro cysyniad Pecyn Cymorth Graddfa SSTEW.
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall pwrpas Pecyn Cymorth SSTEW
- Defnyddiwch Raddfa SSTEW fel adnodd hunan-fyfyriol i wella’ch datblygiad proffesiynol
Cyfathrebu Hyderus - Pendantrwydd
A ydych chi wedi’i chael hi’n anodd cynnal sgyrsiau heriol gyda theuluoedd? Nod y weminar hwn yw eich cefnogi i ddod yn fwy pendant ac i’ch annog i ddefnyddio strategaethau i helpu i wella eich hunan-barch a hyder.Â
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Deall pwysigrwydd hunanddelwedd a hunan-barch
- Deall beth mae pendantrwydd yn ei olygu
- Nodi strategaethau i gyfathrebu’n fwy hyderus
Fy llais, Fy newis - Hawliau plant a chyfranogi
Nod y gweithdy hwn yw eich gwneud yn fwy ymwybodol o sut mae hyrwyddo hawliau plant a chyfranogi yn effeithiol gyda phlant yn eich gofal a’u teuluoedd. Byddwn yn egluro’r manteision amrywiol, gan gynnwys er lles hyder a hunan-barch y plant wrth iddynt dyfu’n oedolion gyda’r sgiliau y maen nhw wedi’u datblygu drwy gyfranogi.
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
Diffinio cyfranogiad effeithiol
- Adnabod arfer da cyfredol
- Datblygu sgiliau i gasglu tystiolaeth ar gyfer AGC o ran llais plant yn eich lleoliad
- Defnyddio’r dystiolaeth i fyfyrio a gwella eich arfer chi
Datblygu Busnes Gofal Plant
Tyfu fy musnes
Mae’r weminar hwn yn canolbwyntio ar sut mae gwella eich busnes, gan roi cymorth ac arweiniad i chi ynghylch gweithredu elfen fusnes o’ch gwasanaeth gofal plant. Bydd gennych gyfle i wella eich dealltwriaeth o amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar y modd rydych chi’n cynnal ac yn datblygu eich gwasanaeth, gan gynnwys llenwi swyddi gwag, rheoli eich arian, cadw cofnodion ac adolygu polisïau a gweithdrefnau.
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Edrych ar offer a strategaethau i farchnata eich busnes gofal plant
- Deall gofynion cadw cofnodion
- Ystyried cynllunio ariannol a goblygiadau cynnal busnes proffesiynol
- Gwybod ble i gael cyngor a chefnogaeth gan eraill
Cymorth ymgeisio am grant
Nod y gweminar yw cefnogi darparwyr gofal plant cofrestredig i baratoi cais grant o safon uchel. Byddwn yn ystyried sut gall grant gefnogi’ch lleoliad, y mathau o grant y gallwch ymgeisio ar eu cyfer, beth i ymgeisio ar ei gyfer a pha gymorth sydd ar gael i chi.
Yn dilyn y gweminar, byddwch yn gallu ystyried:
- y broses ymgeisio am grant
- y wybodaeth sydd ei hangen
- sut gall grant gefnogi’ch lleoliad
- sut i baratoi cais grant llwyddiannus
Cymorth i'r rhai sydd newydd gofrestru
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at warchodwyr plant sydd newydd gofrestru a fyddai’n hoffi cymorth, arweiniad neu syniadau newydd ar ddatblygu eich gwasanaeth gwarchod plant newydd. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau a chysylltu â gwarchodwyr plant eraill sydd newydd gofrestru a rhannu eich syniadau.
Datblygiad Iaith Cymraeg
Cymorth Iaith Cymraeg
Chwilio am ffyrdd i gyflwyno Cymraeg yn eich arferion a’ch gweithgareddau beunyddiol? Mae pob gweminar Datblygu Iaith Cymraeg 30 munud yn cynnig geirfa yn seiliedig ar thema wahanol y gallwch ei defnyddio yn eich trefn ddyddiol. Byddwch hefyd yn derbyn dolenni i adnoddau pellach yn dilyn y gweminar, ynghyd â chymorth ffôn ac e-bost unigol i’ch helpu i symud ymlaen ymhellach. Mae’r gweminar yn addas i’r rhai sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg hefyd ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu eu hyder i ddefnyddio’r iaith.
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Cyflwyno Cymraeg mewn gweithgareddau ac arferion bob dydd ar thema benodol i gefnogi datblygiad Cymraeg plant
- Myfyrio ar arfer presennol a nodi ffynonellau hyfforddiant neu gefnogaeth bellach
Gweminarau Ychwanegol gan PACEY Cymru
Cefnogi Trawsnewidiadau
Gall cychwyn mewn lleoliad neu ysgol newydd fod yn ‘beth mawr’ i blentyn a’i deulu. Rydym yn gwybod y bydd unrhyw newid i blentyn os caiff ei drin yn dda yn cefnogi ei wytnwch a’i drawsnewidiadau mewn bywyd yn y dyfodol, felly po fwyaf o wybodaeth y gall ymarferwyr ei rhannu gyda’r ysgolion neu leoliadau eraill, y gorau yw’r bartneriaeth a’r canlyniadau i’r plentyn. Bydd y weminar hon yn eich trafod trwy’r ddogfen PACEY Cymru sydd wedi’i chynhyrchu i gefnogi trawsnewidiadau plant wrth symud rhwng lleoliadau ochr yn ochr â chanllaw i’w defnyddio. Byddwch hefyd yn derbyn dolenni i adnoddau pellach yn dilyn y weminar, ynghyd â chymorth ffôn ac e-bost unigol i’ch helpu i symud ymlaen ymhellach.
Yn dilyn y weminar hon, byddwch yn gallu:
- Â Defnyddio Dogfen Pontio PACEY Cymru
- Â Myfyrio ar arfer cyfredol a nodi ffynonellau hyfforddiant neu gefnogaeth bellach
Gall PACEY Cymru gyflwyno Gweminarau ar ystod eang o bynciau, byddem yn hapus i drafod y rhain gyda chi.