PACEY members small grants in Wales/Grantiau Bach Aelodau

Grant i Blant’ Cynllun grantiau bach yng Nghymru

Gyda diolch i rodd gan Moondance a chyllid Llywodraeth Cymru, bydd gwarchodwyr plant, nani cymeradwy neu reolwyr meithrinfa yng Nghymru sy’n sy’n ymuno â PACEY neu’n adnewyddu eu haelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 yn cael cyfle i wneud cais am grant bach i gefnogi canlyniadau i blant yn eu gofal.

Ar gyfer gwarchodwyr plant a rheolwyr sy’n aelodau, bydd hyn yn werth hyd at £125. Sylwch y bydd grantiau’n cael eu cyfyngu i un fesul lleoliad neu gyfeiriad cofrestredig AGC.

Ar gyfer aelodau nani cymeradwy bydd hyn hyd at werth y gost adnewyddu flynyddol ar Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol AGC (£55 ar hyn o bryd).

Bydd gwarchodwyr plant newydd, nani cymeradwy neu reolwyr sy’n aelodau o PACEY hefyd yn cael y cyfle i wneud cais am grant, yn unol â’r uchod, os byddant yn ymuno rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.

Gwybodaeth grant

Nod y grant yw cefnogi aelodau PACEY cymwys i ddarparu gweithgareddau a phrofiadau i’r plant yn eu gofal. Mae’r ffocws eleni yn ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned. 

Bydd y cwestiynau Cyffredin isod yn eich cefnogi â’ch cais.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Aelodau PACEY sy’n ymuno â neu’n adnewyddu’r mathau canlynol o aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

• Aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr +
• Aelodau Rheolwr neu Rheolwr +

Sylwch y bydd grantiau’n cael eu cyfyngu i un fesul lleoliad neu gyfeiriad cofrestredig AGC.

Pwy nad ydynt yn gallu ymgeisio?

Nid yw’r canlynol yn gymwys ar gyfer grant bach

  • Cynorthwyydd Ymarferydd (hy cynorthwywyr gwarchodwr plant a gweithwyr meithrinfa)
  • Ymarferwr Nani neu aelodau Ymarferwr + nad ydynt ar gynllun cymeradwyo AGC
  • Aelodau Dysgwyr PACEY
  • Aelodau Partner Ansawdd
Ydy'r grantiau hyn ar gael i aelodau PACEY yn Lloegr?

Nac ydynt, mae cyllid grant ar gyfer aelodau PACEY yng Nghymru yn unig.   

Pryd galla i ymgeisio

Ar ôl i aelodau PACEY cymwys adnewyddu eu haelodaeth neu ymuno â PACEY fel aelod newydd, gallant wneud cais am y grant bach. Bydd rhaid derbyn y cais grant o fewn y cyfnod 8 wythnos ar ôl ymuno neu adnewyddu. Ni ellir derbyn ceisiadau a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod hwn.

Faint alla i wneud cais amdano?
  • Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Gwarchodwr Plant wneud cais am hyd at £125 yr un.
  • Gall aelodau Rheolwr/Rheolwr + wneud cais am hyd at £125 yr un fesul aelodaeth.
  • Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC wneud cais am hyd at £55 i gefnogi eu cost flynyddol o gymeradwyaeth AGC.  

Sylwch y bydd grantiau’n cael eu cyfyngu i un fesul lleoliad neu gyfeiriad cofrestredig AGC.

Beth ellir defnyddio’r grant ar ei gyfer?

Mae’r ffocws eleni yn ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned. Nod y grant yw cefnogi aelodau cymwys PACEY i ddarparu gweithgareddau a phrofiadau i’r plant yn eu gofal yn y gymuned leol na ellir eu cyrchu trwy gyllid grant arall megis grantiau cyfalaf bach neu gynaliadwyedd awdurdodau lleol. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu cyllid ar gael o ffynonellau eraill.

Bydd grantiau’n cael eu hystyried ar gyfer yr eitemau canlynol:

  • Cost mynediad i leoliadau cymunedol ac atyniadau gan gynnwys parciau gwledig, sŵau, parciau fferm, cestyll, chwarae meddal, sinema, theatrau, canolfannau gweithgareddau a chwaraeon.
  • Bydd tocynnau blynyddol neu aelodaeth i leoliadau ac atyniadau hefyd yn cael eu hystyried

Sylwer ar gyfer aelodau Ymarferydd neu Ymarferydd + Nani ar gynllun cymeradwyo AGC dim ond tuag at eu cost flynyddol o gymeradwyaeth AGC y gellir defnyddio’r grant.

Beth na ellir ei ariannu?

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol, fodd bynnag ni fydd costau sy’n ymwneud â’r canlynol yn cael eu hariannu:

  • Ni chaiff eitemau y gellir gwneud cais amdanynt drwy’r rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar: cynllun grantiau bach eu hariannu. Bydd angen i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol mewn perthynas â’r rhain
  • Ni ellir ei ariannu deunyddiau i gefnogi gweithgareddau a phrofiadau plant yn y lleoliad eleni, o ystyried ffocws y grant
  • Bwyd a diod
  • Ffioedd mynediad i ffrindiau a theulu nad ydynt yn gweithio yn y gwasanaeth gofal plant
  • Ffioedd mynediad i blant nad ydynt yn derbyn gofal fel rhan o’r gwasanaeth gofal plant cofrestredig
  • Costau cysylltiedig â theithio
Ydy’r grant ar gyfer pob plentyn dan fy ngofal?

Ydy, mae’r grant ar gyfer yr holl blant y gofalir amdanynt fel rhan o’ch gwasanaeth gofal plant, gan gynnwys eich plant eich hun.

Mae'r awdurdod lleol wedi talu ar gyfer fy aelodaeth PACEY, alla i wneud cais am grant bach ar gyfer fy lleoliad?

Gallwch, fodd bynnag bydd angen eich rhif aelodaeth PACEY arnoch i wneud cais.  

Pam mae'r grant i nanis yn is?

Cyfrifoldeb y rhiant yw talu costau gweithgareddau a phrofiadau plant dan ofal nani. Dim ond at gost flynyddol cymeradwyaeth AGC y mae cyllid grant ar gael i aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani.

Dydw i ddim yn nani cymeradwy, a allaf wneud cais o hyd?

Na allwch, dim ond aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC all wneud cais.   

Dydw i ddim yn aelod PACEY ar hyn o bryd, alla i wneud cais?

Dim ond i aelodau PACEY y mae’r grant ar gael.

Gweler ein pecynnau Aelodaeth PACEY i ymuno â PACEY a bod yn gymwys i wneud cais am y grant.  Mae PACEY Cymru yn falch o gyhoeddi, trwy rodd hael gan The Moondance Foundation a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ein bod yn gallu darparu gostyngiad ar aelodaeth a ariennir ar gyfer aelodau cymwys yng Nghymru rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Unwaith y byddwch wedi adnewyddu neu ymuno â PACEY rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, cwblhewch y ffurflen gais grant ar Survey Monkey.

Darllenwch y datganiad a thelerau ac amodau grant yn ofalus a sicrhewch eich bod wedi cwblhau pob adran o’r ffurflen gan ddarparu gwybodaeth, fanylion fesul eitem, a chostau clir.

Bydd rhaid derbyn y cais grant o fewn y cyfnod 8 wythnos ar ôl ymuno neu adnewyddu. Ni ellir derbyn ceisiadau a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod hwn.

Peidiwch â mynd i unrhyw gostau nes bod eich cais wedi’i gytuno gan na fydd y rhain yn cael eu derbyn.

 

Sut bydd fy nghais yn cael ei brosesu?

Ar dderbyn eich cais bydd PACEY Cymru yn gwirio ei fod yn gyflawn ac yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cytunwyd arnynt.Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib gydag unrhyw ymholiadau ar y cam hwn.

Bydd ceisiadau yn cael eu prosesu trwy banel grantiau PACEY Cymru a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 28 diwrnod.

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd PACEY Cymru yn cadarnhau drwy e-bost.

Ar y cam hwn bydd angen i chi gadarnhau derbyniad o’r grant drwy e-bost a darparu’ch manylion banc er mwyn derbyn y cyllid.

Os nad yw’ch cais yn cael ei gymeradwyo, bydd gennych y cyfle i drafod hyn ag aelod o’n tîm a byddwn yn ystyried ail-ymgeisio (yn amodol ar gyllid).

Os oes angen i chi wneud newidiadau yn dilyn y gymeradwyaeth, cysylltwch â PACEY Cymru cyn gynted â phosib i drafod.

Sut a pryd bydda i’n cael fy nhalu?

Unwaith y bydd eich grant wedi’i gymeradwyo a derbyniad y grant wedi’i dderbyn, bydd PACEY Cymru yn gwneud taliad BACS o fewn 28 diwrnod i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd yn eich e-bost derbyn.

Pa fath o fonitro a gwerthuso bydd yn digwydd?

Bydd angen i chi gadw’ch holl dderbynebau yn unol â’ch cais grant.

Ni fydd PACEY Cymru yn gofyn am ddychwelyd y rhain fel tystiolaeth fel mater o drefn.  Fodd bynnag rhaid cadw pob derbynneb er mwyn i PACEY Cymru wneud gwiriadau at ddibenion archwilio yn ôl yr angen ac mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i ddarparu’r rhain.

Gallai PACEY Cymru gysylltu â chi i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu astudiaethau achos a thystiolaeth ynghylch y defnydd o gyllid a sut mae hyn wedi bod o fudd i’ch gwasanaeth a’r plant yn eich gofal.

Gobeithiwn ein bod wedi ateb eich ymholiadau drwy’r Cwestiynau Cyffredin hyn, fodd bynnag, os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni::

E-bost: paceycymru@pacey.org.uk

Ffôn: 02920 351407

Latest News

Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that's going on in the childcare and early years sector