Promotion leaflets and resources (Wales)/ Taflenni ac adnoddau hyrwyddo

Archwiliwch adnoddau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i hyrwyddo dod yn warchodwr plant, nani neu weithio ym maes gofal plant a chwarae fel dewis gyrfa. Dewch o hyd i adnoddau a gwybodaeth i gefnogi rhieni wrth iddynt chwilio am ofal plant o ansawdd uchel, a’r cyllid gofal plant sydd ar gael.

Gellir cysylltu â’r rhain o’ch gwefan, mewn e-gylchlythyrau, eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, neu’n uniongyrchol ag unigolion. Efallai y byddwch yn ystyried defnyddio’r adnoddau hyn i gefnogi ymgyrch codi ymwybyddiaeth, er enghraifft drwy gyfryngau cymdeithasol.

Mae PACEY Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol gydag awgrymiadau post rheolaidd a Grŵp Facebook Dewch i Siarad am Warchod Plant! i gefnogi eich hyrwyddiad.

Os hoffech drafod ymhellach, i dderbyn ein Pecyn Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer adnoddau yn y dyfodol e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk.

Adnoddau ar gyfer hyrwyddo gwarchod plant fel gyrfa

Fe wnaethon ni ofyn beth yw’r peth gorau am fod yn warchodwr plant, dyma beth oedd gan rai gwarchodwyr plant i’w ddweud…
(Saesneg yr unig)

Mae Gaynor yn rhoi cipolwg gwych i ni am ei gyrfa 30 mlynedd mewn gwarchod plant, lle mae’n pwysleisio pa mor arbennig a gwerth chweil y mae’n teimlo.

Meddwl am ddod yn warchodwr plant yng Nghymru? Clywch pam y dylech chi fynd amdani!
(Saesneg yr unig)

Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru- taith i gofrestru
(Saesneg yr unig)

Adnoddau ar gyfer hyrwyddo dod yn nani fel gyrfa

Llyfryn dewis gyrfa fel nani

Yn ddelfrydol i’r rhai sy’n ystyried dod yn nani, mae’r daflen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt wrth benderfynu a yw nani yn ddewis gyrfa gywir iddyn nhw.

Adnoddau ar gyfer hyrwyddo gwarchod plant fel opsiwn gofal plant

Adnoddau ar gyfer hyrwyddo opsiynau gofal plant

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn dewis gofal plant gwych ac gyllid gofal plant yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer adnoddau yn y dyfodol e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk.

Latest News

Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that's going on in the childcare and early years sector