Engagement in Wales/Ymgysylltu yng Nghymru
- PACEY
- $
- Get Involved
- $
- PACEY in Wales
- $
- Engagement in Wales
Engagement Events
Facebook Groups
Childminder Forums
Childminding Groups
Engagement Events
In line with our Cwlwm work both nationally and locally we will continue to engage with members and home based childcare providers through relevant engagement events. The details of these will be shared on the PACEY website as they are planned and shared and will be held when a need is identified and be specific to this topic rather than being a regular quarterly meeting on a wider range of topics. These may be run as Cwlwm events or PACEY Cymru events and the topic of discussion will link to a specific identified need for sharing or consultation with the sector. This could include changes to Welsh Government or Care Inspectorate Wales (CIW) policy and requirements or for a wider discussion around a consultation document. When events have been held by PACEY Cymru historically these have had a significantly higher turn out and so wider evidence of engagement can be shown through working in this way.
Childminder forums
PACEY Cymru invite you to book on and join our new monthly Childminder Forums in Wales. In this forum you will have the opportunity for updates, discuss queries, share good practice and on occasion hear from invited guest speakers. We hope for these sessions to be informal and relaxed, and an opportunity to virtually connect with others.
Facebook Groups
Following feedback alongside our wider open PACEY Cymru Facebook page we now have two closed Facebook groups that members, childminders in Wales and those looking to become a childminder in Wales will find useful.
Ideas for Creative Childcare – we know that childcare and early years professionals have some amazing creative ideas to share with other childcare professionals. Whether it’s tips, ideas and activities to help support children meet their early learning goals or pictures of the things you get up to in your settings, we’d love to see them here. This is a closed group so you will need to request to join the group. This is relevant for those who are working in the sector as well as those looking to enter or register as a setting or childminder in Wales.
Becoming a Childminder in Wales – the aim of this group is to be a supportive group and network for people wishing to become childminders, those in the process of becoming a registered childminder and newly registered childminders. More experienced childminders, invited to join the group by PACEY Cymru, are welcome to share ideas and encouragement, but the main focus of this group is to support and guide new people to become registered childminders in Wales. Information posted in this group refers to childminding regulation and registration in Wales. This is a closed group so if you are looking to become a registered childminder in Wales or in the process of doing so you can request to join the group.
Childminding Groups
PACEY Cymru also identified a need to support those looking to form childminding groups in their local area and has produced guidance for anyone who is thinking of this with the things they need to consider and top tips. The guidance that has been produced is linked to below. PACEY Cymru is able to provide support and guidance through the pack on how to set up the group but this has to be led and managed by the childminders involved and is unaffiliated to PACEY.Â
Childminding groups can vary in many different ways, and come in lots of shapes and sizes. Some groups are very relaxed and only meet up occasionally in their spare evenings, some meet up during the day to have a catch-up and allow their minded children to socialise, and some groups are more formal. Formal groups may agree a group constitution and this may allow them to apply for more funding options. Having a regular funding stream will benefit your group in various ways, from securing and paying venue costs, to buying new equipment and toys, refreshments and arranging outings for the group.Â
Benefits of a childminding group:
- Meet other childminders and offer mutual support
- Pass on childminding enquiries to each other.
- Reduced PACEY group membership – see PACEY website for further details
- Share good practice examples, resources and ideas
- Organise training events for the group and/or guest speakers to expand your continuous professional development (CPD)
- Enhance children’s socialisation and communication skills
- Offer support to newly registered childminders
- Representing and raising the profile of childminding in your local community
- Provide additional shared activities and outings with your minded children
What to find out more? Download the Childminding Groups in Wales Information pack.
Digwyddiadau ymgysylltu
Grwpiau Facebook
Fforymau Gwarchodwyr Plant
Grwpiau Gwarchod Plant
Digwyddiadau ymgysylltu
Yn unol â’n gwaith Cwlwm yn genedlaethol ac yn lleol mae PACEY Cymru yn ymgysylltu ag aelodau a darparwyr gofal plant yn y cartref drwy ddigwyddiadau ymgysylltu perthnasol. Rhennir manylion y rhain ar wefan PACEY, drwy e-byst i aelodau a chyfryngau cymdeithasol wrth iddynt gael eu cadarnhau. Byddant yn cael eu cynnal pan fydd angen yn cael ei nodi a byddant yn benodol i’r pwnc hwn yn hytrach na bod yn gyfarfodydd chwarterol rheolaidd ar ystod ehangach o bynciau. Gellir rhedeg y rhain fel digwyddiadau Cwlwm neu ddigwyddiadau PACEY Cymru a bydd y pwnc trafod yn cysylltu ag angen penodol a nodwyd ar gyfer rhannu neu ymgynghori â’r sector. Gallai hyn gynnwys newidiadau i bolisi a gofynion Llywodraeth Cymru neu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu drafodaeth ehangach ynghylch dogfen ymgynghori. Pan gynhaliwyd digwyddiadau gan PACEY Cymru yn hanesyddol maent wedi cael nifer sylweddol uwch o bobl sydd wedi mynychu ac felly gellir dangos tystiolaeth ehangach o ymgysylltu drwy weithio fel hyn.
Fforymau Gwarchodwyr Plant
Mae PACEY Cymru yn eich gwahodd i gadw lle ar ein Fforymau Gwarchodwyr Plant misol newydd. Yn y fforwm hwn cewch gyfle i gael diweddariadau, trafod ymholiadau, rhannu arferion da ac, ar adegau, clywed gan siaradwyr gwadd. Ein gobaith yw cadw’r sesiynau hyn yn anffurfiol ac yn hamddenol, gan roi’r cyfle i bobl gysylltu ag eraill yn rhithiol.
Grwpiau Facebook
Yn dilyn adborth ochr yn ochr â’n tudalen Facebook PACEY Cymru agored ehangach mae gennym bellach ddau grŵp Facebook caeedig y bydd aelodau, gwarchodwyr plant yng Nghymru a’r rhai sy’n edrych i fod yn warchodwyr plant yng Nghymru yn eu cael yn ddefnyddiol.
Syniadau ar gyfer Gofal Plant Creadigol – rydym yn gwybod bod gan weithwyr proffesiynol gofal plant a blynyddoedd cynnar rai syniadau creadigol anhygoel i’w rhannu â gweithwyr proffesiynol gofal plant eraill. P’un ai awgrymiadau, syniadau a gweithgareddau i helpu i gefnogi plant i gyflawni eu nodau dysgu cynnar ydynt, neu luniau o’r pethau rydych chi’n eu gwneud yn eich lleoliadau, byddem ni wrth ein bodd yn eu gweld yma. Mae hwn yn grŵp caeedig felly bydd angen i chi ofyn am ymuno â’r grŵp. Mae hyn yn berthnasol i’r rheini sy’n gweithio yn y sector yn ogystal â’r rhai sydd am ddod i mewn neu gofrestru fel lleoliad neu warchodwr plant yng Nghymru.
Dod yn Warchodwr Plant yng Nghymru – nod y grŵp hwn yw bod yn grŵp cefnogol a rhwydwaith i bobl sy’n dymuno dod yn warchodwyr plant, y rhai sydd yn y broses o ddod yn warchodwyr plant cofrestredig a gwarchodwyr plant sydd newydd gofrestru. Mae croeso i warchodwyr plant mwy profiadol, a wahoddir i ymuno â’r grŵp gan PACEY Cymru, rannu syniadau ac anogaeth, ond prif ffocws y grŵp hwn yw cefnogi ac arwain pobl newydd i ddod yn warchodwyr plant cofrestredig yng Nghymru. Mae gwybodaeth a bostir yn y grŵp hwn yn cyfeirio at reoleiddio a chofrestru gwarchod plant yng Nghymru. Mae hwn yn grŵp caeedig felly os ydych chi am ddod yn warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru, neu yn y broses o wneud hynny, gallwch ofyn am ymuno â’r grŵp.
Grwpiau Gwarchod Plant
Mae PACEY Cymru wedi nodi angen i gefnogi’r rhai sy’n edrych i ffurfio grwpiau gwarchod plant yn eu hardal leol ac wedi cynhyrchu arweiniad i unrhyw un sy’n meddwl am hyn gyda’r pethau y mae angen iddynt eu hystyried ac awgrymiadau. Mae dolen i’r canllawiau a gynhyrchwyd isod. Mae PACEY Cymru yn gallu darparu cefnogaeth ac arweiniad drwy’r pecyn ar sut i sefydlu’r grŵp ond mae’n rhaid i hyn gael ei arwain a’i reoli gan y gwarchodwyr plant dan sylw ac nid yw’n gysylltiedig â PACEY.Â
Gall grwpiau gwarchod plant amrywio mewn sawl ffordd wahanol, a bod o bob lliw a llun. Mae rhai grwpiau yn hamddenol iawn a dim ond bob hyn a hyn yn eu nosweithiau sbâr y maent yn cyfarfod, mae rhai yn cyfarfod yn ystod y dydd i gael sgwrs fach ac yn caniatáu i’r plant y maent yn gwarchod gymdeithasu, ac mae rhai grwpiau’n fwy ffurfiol. Gall grwpiau ffurfiol gytuno ar gyfansoddiad grŵp a gallai hyn ganiatáu iddynt wneud cais am ragor o opsiynau cyllid. Bydd cael llif cyllid rheolaidd o fudd i’ch grŵp mewn sawl ffordd, o sicrhau a thalu costau lleoliad, i brynu offer a theganau newydd, lluniaeth a threfnu teithiau i’r grŵp.Â
Buddion o grŵp gwarchod plant:
- Cwrdd â gwarchodwyr plant eraill a chynnig cefnogaeth i’w gilydd
- Rhannu ymholiadau gwarchod plant â’i gilydd.
- Tâl is ar gyfer aelodaeth grŵp PACEY – gweler gwefan PACEY am fanylion pellach
- Rhannu enghreifftiau, adnoddau a syniadau arfer da
- Trefnu digwyddiadau hyfforddi ar gyfer y grŵp a/neu siaradwyr gwadd i ehangu eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- Gwella sgiliau cymdeithasu a chyfathrebu plant
- Cynnig cefnogaeth i warchodwyr plant sydd newydd gofrestru
- Cynrychioli a chodi proffil gwarchod plant yn eich cymuned leol
- Darparu gweithgareddau a theithiau ychwanegol a rennir gyda’r plant rydych yn gwarchod
Am ddysgu rhagor? Mae’r pecyn Gwybodaeth Grwpiau Gwarchod Plant yng Nghymru ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg
Latest News
Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector
Report calls for early years reform and a national childminder strategy
Prime Minister sets out ‘Plan for Change’ with early years focus
Today (5 December) Prime Minister Keir Starmer made a speech outlining how the government will...
Ofsted publishes Annual Report 2023/24
Today (5 December) His Majesty’s Chief Inspector Sir Martyn Oliver has published Ofsted’s annual...