In December 2024 in our news story Changes to the Childcare Offer rate for Wales we made you aware of the outcome of the rate review for the Childcare Offer for Wales and that from 7 April 2025 the hourly rate paid to childcare providers who deliver the Childcare offer for Wales would increase by 20% from £5.00 to £6.00 effective from 7 April 2025.
This extra funding was agreed as part of the Welsh Government draft budget.
Today the Government has published its Final Budget which sets out detailed spending plans for 2025 to 2026 and confirmed a further change to the hourly rate.
From April 2025, the hourly rate paid to childcare providers who deliver the Childcare Offer for Wales will be £6.40 per hour.
There has been no change to the 20% uplift (already announced) to permissible food charges which childcare providers may charge parents who access the Offer at their setting.
The Welsh Government will also provide extra funding to uplift the Nursery Education element of the Offer and to uplift the childcare element of Flying Start.
PACEY Cymru will keep you updated with any further information. If you have comments or queries, please contact us on paceycymru@pacey.org.uk
Ym mis Rhagfyr 2024 yn ein stori newyddion Newidiadau i gyfradd y Cynnig Gofal Plant gwnaethom eich gwneud yn ymwybodol o ganlyniad yr adolygiad ardrethi ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru ac y byddai'r gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig Gofal Plant Cymru yn cynyddu 20% o £5.00 i £6.00 yn effeithiol o 7 Ebrill 2025 ymlaen.
Cytunwyd ar yr arian ychwanegol hwn fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Heddiw mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol sy'n nodi cynlluniau gwariant manwl ar gyfer 2025 i 2026 ac wedi cadarnhau newid pellach i'r gyfradd fesul awr.
O fis Ebrill 2025, y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r Cynnig Gofal Plant Cymru fydd £6.40 yr awr.
Ni fu unrhyw newid i'r cynnydd o 20% (a gyhoeddwyd eisoes) yn y tâl y gall darparwyr gofal plant ei godi am fwyd gan rieni sy'n defnyddio'r Cynnig yn eu lleoliad.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i gynyddu arian elfen addysg feithrin y Cynnig ac i gynyddu arian elfen gofal plant Dechrau'n Deg.
Bydd PACEY Cymru yn eich diweddaru gydag unrhyw wybodaeth bellach. Os oes gennych chi sylwadau neu ymholiadau, cysylltwch â ni ar paceycymru@pacey.org.uk