Early Childhood Play, Learning and Care Plan in Wales/Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndo

March 18, 2024

Welsh Government have published the Early Childhood Play, Learning and Care (ECPLC) Plan in Wales.

The plan sets out, in a holistic way, all of the actions being taken across Welsh Government and with partners (including PACEY Cymru) under the umbrella of Early Childhood Play, Learning and Care.

At the heart of ECPLC, is the focus on the child and the holistic development of a child’s social, emotional, cognitive and physical needs to support wellbeing and lifelong learning.

The plan has been developed around three themes which are:

  • quality of provision
  • access to provision
  • supporting and developing the workforce

By focussing on these three themes the plan aims to support the development and delivery of a consistent approach to nurturing, learning and development, through the provision of high-quality, inclusive, play-based childcare and education opportunities for all babies and young children aged 0-5 years old in Wales.

Welsh Government said “We would like to take this opportunity to thank all those partners involved in the co-development of the plan. Throughout its development, we have been clear we cannot achieve our ambition for Wales alone – we need everyone working in the Early Childhood Play, Learning and Care sectors to play a significant role and to undertake collective action to enable, all babies and young children in Wales to have an opportunity to thrive, be happy and healthy.”

Our previous news story included information and links to a suite of resources published by Welsh Government last summer that you may also find useful. This includes:

A Quality Framework for Early Childhood Play, Learning and Care in Wales

The ECPLC Quality Framework for Wales draws together the  various requirements for delivering the type of high-quality provision needed in Wales. Leaders and practitioners from across the childcare and playwork settings and schools should use this framework to guide provision; parents/carers can use it to better  understand provision on offer to their child and local authorities can use it to support development and improvement of provision. 

Early Childhood Play, Learning and Care: Developmental Pathways 0 to 3

This guidance sets out a framework for ensuring quality provision for all children from birth to age 3. It focuses on what is important for children’s development and how we can best support them to grow and develop in ways that suit their stage of development.

Early Childhood Play, Learning and Care: Reflective Practice Toolkit

This Early Childhood Play, Learning and Care: Reflective Practice Toolkit (Toolkit) has been developed to support individuals and teams to reflect on the quality of early childhood play, learning and care. It draws together the various requirements for delivering the type of high-quality care, education and play  provision needed in Wales. Using the Toolkit should ensure we offer well-evidenced, well-informed and successful approaches to early childhood play, learning and care and help us to actively reflect on and continuously improve practice to better support all children to thrive.

If you have any queries please email paceycymru@pacey.org.uk.

 

Mae’r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) yng Nghymru wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn nodi, mewn ffordd holistaidd, yr holl gamau sy’n cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid (gan gynnwys PACEY Cymru) o dan ymbarél Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.

Wrth wraidd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, mae ffocws ar ddatblygiad holistaidd anghenion cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol plentyn i gefnogi lles a dysgu gydol oes.

Datblygwyd y cynllun ar sail tair thema sef:

  • ansawdd y ddarpariaeth
  • mynediad at ddarpariaeth
  • cefnogi a datblygu’r gweithlu

Trwy ganolbwyntio ar y tair thema hyn, nod y cynllun yw cefnogi datblygu a chyflwyno dull cyson o feithrin a dysgu a datblygu, drwy ddarparu cyfleoedd gofal plant ac addysg o ansawdd uchel sy’n gynhwysol ac yn seiliedig ar chwarae ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc 0-5 oed yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru “Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bartneriaid hynny sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyd-ddatblygu’r cynllun. Trwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi bod yn glir na allwn gyflawni ein huchelgais i Gymru ar ein pen ein hunain.- rydym angen i bawb sy’n gweithio yn y sectorau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar chwarae rhan sylweddol a chymryd camau ar y cyd i sicrhau bod pob baban a phlentyn ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i ffynnu a bod yn hapus ac yn iach.”

Roedd ein stori newyddion flaenorol yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i gyfres o adnoddau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr haf diwethaf a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae hyn yn cynnwys:

Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru

Mae’r Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn dwyn ynghyd y gwahanol ofynion sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r math o ddarpariaeth o ansawdd uchel sydd ei hangen yng Nghymru. Dylai arweinwyr ac ymarferwyr ar draws ysgolion a lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ddefnyddio’r fframwaith hwn i lywio darpariaeth; gall rhieni/ gofalwyr ei ddefnyddio i ddeall y ddarpariaeth a gynigir i’w plentyn yn 
well a gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwella darpariaeth.

Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar: Llwybrau datblygu 0 i 3

Mae’r canllawiau hyn yn nodi fframwaith ar gyfer sicrhau darpariaeth o ansawdd i bob plentyn o adeg eu geni hyd at 3 oed. Maen nhw’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig ar gyfer datblygiad plant a’r ffordd orau o’u helpu i dyfu a datblygu mewn ffyrdd sy’n addas ar gyfer eu cam datblygiad. 

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol

Datblygwyd y Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol hwn i helpu unigolion a thimau i fyfyrio ar ansawdd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar. Mae’n dwyn ynghyd y gwahanol ofynion sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r math o ddarpariaeth gofal, addysg a chwarae o ansawdd uchel sydd ei hangen yng Nghymru. Dylai defnyddio’r Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol sicrhau ein bod yn cynnig dulliau llwyddiannus sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth dda o ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, gan ein helpu i fyfyrio ar ein hymarfer a’i wella’n barhaus er mwyn rhoi cymorth gwell i bob plentyn ffynnu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost paceycymru@pacey.org.uk.

Recent Articles

Keep up to date with everything that’s happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that’s going on in the childcare and early years sector