Exploring and combining some of the key points in this section will help as you evolve your space in a responsive way over time. Digest and use the ideas here to trigger questions, reflection and also new thinking as you continually notice and consider how well your environment is meeting the needs of children in your care.
As you explore the ideas in this resource consider documenting the process. This would be a really useful record of why you make the changes you do and of course the impact they have. It’s always good to reflect back on the process over time and a helpful illustration to share with others.
We are all affected by the spaces where we spend time. We all have different preferences about places that we like, perhaps where we feel relaxed or inspired and those we’d rather avoid. Your environment directly influences child and adult responses. Use it positively and with intention so that it supports the vision you have for everyone in your setting.
“Evolving is the key word here. An environment is never 'done' or 'finished'. Development is ongoing. It needs to change or be tweaked in response to the needs of children in your care"
Elizabeth Jarman
Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
The vision for your setting
Are you clear about the vision for your setting? Think about what this means for children in your care and their families. How do you share your vision?
The childminders in our project group shared the following key words that they felt were important as part of their vision to help with inspiration.
Once you are clear about your vision, you can start auditing your setting and identify areas of your environment to develop in line with this.
“When I was working with children, I wanted to encourage independence as part of my vision, but often overwhelmed them with too much choice, which wasn’t aligned to their developmental stage. It’s easy to have a mismatch between vision and environment. Make sure your connects.” Elizabeth Jarman
Understanding your space
It’s really helpful to consider the child’s perspective in your space as this can give insight into their experience and why children sometimes respond the way they do.
Explore your space inside and out, using your senses and from the children’s height. Does anything surprise you? Is there anything you would change immediately? Do this regularly to stay in tune with what children are experiencing.
Spend time observing:Â
- How the children use your space
- Where are they drawn to?
- Where do they avoid?
- Does this change at different times of the day?
- Ask children about the places they like or dislike. Their opinions matter.
Gathering these observations will help you decide what to change or create. After making a change keep observing:
- How are the children responding?
- Does it work as you expected?
- What surprised you?
- How will this inform what you do next?
Understanding and evolving your environment is an exciting and ongoing cycle of observation, consultation, change and discovery.Â
Defining and maximising space
A defined space often helps children to settle and engage for longer, whether you are encouraging movement, or for those experiences which benefit from being calmer. Consider these practical ways to define or maximise space:
- Rugs instantly define space in a visual and tactile way.
- Plain rugs allow children to focus on the resource available without it competing with any visual distraction from background patterning.
- Use different size rugs depending on the experience you are providing. This links with the section about scales of space.
- Pop up structures can be really useful to define space. For some children, lowering the ‘ceiling’ in this way draws them into a space.
- By moving furniture slightly, for example just by moving the sofa away from the wall at one end can create and define a smaller space. In a compact setting, using all the space available is really important so finding simple ways to maximize space is key.
- Defining space typically results in reduced or more considered movement flow. Often children respect the space that others are working in when they can see definition. Movement flow can be a challenge as it brings with it visual and auditory distraction for the child trying to focus.
- Big plants can be a great way to define space inside and out. They add texture and make a space feel semi-private, which some children prefer.
Scales of space
Think about the needs of children in your setting at different times of the day. As they arrive in the morning, after school, when they feel tired, when you have a lot of children, when it’s just them. Responding by offering different size spaces can be helpful.
Sometimes children don’t want to be part of a big group all day long and appreciate time alone to explore something of interest, to have some ‘down’ time, to process and watch what’s going on or just to be alone. After a busy day at school, for example, sometimes this opportunity might be just what they need. Some of your children might be at a solitary play stage and need the space and resources just for them.
Creating parallel spaces can work very well if you have children who can play alongside one another and aren’t yet ready for socially complex play. Or for children who are older and want their own space alongside a younger child who then feels involved but isn’t negatively affecting the older child’s more complex play.
Group spaces are also important and offer the opportunity for collaboration, sharing (when ready) or experiencing something together.
There are lots of flexible ideas in the ideas and inspiration section but here is a simple starter kit list to help you make instant spaces:
- Cardboard boxes
- Net curtain or tarpaulin and clamps
- Pop up tent
- Hanging bed canopy
- Fixings- bungees, rope, hooks etc
As always undertake a risk assessment and consider the use of suitable equipment.
Managing sensory input
We know so much more about brain development and the way we can support sensory development by the experiences children have. It’s important to make informed sensory choices with this in mind.
Sometimes it’s easy for environments to cause a sensory overload, making it more difficult for children to focus and more likely to be distracted. De-clutter your space regularly and reduce visual ‘busyness’. Think about this from the child’s perspective. What can they see? Are things accessible? Are choices overwhelming?
There is further information on brain development in the PACEY Spotlight on Building the toddler brain. Though this contains links to a Department for Education campaign in England the content is generic enough to be of use to those in Wales.
Noise
It’s easy for environments to be too noisy which can be challenging for young children’s language development. It doesn’t need to be silent all the time but be aware of the need for environments to be conductive for listening. If it’s too noisy then children won’t be able to hear new speech sounds, words or phrases or hold a conversation with you.
Find ways to reduce background noise. Turn off the radio and TV. Think about your voice level. Are you modelling different voice tones and levels? Are you maximizing the use of inside and outside as this affects noise level positively.
Personal space
In addition to noise levels, busy environments can also impact on physical sensory input which can become overwhelming at times. It is important to provide opportunities for down time and to take a break from the stimulation of busy areas.
Consider providing a quiet calm space away from busy play areas that can be accessed for solitary moments and quiet reflection. Semi-private areas can enable children to step away and find some personal space away from others whilst still being able to watch what is going on elsewhere. Are there are lesser used areas that lend themselves to providing a calm space? Explore some of the case studies for ideas and inspiration to provide opportunities for personal space and solitary play.
Colour
Modern research shows us that colour affects our behaviour and response. Yet, for many years the traditional bold, bright, primary colour approach is what’s been promoted for young children and this could be what your setting is like. Check the research links below and some of the case studies, then develop a long-term view and plan on colour use in your space and as over time you change or replace things blend in calmer tones.
Light
Light makes such a difference to a space. Natural light is the best and stimulates brain activity. Light affects behaviour and health too.
Think about:
- Making the most of access to your outside space year-round.
- Opening the blinds and curtains and don’t block out the daylight.
- Using artificial lighting in a deliberate way to soften your environment and add atmosphere.
Engaging children physically
New brain development research shows us just how important it is for children to move and be both supported and challenged physically. This isn’t just in an ‘outside’ aerobic way but also about developing co-ordination, balance and motor skills. The way you present learning opportunities in your space can challenge and support this. Don’t expect young children to be still for long. They need to move to think. They often haven’t developed their body control to be still yet.  Children who move their bodies extensively and frequently are better at paying attention and have better abilities for impulse control, decision making, and problem solving.
Remember!
- Keep spaces flexible.
- Don’t overcomplicate the set up.
- Sometimes the simplest spaces are the most effective.
- Children often love to create their own spaces. Have a box of resources they can use to do this. For example, clamps, tarpaulins, netting, rugs, cushions.
There’s a lot to digest in this section. You’ll already be doing some of what’s been featured. If there are changes you want to make, don’t feel you need to do everything at once. Too much change can unsettle children and you also need to keep things manageable for you. Make sure you celebrate and share the things that are going well and the impact you are noticing.
Reflect!
- Notice the spaces that aren’t being used much in your setting. Why is this? How could you develop them? Sometimes a simple change or addition to a space is enough to re-inspire use and interest.
- Consider the way that your space supports individual children in your care and their needs. Do you offer scales of space? How might this help your children explore in a more focused way?
- Explore the textures in your environment- rough, smooth, silky, fluffy. Could you introduce more textural contrast? Think about the resources and activities you offer as well as the environment.
- Do a noise audit: When is it really noisy in your setting? When is it quietest? Where is it noisy? Where it is quiet? How could you reduce unnecessary background noise?
- Think about offering learning opportunities at different levels. Create standing spaces, kneeling spaces and make the most of the floor as a popular context for learning. This will engage children in a physical way.Â
- Could you add lighting to your space that children could safely control? Nightlights, torches, push button lights all give children the opportunity to change the space and adds a different feel.
Further reading
Bydd archwilio a chyfuno rhai o’r pwyntiau allweddol yn yr adran hon o gymorth wrth ichi esblygu’ch lle mewn ffordd ymatebol dros amser. Ystyriwch a defnyddiwch y syniadau yma i sbarduno cwestiynau, myfyrio a hefyd ffordd newydd o feddwl wrth i chi sylwi’n barhaus ac ystyried pa mor dda y mae eich amgylchedd yn diwallu anghenion plant dan eich gofal.
Wrth i chi archwilio’r syniadau yn yr adnodd hwn, ystyriwch ddogfennu’r broses. Byddai hwn yn gofnod defnyddiol iawn o pam rydych chi’n gwneud y newidiadau rydych chi’n eu gwneud ac wrth gwrs yr effaith maen nhw’n ei chael. Mae bob amser yn dda myfyrio ar y broses dros amser ac yn ddarlun defnyddiol i’w rannu ag eraill.
Mae’r lleoedd lle’r ydym yn treulio amser yn effeithio arnom i gyd. Mae gan bob un ohonom wahanol ddewisiadau am leoedd rydyn ni’n eu hoffi, efallai lle rydyn ni’n gallu ymlacio neu’n cael ein hysbrydoli a’r rhai y byddai’n well gennym ni eu hosgoi. Mae eich amgylchedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ymatebion plant ac oedolion. Defnyddiwch y lle yn bositif ac i ddiben fel ei fod yn cefnogi’r weledigaeth sydd gennych chi ar gyfer pawb yn eich lleoliad.
“Esblygu yw'r gair allweddol yma. Nid yw amgylchedd byth 'wedi’i orffen'. Mae datblygiad yn barhaus. Mae angen ei newid neu ei addasu mewn ymateb i anghenion plant dan eich gofal."
Elizabeth Jarman
Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
Y weledigaeth ar gyfer eich lleoliad
Ydych chi’n glir ynghylch y weledigaeth ar gyfer eich lleoliad? Meddyliwch beth mae hyn yn ei olygu i blant dan eich gofal a’u teuluoedd. Sut ydych chi’n rhannu’ch gweledigaeth?
Rhannodd y gwarchodwyr plant yn ein grŵp prosiect y geiriau allweddol canlynol yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig fel rhan o’u gweledigaeth i helpu gydag ysbrydoliaeth.
- Hwyluso
- Procio’r meddwl
- Pen agored
- Gofalgar
- Wedi’i arwain gan y plentyn
- Annibynnol
- Dewis
- Bwriad
- Awyddus i wybod
- Chwilfrydig
Unwaith y byddwch yn glir ynghylch eich gweledigaeth, gallwch ddechrau archwilio’ch lleoliad a nodi ardaloedd yn eich amgylchedd i’w datblygu yn unol â’ch gweledigaeth.
“Pan oeddwn i’n gweithio gyda phlant, roeddwn i eisiau annog annibyniaeth fel rhan o fy ngweledigaeth, ond yn aml yn eu gorlethu â gormod o ddewis, nad oedd yn cyd-fynd â’u cam datblygu. Mae’n hawdd cael diffyg cyfatebiaeth rhwng gweledigaeth a’r amgylchedd. Sicrhewch fod eich un chi yn cysylltu.” Elizabeth Jarman
Deall eich lle
Mae’n ddefnyddiol iawn ystyried persbectif y plentyn yn eich gofod oherwydd gall hyn roi mewnwelediad i’w profiad a pham mae plant weithiau’n ymateb fel y maen nhw.
Archwiliwch eich lle y tu mewn ac yn yr awyr agored, gan ddefnyddio’ch synhwyrau ac o uchder y plant. A oes unrhyw beth yn eich synnu? A oes unrhyw beth y byddech chi’n ei newid ar unwaith? Gwnewch hyn yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r hyn y mae plant yn ei brofi.
Treuliwch amser yn arsylwi:Â
- Sut mae’r plant yn defnyddio’ch lle
- I ble maen nhw’n cael eu denu?
- Ble maen nhw’n osgoi?
- A yw hyn yn newid ar wahanol adegau o’r dydd?
- Gofynnwch i’r plant am y lleoedd maen nhw’n eu hoffi neu’n eu casáu. Mae eu barn o bwys.
Bydd casglu’r arsylwadau hyn yn eich helpu i benderfynu beth i’w newid neu ei greu. Ar ôl gwneud newid, cadwch i arsylwi:
- Sut mae’r plant yn ymateb?
- A yw’n gweithio fel yr oeddech chi’n disgwyl?
- Beth wnaeth eich synnu chi?
- Sut y bydd hyn yn hysbysu’r hyn a wnewch nesaf?
Mae deall ac esblygu eich amgylchedd yn gylch cyffrous a pharhaus o arsylwi, ymgynghori, newid a darganfod.
Diffinio a gwneud y mwyaf o le
Mae gofod diffiniedig yn aml yn helpu plant i ymgartrefu ac ymgysylltu am fwy o amser, p’un a ydych chi’n annog symud, neu ar gyfer y profiadau hynny sy’n elwa o fod yn dawelach. Ystyriwch y ffyrdd ymarferol hyn o ddiffinio neu uchafu lle:
- Mae rygiau’n diffinio gofod ar unwaith mewn ffordd weledol a chyffyrddadwy.
- Mae rygiau plaen yn caniatáu i blant ganolbwyntio ar yr adnodd sydd ar gael heb iddo gystadlu ag unrhyw dynnu sylw gweledol oddi wrth batrwm cefndir.
- Defnyddiwch rygiau o wahanol faint yn dibynnu ar y profiad rydych chi’n ei ddarparu. Mae hyn yn cysylltu â’r adran am raddfeydd gofod.
- Gall strwythurau codi fod yn ddefnyddiol iawn i ddiffinio gofod. I rai plant, mae gostwng y ‘nenfwd’ fel hyn yn eu tynnu i mewn i le.
- Trwy symud dodrefn ychydig, er enghraifft gall dim ond symud y soffa o’r wal ar un pen greu a diffinio lle llai. Mewn lleoliad bach, mae defnyddio’r holl le sydd ar gael yn bwysig iawn felly mae dod o hyd i ffyrdd syml o wneud y mwyaf o le yn allweddol.Â
- Mae diffinio lle fel arfer yn arwain at lif symudiad gostyngol neu fwy ystyriol. Yn aml, mae plant yn parchu’r lle y mae eraill yn gweithio ynddo pan allant weld diffiniad. Gall llif symud fod yn her gan ei fod yn tynnu sylw yn weledol ac yn glywedol i’r plentyn sy’n ceisio canolbwyntio. Â
- Gall planhigion mawr fod yn ffordd wych o ddiffinio lle y tu mewn a’r tu allan. Maent yn ychwanegu gwead ac yn gwneud i ofod deimlo’n lled-breifat, ac mae’n well gan rai plant hynny.
Graddfeydd o le
Meddyliwch am anghenion plant yn eich lleoliad ar wahanol adegau o’r dydd. Wrth iddyn nhw gyrraedd yn y bore, ar ôl ysgol, pan maen nhw’n teimlo’n flinedig, pan fydd gennych chi lawer o blant, pan mai dim ond nhw sydd yno. Gall ymateb trwy gynnig lleoedd o wahanol feintiau fod yn ddefnyddiol.
Weithiau nid yw plant eisiau bod yn rhan o grŵp mawr trwy’r dydd ac maent yn gwerthfawrogi amser ar eu pennau eu hunain i archwilio rhywbeth o ddiddordeb, cael rhywfaint o amser tawel, prosesu a gwylio’r hyn sy’n digwydd neu i fod ar eu pen eu hunain. Ar ôl diwrnod prysur yn yr ysgol, er enghraifft, efallai mai hwn yw’r union beth sydd ei angen arnynt. Efallai y bydd rhai o’ch plant mewn cam chwarae annibynnol ac angen y lle a’r adnoddau iddyn nhw yn unig.
Gall creu lleoedd cyfochrog weithio’n dda iawn os oes gennych blant sy’n gallu chwarae ochr yn ochr â’i gilydd ac nad ydyn nhw eto’n barod ar gyfer chwarae cymdeithasol gymhleth. Neu ar gyfer plant sy’n hÅ·n ac eisiau eu lle eu hunain ochr yn ochr â phlentyn iau sydd wedyn yn teimlo ei fod yn cymryd rhan ond nad yw’n effeithio’n negyddol ar chwarae mwy cymhleth y plentyn hÅ·n.
Mae lleoedd grŵp hefyd yn bwysig ac yn cynnig cyfle i gydweithio, rhannu (pan yn barod) neu brofi rhywbeth gyda’i gilydd.
Mae yna lawer o syniadau hyblyg yn adran syniadau ac ysbrydoliaeth ond dyma restr offer cychwyn syml i’ch helpu chi i greu lleoedd ar unwaith:
- Blychau cardbord
- Llen net neu darpolin a chlampiau
- Pabell godi
- Canopi gwely crog
- Gosodiadau – bynji, rhaff, bachau ac ati
Fel bob amser, cynhaliwch asesiad risg ac ystyriwch ddefnyddio offer addas.
Rheoli mewnbwn synhwyraidd
Rydym yn gwybod cymaint mwy am ddatblygiad yr ymennydd a’r ffordd y gallwn gefnogi datblygiad synhwyraidd yn ôl y profiadau y mae plant yn eu cael. Mae’n bwysig gwneud dewisiadau synhwyraidd gwybodus gyda hyn mewn golwg.
Weithiau mae’n hawdd i amgylcheddau achosi gorlwytho synhwyraidd, gan ei gwneud hi’n anos i blant ganolbwyntio ac yn fwy tebygol o dynnu sylw. Tynnwch annibendod o’r gofod yn rheolaidd a lleihau’r prysurdeb gweledol. Meddyliwch am hyn o safbwynt y plentyn. Beth allan nhw ei weld? A yw pethau’n hygyrch? A yw’r dewisiadau’n llethol?
Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiad yr ymennydd yn y Sbotolau PACEY ar Adeiladu ymennydd y plentyn bach. Er bod hyn yn cynnwys dolenni at ymgyrch Adran Addysg yn Lloegr, mae’r cynnwys yn ddigon cyffredinol i fod o ddefnydd i’r rheini yng Nghymru.
Sŵn
Mae’n hawdd i amgylcheddau fod yn rhy swnllyd a all fod yn heriol i ddatblygiad iaith plant ifanc. Nid oes angen iddi fod yn dawel trwy’r amser ond byddwch yn ymwybodol o’r angen i amgylcheddau fod yn ddargludol i wrando. Os yw’n rhy swnllyd yna ni fydd plant yn gallu clywed synau lleferydd, geiriau neu ymadroddion newydd na chynnal sgwrs gyda chi.
Dewch o hyd i ffyrdd o leihau sŵn cefndir. Diffoddwch y radio a’r teledu. Meddyliwch am lefel eich llais. Ydych chi’n modelu gwahanol donau a lefelau llais? Ydych chi’n gwneud y mwyaf o’r tu mewn a’r tu allan gan fod hyn yn effeithio’n gadarnhaol ar lefel sŵn.
Lle personol
Yn ogystal â lefelau sŵn gall amgylcheddau prysur hefyd effeithio ar fewnbwn synhwyraidd corfforol, a all ddod yn llethol ar brydiau. Mae’n bwysig cynnig cyfleoedd ar gyfer amser tawel a chymryd seibiant o symbyliad ardaloedd prysur.
Ystyriwch ddarparu lle tawel y tu hwnt i fannau chwarae prysur y gellir mynd iddynt ar gyfer cyfnod unigol a myfyrio tawel. Gall ardaloedd lled-breifat alluogi plant i gamu i ffwrdd a dod o hyd i rywfaint o le personol oddi wrth eraill wrth barhau i allu gwylio’r hyn sy’n digwydd mewn man arall. A oes ardaloedd llai eu defnydd sy’n addas ar gyfer darparu lle tawel? Archwiliwch rai o’r astudiaethau achos i gael syniadau ac ysbrydoliaeth i gynnig cyfleoedd ar gyfer lle personol a chwarae unigol.
Lliw
Mae ymchwil fodern yn dangos fod lliw yn effeithio ar ein hymddygiad a’n hymateb. Ac eto, ers blynyddoedd lawer y dull lliwiau cynradd beiddgar, llachar a thraddodiadol yw’r hyn sydd wedi’i hyrwyddo ar gyfer plant ifanc ac efallai mai dyna sut mae’ch lleoliad chi. Gwiriwch y dolenni ymchwil yn y blwch ochr a rhai o’r astudiaethau achos, yna datblygwch olwg tymor hir a chynlluniwch ddefnydd lliw eich gofod a dros amser gallwch newid neu ddisodli pethau ac ychwanegu arlliwiau tawelach.
Golau
Mae golau yn gwneud cymaint o wahaniaeth i le. Golau naturiol yw’r gorau ac mae’n ysgogi gweithgaredd yr ymennydd. Mae golau yn effeithio ar ymddygiad ac iechyd hefyd.
Ystyriwch y canlynol:
- Gwneud y mwyaf o fynediad i’ch lle awyr agored trwy gydol y flwyddyn.
- Agor y bleindiau a’r llenni a pheidio â rhwystro golau dydd.
- Defnyddio goleuadau artiffisial mewn ffordd fwriadol i feddalu’ch amgylchedd ac ychwanegu awyrgylch.
Annog gweithgarwch corfforol plant
Mae ymchwil newydd ar ddatblygu ymennydd yn dangos i ni pa mor bwysig yw hi i blant symud a chael eu cefnogi a’u herio’n gorfforol. Nid yw hyn mewn ffordd aerobig ‘y tu allan’ yn unig ond hefyd yn ymwneud â datblygu sgiliau cydlynu, cydbwysedd a symud. Gall y ffordd rydych chi’n cyflwyno cyfleoedd dysgu yn eich lle herio a chefnogi hyn. Peidiwch â disgwyl i blant ifanc fod yn llonydd am yn hir. Mae angen iddyn nhw symud i feddwl. Yn aml nid ydyn nhw wedi datblygu rheolaeth ar eu corff i fod yn llonydd eto.  Mae plant sy’n symud eu cyrff yn helaeth ac yn aml yn well am dalu sylw ac mae ganddynt alluoedd gwell ar gyfer rheoli impwls, gwneud penderfyniadau a datrys problemau.
Cofiwch!
- Cadwch leoedd yn hyblyg.
- Peidiwch â gor-gymhlethu’r gosodiad.
- Weithiau, y lleoedd symlaf yw’r rhai mwyaf effeithiol.
- Mae plant yn aml wrth eu bodd yn creu eu lleoedd eu hunain. Mynnwch flwch o adnoddau y gallant eu defnyddio i wneud hyn. Er enghraifft, clampiau, tarpolinau, rhwydau, rygiau, clustogau.
Mae yna lawer i’w ystyried yn yr adran hon. Byddwch eisoes yn gwneud peth o’r hyn sydd wedi cael sylw. Os oes unrhyw newidiadau rydych chi eisiau eu gwneud, peidiwch â theimlo bod angen i chi wneud popeth ar unwaith. Gall gormod o newid gythruddo plant ac mae angen i chi hefyd gadw pethau’n ymarferol i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dathlu ac yn rhannu’r pethau sy’n mynd yn dda a’r effaith rydych chi’n sylwi arni.
Myfyriwch!
- Sylwch ar y lleoedd nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio rhyw lawer yn eich lleoliad. Pam mae hyn? Sut allech chi eu datblygu? Weithiau mae newid neu ychwanegiad syml i le yn ddigon i ail-ysbrydoli defnydd a diddordeb.
- Ystyriwch y ffordd y mae eich gofod yn cefnogi plant unigol dan eich gofal a’u hanghenion. Ydych chi’n cynnig graddfeydd lle? Sut gallai hyn helpu’ch plant i archwilio mewn ffordd â mwy o ffocws?
- Archwiliwch y gweadau yn eich amgylchedd – garw, llyfn, sidanaidd, blewog. A allech chi gyflwyno mwy o wrthgyferbyniad o ran gwead? Meddyliwch am yr adnoddau a’r gweithgareddau rydych chi’n eu cynnig yn ogystal â’r amgylchedd.
- Gwnewch archwiliad sŵn: Pryd mae’n wirioneddol swnllyd yn eich lleoliad? Pryd mae hi dawelaf? Ble mae hi’n swnllyd? Ble mae hi’n dawel? Sut allech chi leihau sŵn cefndir diangen?
- Meddyliwch am gynnig cyfleoedd dysgu ar wahanol lefelau. Crëwch leoedd sefyll, lleoedd penlinio a gwnewch y gorau o’r llawr fel cyd-destun poblogaidd ar gyfer dysgu. Bydd hyn yn ennyn diddordeb plant mewn ffordd gorfforol.Â
- A allech chi ychwanegu goleuadau i’ch lle y gallai plant eu rheoli’n ddiogel? Mae goleuadau nos, fflachlampau, goleuadau botwm gwthio i gyd yn rhoi cyfle i blant newid y gofod ac ychwanegu naws wahanol.