Care Inspectorate Wales (CIW) have published their annual report for 2023-2024 which shows that 77% of all ratings for childcare and play settings were either ‘good’ or ‘excellent’.
Alongside this they note the ongoing decline in childcare and play services in Wales in relation to childminders and sessional day care specifically.
‘We saw an overall decline (-2.9%) in the number of services on the register. However, there was a growth of 0.4% in the number of places for childcare and play, with full day care recording an extra 2,119 places (5.2%) and an additional 47 services registering with CIW. The largest decline in number of places was for sessional day care (911 fewer places), followed by childminders (553 fewer places). While the decline in childminding services and places in recent years is well-documented, the decline in sessional day care in the last three years (-18.7%) exceeds the decline in places for childminders over the same period (-10.9%).’
‘The growth in full day care services and places is likely to reflect efforts by Welsh Government to expand the availability of childcare for parents and carers. Given the initial focus on expanding the provision of Flying Start places for childcare, it is perhaps not surprising to see noticeable growth in full day care services and places. There is some evidence of existing services expanding their numbers as the most common variation we received from full day care services was to vary their maximum capacity (143 variations received from 130 services). The decline in places for sessional day care is likely to reflect, in part, existing sessional day settings changing their registration status to full day care as they expand their opening hours in response to parental demand and government initiatives.’
CIW have also shared three ‘Calls to action’;
- Leaders at all levels in care services should be compassionate, motivating and inspire their teams. They should listen to staff and give them the tools and support they need to provide the best possible care for people.
- Positive practice should be shared by those providing services and by Care Inspectorate Wales, so a culture of continued improvement and refection is developed and celebrated.
- Organisations and groups working in care should create and seize opportunities to work in partnership with one another.
Claire Protheroe, Head of Contracts and Projects at PACEY Cymru said:
"PACEY Cymru welcome the publication of the annual report with the positivity this includes about the quality of the majority of childcare and play services in Wales. We echo CIW’s concerns around the continuing decline in childminders and continue to work closely with Welsh Government, CIW, Local Authorities and other partners to take forward actions to support work to address this. While there has been some progress to date linked to the Independent Review of Childminding published in 2023, PACEY Cymru believe stronger activity is needed to ensure this has a positive impact on the decline. We believe additional funding and significant investment is needed and have shared our concerns with the Minister and Welsh Government officials."
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2023-2024 sy’n dangos bod 77% o’r holl raddau ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae naill ai’n ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.
Ochr yn ochr â hyn maent yn nodi’r dirywiad parhaus mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru mewn perthynas â gwarchodwyr plant a gofal dydd sesiynol yn benodol.
‘Gwelsom leihad cyffredinol (-2.9%) yn nifer y gwasanaethau ar y gofrestr. Fodd bynnag, bu cynnydd o 0.4% yn nifer y lleoedd ar gyfer gofal plant a chwarae, gyda gofal dydd llawn yn cofnodi 2,119 o leoedd ychwanegol (5.2%) a 47 o wasanaethau ychwanegol yn cofrestru ag AGC. Gwelwyd y lleihad mwyaf yn nifer y lleoedd ar gyfer gofal dydd sesiynol (911 yn llai o leoedd), a gwarchodwyr plant wedi hynny (553 yn llai o leoedd). Er bod y lleihad mewn gwasanaethau a lleoedd gwarchod plant dros y blynyddoedd diwethaf wedi’i ddogfennu’n dda, mae’r lleihad mewn gofal dydd sesiynol dros y tair blynedd diwethaf (-18.7%) yn fwy na’r lleihad mewn lleoedd gwarchod plant yn ystod yr un cyfnod (-10.9%).’
‘Mae’r twf mewn gwasanaethau a lleoedd gofal dydd llawn yn debygol o adlewyrchu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu’r ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael i rieni a gofalwyr. O ystyried y ffocws cychwynnol ar gynyddu lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg, efallai nad yw’n syndod gweld twf amlwg mewn gwasanaethau a lleoedd gofal dydd llawn. Mae rhywfaint o dystiolaeth sy’n dangos bod gwasanaethau presennol yn cynyddu eu niferoedd gan mai natur yr amrywiadau mwyaf cyffredin a gawsom gan wasanaethau gofal dydd llawn oedd ceisiadau i amrywio eu huchafswm cynhwysedd (cafwyd 143 o amrywiadau gan 130 o wasanaethau). Mae’r lleihad yn nifer y lleoedd ar gyfer gofal dydd sesiynol yn debygol o adlewyrchu, yn rhannol, y faith bod lleoliadau gofal dydd sesiynol presennol yn newid eu statws cofrestru i ofal dydd llawn wrth iddynt ymestyn eu horiau agor mewn ymateb i’r galw gan rieni a mentrau’r llywodraeth.’
Mae AGC hefyd wedi rhannu tair ‘Galwad i Weithredu’;
- Dylai arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaethau gofal fod yn dosturiol, a dylent gymell ac ysbrydoli eu timau. Dylent wrando ar staff a rhoi’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl.
- Dylai’r rheini sy’n darparu gwasanaethau ac Arolygiaeth Gofal Cymru rannu arferion cadarnhaol er mwyn datblygu a dathlu diwylliant o wella’n barhaus.
- Dylai sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio ym maes gofal greu cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â’i gilydd ac achub ar gyfleoedd o’r fath.
Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau
"Mae PACEY Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gyda’r positifrwydd y mae hwn yn ei gynnwys am ansawdd y mwyafrif o wasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Rydym yn adleisio pryderon AGC ynghylch y gostyngiad parhaus mewn gwarchodwyr plant ac yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, AGC, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i gymryd camau gweithredu i gefnogi gwaith i fynd i’r afael â hyn. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud hyd yma yn gysylltiedig â'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a gyhoeddwyd yn 2023, mae PACEY Cymru yn credu bod angen gweithgarwch cryfach i sicrhau bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y dirywiad. Credwn fod angen cyllid ychwanegol a buddsoddiad sylweddol ac rydym wedi rhannu ein pryderon â’r Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru."