A refresh of the National Minimum Standards (NMS) has led to changes in the qualification requirements for childminding assistants in Wales. From November 2024, all childminding assistants must have successfully completed an appropriate course recognised in the Social Care Wales' Qualification Framework. The current training noted in the framework is the Introduction to Home-based Childcare (IHC), which PACEY Cymru deliver.
Sara Ahmed-Pattisahusiwa, has been working as a childminding assistant for 18 months and recently completed the IHC unit with PACEY Cymru. Prior to being an assistant, Sara had no formal childcare experience but had been a stay-at-home mum to her four children for 22 years. Sara works in a childminding setting where the registered childminder employs two assistants to meet the demand for childcare places in their area.
We spoke to Sara about her experience of completing the IHC unit with PACEY Cymru.
Why did you decide to complete the training?
As well as being a requirement of the NMS, for me, I also think the more you know the better. It's good to be up to date on current legislation and policies. Even though you may have worked in childcare for years, it's always good to refresh your knowledge and make sure you are following the correct procedures. It's important to deliver a high level of practice and care for the children.
Was the childminder you work for supportive?
Yes, she was incredibly supportive. I was a bit nervous in the beginning, but she told me to go for it and was reassuring and very supportive. She has been there for me throughout. If I had any questions, she guided me in the right direction so I could find the information I needed.
Did you receive funding to complete the training?
Yes, I had funding through the local authority to complete the training. It was easy to apply for and the process was very straight forward and quick. Funding the training yourself could be problematic but as there is funding available, I’d say make the most of it.
What were your expectations of the training?
I expected it would give me the groundwork knowledge and I was surprised at the depth of knowledge and the detail I obtained from the training, which was a real positive for me. The detail has helped me develop my knowledge.
What was your experience of completing the training?
It was very positive. At first, I found the learning platform tricky to navigate but once I got to grips with that, I really liked the layout, especially the slides which were accessible and user friendly. The content of the course was insightful, and it was a positive learning experience. I feel a sense of pride completing it. It’s really valuable for me to be able to say I have completed the training. It makes me feel like a professional.
What support have you had when completing the training?
I have had the support of my employer. If I needed it, I was able to check in with her and ask questions and she would point me in the right direction. My PACEY assessor was always at the end of the phone or email if I needed help with anything. If I needed support with any of the criteria, I always got a quick, clear response from my assessor and the feedback provided was good and told me if I needed to add anything extra to my workbook which enabled me to complete the training with more ease. It was reassuring having the support of an assessor.
What impact has completing the training had on your practice?
Being a mum first, I feel like I know why I do things but not the theory behind it. The training has given me that background knowledge and made me aware of why we do things and why we follow certain procedures. I now have the confidence that if something happened, I’d know how to react.
In our setting we use a mix of approaches to suit the individual child. We try to have as much outdoor time as possible, in the garden, or taking the children out and about. We live in a beautiful part of the country and access the beach and forests, as well as trips into town and the library. The training gives you the whole picture of why we do what we do and raises your game really. I was confident in what I did before, but doing the training has enhanced that, raised my level of knowledge and understanding, and the level of care I offer the children.
What would you say the benefits of completing the training have been for you?
It has made me more aware of why we do things in a certain way, and I feel like more of a professional. It’s given me the confidence that I know what I’m doing. It has allowed me to bring that professionalism to the job and all the things I have learnt will benefit me going forward.
What would you say to anyone starting the training?
Go for it! I was a bit daunted by the thought of it initially, but once I had got started, I realised it would be very beneficial to my practice and with the support of my employer and assessor, it was easier to do.
You decided to complete the Preparing for Childminding Practice (PCP) unit after completing the IHC unit, why is this?
I don’t have any intentions of opening my own business at the moment, but I thought why not do the PCP as well. It will be something I have in the future if I did decide to start my own business. It was also interesting, learning about the practical side of running a childminding business. It's given me confidence to speak to my employer about ways to do things as I know that PACEY recommend them. You do this role because you have a passion for working with children, but at the end of the day you have to run a sustainable business and I think the PCP really helps with this.
#Signpost
Mae adnewyddu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) wedi arwain at newidiadau yn y gofynion o ran cymwysterau ar gyfer cynorthwywyr gwarchod plant. O fis Tachwedd 2024, rhaid i bob cynorthwyydd gwarchod plant fod wedi llwyddo cwblhau cwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Yr hyfforddiant cyfredol a nodir yn y fframwaith yw'r Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC), y mae PACEY Cymru yn ei ddarparu.
Mae Sara Ahmed-Pattisahusiwa wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd gwarchod plant ers 18 mis ac yn ddiweddar cwblhaodd yr uned IHC gyda PACEY Cymru. Cyn bod yn gynorthwyydd, nid oedd gan Sara unrhyw brofiad gofal plant ffurfiol ond mae wedi bod yn fam aros gartref i'w phedwar plentyn ers 22 mlynedd. Mae Sara yn gweithio mewn lleoliad gwarchod plant lle mae'r gwarchodwr plant cofrestredig yn cyflogi dau gynorthwyydd i fodloni'r galw am leoedd gofal plant yn eu hardal.
Buom yn siarad â Sara am ei phrofiad o gwblhau'r uned IHC gyda PACEY Cymru.
Pam wnaethoch chi benderfynu cwblhau'r hyfforddiant?
Yn ogystal â bod yn un o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, i mi, rwy'n meddwl hefyd po fwyaf y gwyddoch y gorau. Mae'n dda cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol. Er y gallech fod wedi gweithio ym maes gofal plant ers blynyddoedd, mae bob amser yn dda adnewyddu eich gwybodaeth a gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir. Mae'n bwysig darparu lefel uchel o ymarfer a gofal i'r plant.
Oedd y gwarchodwr plant yr ydych yn gweithio iddo yn gefnogol?
Oedd, roedd hi'n hynod gefnogol. Roeddwn ychydig yn nerfus ar y dechrau, ond dywedodd wrthyf am fynd amdani ac roedd yn galonogol ac yn gefnogol iawn. Mae hi wedi bod yno i mi drwy'r amser. Os oedd gennyf unrhyw gwestiynau, fe wnaeth hi fy arwain i'r cyfeiriad cywir fel y gallwn ddod o hyd i'r wybodaeth yr oeddwn ei hangen.
A gawsoch chi arian i gwblhau'r hyfforddiant?
Do, cefais gyllid drwy’r awdurdod lleol i gwblhau’r hyfforddiant. Roedd yn hawdd gwneud cais amdano ac roedd y broses yn syml iawn ac yn gyflym. Gallai ariannu’r hyfforddiant eich hun fod yn broblemus ond gan fod cyllid ar gael, byddwn yn dweud gwnewch y gorau ohono.
Beth oedd eich disgwyliadau o'r hyfforddiant?
Roeddwn i'n disgwyl y byddai'n rhoi'r wybodaeth sylfaenol i mi a chefais fy synnu gan ddyfnder y wybodaeth a'r manylion a gefais o'r hyfforddiant, a oedd yn bositif iawn i mi. Mae'r manylion wedi fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth.
Beth oedd eich profiad o gwblhau'r hyfforddiant?
Roedd yn bositif iawn. Ar y dechrau, roedd y platfform dysgu yn anodd ei lywio ond unwaith i mi fynd i'r afael â hynny, roeddwn i'n hoff iawn o sut mae'n edrych ac yn gweithio, yn enwedig y sleidiau a oedd yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. Roedd cynnwys y cwrs yn graff, ac roedd yn brofiad dysgu positif. Rwy'n teimlo ymdeimlad o falchder yn ei gwblhau. Mae’n werthfawr iawn i mi allu dweud bod gen i gymhwyster. Mae'n gwneud i mi deimlo fel gweithiwr proffesiynol.
Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i chael wrth gwblhau'r hyfforddiant?
Rwyf wedi cael cefnogaeth fy nghyflogwr. Pe bai ei angen arnaf, roeddwn yn gallu cysylltu â hi a gofyn cwestiynau a byddai'n fy nghyfeirio i'r cyfeiriad cywir. Roedd fy asesydd PACEY bob amser ar ddiwedd y ffôn neu e-bost os oedd angen help arnaf gydag unrhyw beth. Os oedd angen cymorth arnaf gydag unrhyw un o’r meini prawf, roeddwn bob amser yn derbyn ymateb cyflym a chlir gan fy aseswr ac roedd yr adborth a ddarparwyd yn dda. Dywedodd wrthyf os oedd angen i mi ychwanegu unrhyw beth ychwanegol at fy llyfr gwaith ac roedd hyn yn fy ngalluogi i gwblhau’r hyfforddiant yn haws. Roedd yn galonogol cael cefnogaeth gan aseswr.
Pa effaith y mae cwblhau'r hyfforddiant wedi'i chael ar eich ymarfer?
Gan fy mod yn fam yn gyntaf, rwy'n teimlo fy mod yn gwybod pam fy mod yn gwneud pethau ond nid y theori y tu ôl iddynt. Mae'r hyfforddiant wedi rhoi'r wybodaeth gefndir honno i mi ac wedi fy ngwneud i'n ymwybodol o pam rydyn ni'n gwneud pethau a pham rydyn ni'n dilyn gweithdrefnau penodol. Bellach mae gennyf yr hyder pe bai rhywbeth yn digwydd, byddwn yn gwybod sut i ymateb.
Yn ein lleoliad rydym yn defnyddio cymysgedd o ddulliau sy'n addas ar gyfer y plentyn unigol. Rydym yn ceisio cael cymaint o amser awyr agored â phosib, yn yr ardd, neu fynd â'r plant o gwmpas y lle. Rydym yn byw mewn rhan brydferth o'r wlad ac yn gallu ymweld â'r traeth a'r coedwigoedd, yn ogystal â theithiau i'r dref a'r llyfrgell. Mae'r hyfforddiant yn rhoi'r darlun cyfan i chi o pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac yn gwella'ch prosesau. Roeddwn yn hyderus yn yr hyn a wnes i o'r blaen, ond mae gwneud yr hyfforddiant wedi gwella hynny, wedi codi lefel fy ngwybodaeth a dealltwriaeth, a lefel y gofal rwyf yn ei gynnig i'r plant.
Beth fyddech chi'n ei ddweud yw manteision cwblhau'r hyfforddiant i chi?
Mae wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o pam rydym yn gwneud pethau mewn ffordd arbennig, ac rwy'n teimlo fel mwy o weithiwr proffesiynol. Mae wedi rhoi’r hyder i mi fy mod yn gwybod beth rwy’n ei wneud. Mae wedi fy ngalluogi i ddod â’r proffesiynoldeb hwnnw i’r swydd a bydd yr holl bethau rwyf wedi’u dysgu o fudd i mi wrth symud ymlaen.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n dechrau'r hyfforddiant?
Ewch amdani! Cefais fy nychryn braidd gan y syniad i ddechrau, ond ar ôl i mi ddechrau, sylweddolais y byddai'n fuddiol iawn i'm hymarfer a gyda chefnogaeth fy nghyflogwr a'm haseswr, roedd yn haws ei wneud.
Gwnaethoch benderfynu cwblhau'r uned Paratoi ar gyfer Ymarfer Gwarchod Plant (PCP) ar ôl cwblhau'r uned IHC, pam?
Nid oes gennyf unrhyw fwriad i agor fy musnes fy hun ar hyn o bryd, ond meddyliais - beth am wneud y PCP hefyd? Bydd yn rhywbeth sydd gennyf yn y dyfodol pe bawn yn penderfynu dechrau fy musnes fy hun. Roedd hefyd yn ddiddorol dysgu am ochr ymarferol rhedeg busnes gwarchod plant. Mae wedi rhoi hyder i mi siarad â fy nghyflogwr am ffyrdd o wneud pethau gan fy mod yn gwybod bod PACEY yn eu hargymell. Rydych chi'n gwneud y rôl hon oherwydd bod gennych chi angerdd dros weithio gyda phlant, ond ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i chi redeg busnes cynaliadwy ac rydw i'n meddwl bod y PCP yn helpu gyda hyn.
#Arwyddgyfeirio