Dod yn gynorthwyydd gwarchodwyr plant yng Nghymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda grwpiau bach o blant mewn amgylchedd cartrefol, yna efallai mai dod yn gynorthwyydd gwarchodwyr plant yw’r rôl i chi.

Gan weithio o dan oruchwyliaeth, ac mewn partneriaeth gyda’r gwarchodwr plant cofrestredig, bydd cynorthwyydd gwarchodwr plant yn eu cefnogi i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r plant, profiadau dysgu addas, a helpu i sicrhau eu diogelwch a’u lles. Gallwch ddarganfod mwy am rôl cynorthwyydd gwarchodwyr plant yn ein templed disgrifiad swydd cynorthwyydd gwarchodwyr plant.

Gall cynorthwy-ydd gwarchod plant fod yn weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr mewn rôl â thâl neu rôl ddi-dâl sy’n gweithio gyda phlant o dan warchodwr plant cofrestredig. Felly, i ddod yn gynorthwyydd gwarchodwyr plant bydd angen i chi ddod o hyd i warchodwr plant sy’n chwilio i recriwtio cynorthwyydd. Efallai y gallwch ddod o hyd i swydd wag ar air, byrddau swyddi lleol, neu wefannau recriwtio megis WeCareWales.

Camau i ddod yn gynorthwyydd gwarchodwyr plant

Yng Nghymru mae gofynion penodol i gynorthwyydd gwarchodwyr plant wedi’u hamlinellu o fewn Atodiad A o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gwarchodwyr plant a reoleiddir, gan gynnwys hyfforddiant y dylid ei gwblhau cyn dechrau’r rôl. Mae hyn yn cynnwys:

Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r fframwaith yn nodi Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (CPC) fel yr uned gyfredol a dderbynnir, gall PACEY Cymru ddarparu’r hyfforddiant hwn, gweler Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru. Nid oes rhaid i’r rhai sy’n meddu ar un o’r cymwysterau blaenorol a nodir yn y fframwaith gwblhau CPC.  Cysylltwch â thîm gofal plant eich awdurdod lleol am fanylion ar sut i gael mynediad at yr hyfforddiant a’r cyllid sydd ar gael.

Rhaid i gynorthwyydd gwarchodwyr plant gwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig addas ar gyfer y rôl.

Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a allai fydd â gofal dros y plant am unrhyw gyfnod o amser feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn (12 awr) cyn dechrau gwarchod plant. (Safon 10.22). Os na ofynnir i’r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, dylai fod ganddynt dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng. Dylid ymgymryd â’r cwrs 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau’r Gwaith (Safon 10.23). Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran cymwysterau sy’n ymwneud â Chymorth Cyntaf.

Cysylltwch â thîm gofal plant eich awdurdod lleol am fanylion ar hyfforddiant lleol, mae gennym hefyd wybodaeth yn Hyfforddiant cymorth cyntaf yng Nghymru.

Rhaid i gynorthwywyr gwarchodwyr plant gwblhau hyfforddiant amddiffyn / diogelwch.

Mae’n rhaid i gynorthwywyr gwarchodwyr plant gwblhau hyfforddiant diogelwch Grŵp B (lefel 2 – Cwrs Canolradd). Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran hyfforddiant. Cysylltwch â thîm gofal plant eich awdurdod lleol ar gyfer manylion am hyfforddiant lleol.

Yn ogystal â hyfforddiant diogelu, bydd yn bwysig i allu rhoi’r polisi amddiffyn / diogelu’r plentyn ar waith a gweithredu’r gweithdrefnau, gan gynnwys y cyfrifoldeb o adrodd am unrhyw bryderon yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru heb oedi.

Tra'n recriwtio am gynorthwyydd, rhaid i'r gwarchodwr plant cofrestredig wneud yn siŵr eu bod yn berson addas ar gyfer y rôl hon.

Fel rhan o’r broses recriwtio, bydd angen i’r gwarchodwr plant cofrestredig wirio eich addasrwydd i weithio gyda phlant. Bydd yn cynnwys gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chysylltu â geirdaon, yn ogystal â gwirio’ch gwybodaeth, hyfforddiant, a phrofiadau.

Gweithio fel cynorthwyydd gwarchodwyr plant

Unwaith y byddwch wedi dechrau’ch rôl fel cynorthwyydd gwarchodwyr plant yn llwyddiannus, bydd yn bwysig i weithio drwy broses sefydlu gyda’ch cyflogwr i’ch helpu i ddeall eich rôl a’ch cyfrifoldebau, sut mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal, ac i allu gweithredu polisïau a gweithdrefnau’r gosodiad. Gall fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant helpu gyda darparu dechrau strwythuredig i chi yn eich rôl newydd.

Bydd hefyd yn bwysig i barhau i ddysgu a datblygu eich rôl drwy oruchwyliaeth ac arfarniad rheolaidd, ac wrth chwilio am gyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae aelodaeth Cynorthwyydd Ymarferydd PACEY yn cynnig mynediad at hyfforddiant am ddim, mae gennym hefyd raglen o weminarau a digwyddiadau ar gael.

Am mwy o wybodaeth cysylltwch â PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407.

Latest News

Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that’s going on in the childcare and early years sector