Ddod yn Warchodwr Plant yng Nghymru

Fe wnaethon ni ofyn beth yw’r peth gorau am fod yn warchodwr plant, dyma beth oedd gan rai gwarchodwyr plant i’w ddweud…

Os hoffech gael eich talu i ofalu am blant o dan 12 oed yng Nghymru am fwy na dwy awr y dydd, rhaid i chi gofrestru ag AGC. Before you register as a childminder you need to have undertaken training and suitability checks. Find out everything you need to know about registration here:

Sesiwn friffio

Gwiriadau addasrwydd

Hyfforddiant cyn-gofrestru hanfodol

Faint fydd yn ei gostio?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cofrestru

Cefnogaeth

Sesiwn friffio

Mae Gwarchodwyr Plant yng Nghymru wedi’u cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Y cam cyntaf wrth ddod yn warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru yw mynychu sesiwn friffio.

Mae’r sesiwn briffio yn rhoi gwybodaeth gefndir i chi ar ddod yn warchodwr plant yng Nghymru ac yn amlinellu’r broses gofrestru, yn ogystal â rhoi trosolwg i chi o’r ddeddfwriaeth y bydd angen i chi weithio oddi tani pan fyddwch wedi’ch cofrestru. Byddant hefyd yn darparu manylion unrhyw hyfforddiant, cefnogaeth neu gyllid sydd ar gael, a byddwch yn cael cyfle i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Efallai y bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn ardal eich awdurdod lleol a gallwch chwilio beth sydd ar gael drwy gysylltu â PACEY Cymru drwy ffonio 02920 351407 neu drwy e-bostio paceycymru@pacey.org.uk.

Mae PACEY Cymru hefyd yn cynnig sesiynau briffio y gellir eu cyrchu ar-lein trwy weminar ryngweithiol. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi ar gyfer hyn yw cyfrifiadur, gliniadur neu lechen gyda chysylltiad rhyngrwyd. Mae’r sesiwn fel arfer yn para. Mae gwybodaeth, dyddiadau pellach, a’r ddolen i archebu eich lle ar gael yn Gweminarua ar gyfer Cymru.

Hyfforddiant cyn-gofrestru hanfodol

Cyn gwneud cais i gofrestru bydd angen i chi ddilyn yr hyfforddiant cyn-gofrestru gwarchodwr plant a argymhellir ar gyfer gofal plant yn y cartref yng Nghymru oni bai eich bod eisoes yn meddu ar gymhwyster derbyniol. Cyfeiriwch at fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y gofynion hyfforddi cyfredol. 

Mae’r cwrs hyfforddi cyn cofrestru yn cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC), ac Uned 327 Paratoi ar gyfer ymarfer gwarchodwr plant (PCP). Bydd mwy o fanylion ar sut i gael gafael ar yr hyfforddiant hwn yn y sesiwn friffio.

Am mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig sy’n addas ar gyfer gofalwyr plant yn y cartref. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyfforddiant cymorth cyntaf yma.

Cofrestru

Allaf i gofrestru?

Cyn cofrestru, rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • Fod gennych hawl i weithio yn y DU.
  • Eich bod yn 18 oed neu hÅ·n.
  • Eich bod yn cael gweithio gyda phlant – bydd angen i chi gael eich gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ymlaen llaw, ynghyd ag unrhyw un arall dros 16 oed sy’n byw gyda chi.
  • Eich bod yn abl yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant. Bydd rhaid i’ch meddyg arwyddo ffurflen datganiad iechyd i gadarnhau hyn.

Ni allwch gofrestru os ydych yng anghymwys, er enghraifft:

  • Os ydych wedi eich gwahardd rhag gweithio gyda phlant.
  • Os cawsoch eich gwrthod rhag cofrestru yn flaenorol.
  • Os cafodd eich cofrestriad ei ganslo gan AGC o’r blaen.
  • Os ydych yn byw yn yr un lle â rhywun arall sydd wedi’i anghymhwyso.

Unwaith y byddwch wedi mynychu sesiwn friffio ac wedi cwblhau eich hyfforddiant cyn-cofrestru yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau cais AGC i ddod yn warchodwr plant cofrestredig.

    Y pum cam cyntaf wrth gofrestru yng Nghymru yw
      • Mynychu Sesiwn Friffio a Gwybodaeth.
      • Cwblhau’r hyfforddiant cyn-cofrestru gwarchodwr plant ar gyfer gofal plant yn y cartref yng Nghymru, sydd yn cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC), a 327 Uned Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP). Am mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407.
      • Defnyddio’r cymorth a’r gweithdai cyn-cofrestru sydd ar gael.
      • Dilyn canllawiau gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar eich cyfer chi ac unrhyw un arall dros 16 oed yn eich cartref.
      • Llenwi ac anfon eich cais i AGC, gan gynnwys datganiad iechyd gan eich meddyg a rhif(au) tystysgrif DBS; manylion eich tystysgrifau hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig a hyfforddiant cyn-cofrestru (gweler uwchben).

      Lawrlwythwch ein Rhestr Wirio o Gamau i’w Dilyn wrth Gofrestru yn rhad ac am ddim. Mae’n a ffordd gyflym o ddogfennu pa gamau yr ydych wedi/sydd angen i chi eu cwblhau cyn gallu cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.

      Mae’r pecyn cais, gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer gwarchod plant ar gael ar wefan AGC. Byddwch hefyd yn dod o hyd i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio ar wefan AGC. Bydd angen i chi ddarllen y rhain yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn deall yn gyfan gwbl beth yw’r rheolau a’r rheoliadau y mae angen i chi weithio oddi tanynt.

    Gwiriadau addasrwydd

    Gwiriadau DBS yng Nghymru

    Cyn i chi anfon eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i AGC, bydd angen i chi gael eich gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (yr hen CRB). Bydd hyn yn cynnwys unrhyw bersonau ar y safle gwarchod plant arfaethedig sy’n 16 oed neu hÅ·n.

    Mae AGC wedi cyhoeddi canllawiau a’r atebion i rai ‘Cwestiynau Cyffredin’ mewn perthynas â gwiriadau DBS, sy’n berthnasol i bob darparwr gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys manylion taliadau am wiriadau DBS.

    Bydd angen i chi gysylltu ag AGC ar 0300 790 0126 i ofyn am wiriad DBS. Mae eu proses ar-lein yn gyflym ac mae’r mwyafrif o wiriadau’n cael eu cwblhau cyn pen 14 diwrnod.

    Unwaith y bydd y gwiriad (DBS) wedi’i gwblhau, argymhellwn eich bod yn cofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru (DBS) o fewn 30 diwrnod.

    Gwasanaeth Diweddaru GDG?

    Mae PACEY Cymru ac AGC yn argymell bod pob ymgeisydd yn cymryd y cyfle i danysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru DBS yn ystod y broses ymgeisio ar-lein.  Mae’r Gwasanaeth Diweddaru yn danysgrifiad ar-lein sy’n eich galluogi i gadw’ch tystysgrif DBS yn gyfredol a, gyda’ch caniatâd, mae’n caniatáu i AGC wneud gwiriadau statws rheolaidd o’ch tystysgrif.

    Mae’r gwasanaeth ar gael am ffi flynyddol (ar gael ar hyn o bryd o £13). Rhaid adnewyddu eich tanysgrifiad bob blwyddyn os ydych chi am gynnal buddion y gwasanaeth. 

    Geirda meddygol

    Trefnwch gyda’ch meddyg teulu iddynt lenwi eich ffurflen geirda meddygol. Mae angen llenwi’r ffurflen hon yn agos at y dyddiad cyflwyno er mwyn sicrhau nad yw wedi dyddio. Efallai y codir tâl am hyn.

    Gwasanaethau Cymdeithasol

    Bydd angen i chi hefyd gwblhau’r Datganiad a chaniatâd i AGC gysylltu ag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol

    Faint fydd yn ei gostio?

    Yng Nghymru, bydd rhai awdurdodau lleol yn ariannu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau hyn. Cysylltwch â PACEY Cymru am fwy o wybodaeth. 

    Sesiwn briffio cyn-gofrestru gan PACEY CymruAm ddim
    Cwrs hyfforddi cyn cofrestru ar gyfer gofal plant yn y cartref yng Nghymru, gydag aelodaeth AM DDIM i ddysgwyr o PACEY £380
    Gweminarau cymorth cyn cofrestru gan PACEY CymruAm ddim
    Cwrs hyfforddi cymorth cyntaf pediatrig Gwiriwch gyda'ch Awdurdod Lleol. Efallai y bydd tâl, ond mae hyn yn amrywio. 
    Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd  £61.60 (yn cynnwys ffioedd gweinyddol ac IDV) ynghyd â ffi adnewyddu flynyddol (£13 ar hyn o bryd) 
    Gwiriad datganiad iechyd Gwiriwch gyda'ch meddyg teulu. Efallai y bydd tâl, ond mae hyn yn amrywio.
    Cofrestru gyda AGC Am ddim
    Aelodaeth lawn o PACEY  gan gynnwys PACEY Yswiriant ymarferydd O £12.66 y mis
    Cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth£40

    Efallai y bydd costau cysylltiedig eraill hefyd, yn dibynnu ar eich model busnes. Er enghraifft, os ydych chi’n bwriadu chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded PPL a PRS for Music ar y cyd ac mae’n debygol y bydd angen i chi hefyd gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n costio tua £40. 

    Cefnogaeth

    Gall PACEY Cymru a’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor i warchodwyr plant newydd. Efallai y gall eich awdurdod lleol hyd yn oed ariannu eich hyfforddiant, eich yswiriant a’ch aelodaeth o PACEY.

    Mae gan rai awdurdodau lleol arian i gynnig grantiau cychwyn i warchodwyr plant, felly gofalwch eich bod yn holi. Diben y grantiau yw helpu gyda’r costau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth i chi gychwyn eich busnes gwarchod plant newydd. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich tîm blynyddoedd cynnar lleol yma.

    Ydych chi’n bwriadu ennill rhagor o gymwysterau? Efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer cyrsiau lefel 3 a lefel 5 yng Nghymru.

    Ymunwch â’n cymuned

    Os ydych chi’n dechrau ar y ffordd i gofrestru fel gwarchodwr plant, dewch i ymuno â’n grŵp Facebook arbenigol Dod yn Warcheidwad Plant yng Nghymru.

    Byddwch yn cael cefnogaeth gan eraill sy’n ymuno â’r proffesiwn, gwarchodwyr plant sydd newydd gofrestru a gwarchodwyr plant mwy profiadol yn rhannu syniadau ac anogaeth.

    Beth sy’n digwydd nesaf?

    Ar ôl i chi gyflwyno eich cais bydd AGC yn cynnal nifer o wiriadau i ddangos eich addasrwydd. Ar ôl y rhain bydd AGC yn ymweld â’ch lleoliad i drafod eich cais i gofrestru ac yn cynnal archwiliad o du mewn ac o du allan y safle. Dylech sicrhau fod popeth yn barod ac yn ei le adeg yr ymweliad hwn. Mae hyn yn helpu AGC i wneud penderfyniad ynglÅ·n â’ch addasrwydd fel gwarchodwr plant.

    Mae canllawiau cofrestru AGC yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd yr arolygydd yn awyddus i’w drafod a’i asesu.

    Bydd arolygydd AGC yn penderfynu ar nifer y plant y gallwch ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg, hyd at fwyafrif o ddeg o blant o dan 12 oed, na all mwy na chwech ohonynt fel arfer fod o dan 8 oed, na all dim mwy na thri fod o dan 5 oed a dim mwy na dau ohonynt o dan 18 mis. Os oes gennych unrhyw blant eich hun dan 12 oed, byddant yn cael eu cynnwys yn y niferoedd hyn. Cewch ragor o wybodaeth yn eich Sesiwn Friffio a Gwybodaeth.

    Yn dilyn yr ymweliad hwn, efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth i AGC yn unol ag unrhyw faterion a nodwyd yn ystod yr ymweliad â’ch cartref. Unwaith y bydd AGC wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gennych y bydd unrhyw faterion a nodwyd yn ystod yr ymweliad â’ch cartref wedi cael eu datrys, bydd AGC yn gwneud penderfyniad terfynol ynglÅ·n â’ch cofrestriad. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn fuan ar ôl yr ymweliad.

    Faint o amser fydd hi’n gymryd i gofrestru?

    Fel y gwelir uchod, mae nifer o gamau i’w cwblhau cyn anfon eich cais at AGC. Yn achos gwarchodwyr plant, unwaith y bydd eich cais wedi ei anfon, fel arfer bydd yn cymryd tua thri mis i gofrestru.

    Cofrestru llwyddiannus

    Pan fydd eich cofrestriad wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gofrestru gan AGC a byddwch wedyn yn gallu dechrau gweithio fel gwarchodwr plant cofrestredig.

    Er mwyn eich helpu i sefydlu eich busnes gwarchod plant newydd mae PACEY Cymru wedi datblygu Taflen Ffeithiau ar gyfer gwarchodwyr plant sydd newydd gofrestru yng Nghymru ac yn cynnig galwad ffôn cymorth rhagarweiniol i’r rhai sydd newydd gofrestru.

    Arolygiadau yng Nghymru

    Mae gwarchodwyr plant, gwasanaethau gofal dydd a gwasanaethau chwarae yng Nghymru wedi’u cofrestru ac yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ar hyn o bryd mae’r arolygiadau hyn yn ddirybudd yn achos gwarchodwyr plant. Bydd AGC fel arfer yn ffonio’r gwasanaeth yr wythnos cyn y bydd yn bwriadu cynnal yr arolwg, er mwyn sicrhau bod y gwarchodwr plant ar gael ac i ganfod beth yw ei amseroedd gweithredu.

    Oni bai fod pryderon yn cael eu lleisio ynglÅ·n â lleoliad, mae AGC yn arolygu gwasanaethau gofal dydd llawn o leiaf unwaith bob dwy flynedd; a gwasanaethau gofal plant eraill – gwarchodwyr plant, gofal dydd sesiynol, chwarae mynediad agored, crèches a gofal y tu allan i oriau ysgol – o leiaf unwaith bob tair blynedd.

    Bydd arolygwyr AGC yn treulio amser yn y gwasanaeth yn :

    • siarad â phlant, rhieni a staff;
    • arsylwi plant a rhyngweithio’r staff â’r plant;
    • edrych ar gofnodion plant a gwybodaeth arall i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru’n rheolaidd megis: polisïau amddiffyn plant, datganiad o ddiben, tystysgrifau cymorth cyntaf, asesiadau risg tân a thystysgrifau’r DBS;
    • ystyried tystiolaeth ynglÅ·n â datblygiad a lles plant; a
    • trafod adborth gyda’r person/au perthnasol

    Mae’r arolygiadau’n rhoi pwyslais cryf ar ddatblygiad plant a chanlyniadau lles. Yn ystod ymweliad arolygwyr, byddant yn ystyried pedair thema:

    • Lles
    • Gofal a datblygiad
    • Arweinyddiaeth a rheolaeth
    • Amgylchedd

    Mae’r fframwaith arolygu llawn ar gael ar wefan AGC. Yn y dyfodol, bydd lleoliadau gofal plant yng Nghymru sy’n darparu addysg a ariennir i blant 3 a 4 oed ac sydd wedi cael eu harolygu yn y gorffennol gan AGC ac Estyn yn cael eu harolygu ar y cyd. Bydd AGC yn arolygu yn ôl y themâu uchod, ac Estyn yn ôl themâu ychwanegol sef Dysgu ac Addysgu ac Asesu.

    Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar y cyd hyn (os ydynt yn berthnasol i’ch lleoliad) ar gael yn: Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant – sicrhau ansawdd a dysgu. Bydd y fframwaith arolygu ar y cyd newydd yn symleiddio’r ffordd y bydd AGC ac Estyn yn arolygu’r gwasanaethau hyn.

    Bydd arolygydd AGC yn anfon ei adroddiad ysgrifenedig i’r lleoliad o fewn 28 diwrnod. Yna bydd gan y lleoliad 14 diwrnod i wirio cywirdeb yr adroddiad, a gellir ei ddiwygio os yw’r arolygydd yn cytuno bod gwallau ffeithiol ynddo. Bydd yr adroddiad terfynol ar gael hefyd i’r rhieni.

    Graddau yng Nghymru

    Mae AGC wedi cyhoeddi adroddiadau arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant yng Nghymru ers hydref 2018.

    Bydd pob un o hadolygiadau llawn AGC o wasanaethau gofal plant a chwarae yn cynnwys gradd ar gyfer pob un o’r pedair thema a gaiff eu hystyried yn ystod yr arolygiad. Mae hyn yn golygu y caiff gradd Rhagorol; Da; Digonol; neu Wael ei chyhoeddi mewn perthynas â themâu Llesiant; Gofal a Datblygiad; Yr amgylchedd; ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

    Mae AGC wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth gan gynnwys y fframwaith arolygu llawn a chanllaw i’r arolygiad ar eu gwefan.

    I gael newyddion am unrhyw newidiadau ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am AGC, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr AGC yma newyddion diweddaraf AGC.

    Mae gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd hefyd ar gael ar dudalen Facebook PACEY Cymru ac e-gylchlythyrau i aelodau. Bydd PACEY Cymru hefyd yn cynhyrchu canllawiau cysylltiedig ynghylch graddau dros y misoedd nesaf.

    Ymunwch â’ch cymdeithas broffesiynol

    Ymuno â PACEY yw’r ffordd orau o ddangos eich ymrwymiad i’ch gyrfa gwarchod plant. Fel aelod o’r gymdeithas broffesiynol fwyaf a hiraf sy’n cynrychioli gwarchodwyr plant, gallwch fod yn sicr o gael y gefnogaeth, y cyngor, yr hyfforddiant, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch. 

    Latest News

    Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector

    Socials

    Get your daily does of all that’s going on in the childcare and early years sector