Braint Rees, PACEY Cymru Welsh language co-ordinator
Braint Rees, PACEY Cymru Welsh language co-ordinator shares her experiences and ideas for incorporating the Welsh language as you support children in their transition to school and how books and digital resources can support with this.
Once the start of a new school year begins and routines begin to settle it can be timely to reflect on how you support children to prepare for transitions like this, what went well, and any changes or further ways you can work to support children in the future.
The skills that contribute to a positive start in school are developed in the years, rather than weeks, before children go to school. The experiences and opportunities you provide the children in your setting are not only vital for their development at that time but can also impact on how successful their transition to school is. In the new curriculum for Wales, Welsh language should be threaded through children’s experiences and play opportunities in settings and schools. Therefore, introducing children to the Welsh language before they begin school not only supporting their learning and development but gives them confidence in using the language and an appetite to continue learning. Also, a second or third language is best introduced as young as possible, especially in the first three years when the child’s brain is fast developing, making this the perfect time to introduce the Welsh language.
When children’s experiences of changes and transitions are positive, this will support their wellbeing and resilience, and give them the skills and experiences for more positive transitions later in life
My personal experience
As a daughter to a fluent Welsh speaking mum and an English-speaking dad who learnt Welsh when I started primary school, I was exposed from birth to both languages through rhymes, song, stories, music, and digital resources. My father would often create his own stories at bedtime whilst Mum would throughout the day share Welsh, English, and bilingual books. Having the opportunity to drop in Welsh or English words was something we just took for granted and I believe supported me to become fully bilingual. By using the books as a source of playful learning this gave me the opportunity to hear, listen and understand the Welsh language through play.
Bilingual books to support the transition to school
It can be beneficial to introduce Welsh and bilingual books and stories on starting school that will help children learn more about the adventures that they could experience as they move to school. Some suggestions for you to try are Smot yn mynd i’r ysgol, Topsi a Tim: Dechrau’r Ysgol, and Diwrnod Cyntaf Douglas yn yr Ysgol. You can purchase a range of Welsh or bilingual books from Gwales (search for `ysgol’) or Siop Cwlwm, or visit your local library to borrow books that support the transition to school.
It can also be beneficial to introduce key words and phrases in Welsh when reading books and stories that aren’t Welsh or bilingual. For a range of books that can help you support children with starting school BookTrust, has a suggested list to explore. They also have a number of audio Welsh books which you can listen to, that are shared on the Pori Drwy Stori web pages.
Bilingual resources and activities for the transition to school
Here are some activity ideas and resources to support you:
- Access your local library’s Welsh rhyme time sessions to help the children to learn and become familiar with the Welsh rhymes and songs that they will use at school. You could also use the Swansea Welsh rhymes and songs in your daily routines.
- Download a copy of the school bag checklist from Menter Iaith Neath Port Talbot, or create your own checklist that is more personal to the child. Discuss what they will need to take and support children and their family complete their bilingual checklist before starting school.
- Will you be walking to school? If so, why not practice your Welsh skills by using the Road Safety videos and accompanying vocabulary resource for PACEY members. This is a great way of establishing a routine that will continue when they start school.
- PACEY members can also access a series of audio resources to introduce Welsh vocabulary on a range of themes, including beth i wisgo (what to wear). This could support you to use Welsh whilst the children are becoming independent in putting on their coat and dressing, and in role play with school uniform. Remember to use as much Welsh as possible, including naming clothing items, positioning words, and using fuller phrases, depending on the progress and skills of each child.
- Get talking with the children, ask them how they feel – sut wyt ti?/ How are you? It’s important that you understand how the child is feeling about this new transition. You may want to use a feelings chart or visuals to help them understand their feelings and emotions. Cyw’s Mr Hapus ydw i rhyme is one to use, and PACEY members can access our teimladau (feelings) audio resource, to support with the use of Welsh when discussing feelings.
- Do you have older children in your care who can share their positive experiences? What makes them happy about school? What do they enjoy the most? Try and include Welsh language in these discussions.
- There are further activity ideas, videos, and audio resources to explore in PACEY’S Spotlight on Welsh Language.
Supporting the transition with partners
In addition to working with the child, positive partnership working is key to supporting children’s transitions when moving between settings and school. To support with this process, PACEY members can access our supporting transitions in Wales resource, which includes a transition document and accompanying guide. The transition document can be used in partnership with the family to provide the school or setting with useful information to help ensure that the child has a smooth settling in period. Don’t forget to let them know how much Welsh language they have acquired whilst at your setting.
Further support and resources
Want to improve your Welsh language skills and confidence? Did you know that early years, childcare and play providers in Wales can access an online self-study Camau Welsh language course tailored for those working with children, and it is fully funded by the Welsh Government? To find out more about this please contact PACEY Cymru on paceycymru@pacey.org.uk
Welsh language development
Supporting transitions in Wales
Welsh language videos and audio resources
Braint Rees, Cydlynydd y Gymraeg PACEY Cymru
Braint Rees, Cydlynydd y Gymraeg PACEY Cymru, yn rhannu ei phrofiadau a’i syniadau ar gyfer gwreiddio'r Gymraeg wrth i chi gefnogi plant yn eu cyfnod pontio i’r ysgol a sut y gall llyfrau ac adnoddau digidol gefnogi hyn.
Unwaith y bydd blwyddyn ysgol newydd yn dechrau a’r arferion yn dechrau setlo, gall fod yn amserol i fyfyrio ar sut rydych chi’n cefnogi plant i baratoi ar gyfer cyfnodau pontio fel hyn, beth aeth yn dda, ac unrhyw newidiadau neu ffyrdd pellach y gallwch chi weithio i gefnogi plant yn y dyfodol.
Datblygir y sgiliau sy’n cyfrannu at gychwyn cadarnhaol yn yr ysgol yn y blynyddoedd, yn hytrach na’r wythnosau, cyn i blant fynd i’r ysgol. Mae'r profiadau a'r cyfleoedd yr ydych yn eu darparu i'r plant yn eich lleoliad nid yn unig yn hanfodol ar gyfer eu datblygiad bryd hynny ond gallant hefyd effeithio ar ba mor llwyddiannus yw eu cyfnod pontio i'r ysgol. Yn y cwricwlwm newydd i Gymru, dylai’r Gymraeg gael ei phlethu drwy brofiadau a chyfleoedd chwarae plant mewn lleoliadau ac ysgolion. Felly, mae cyflwyno plant i'r Gymraeg cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol nid yn unig yn cefnogi eu dysg a'u datblygiad ond yn rhoi hyder iddynt ddefnyddio'r iaith ac awydd i barhau i ddysgu. Hefyd, mae’n well cyflwyno ail neu drydedd iaith mor ifanc â phosibl, yn enwedig yn y tair blynedd gyntaf pan fo ymennydd y plentyn yn prysur ddatblygu, sy’n golygu mai dyma’r amser perffaith i gyflwyno’r Gymraeg.
Pan fydd profiadau plant o newidiadau a chyfnodau pontio yn gadarnhaol, bydd hyn yn cefnogi eu lles a’u gwydnwch, ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau iddynt ar gyfer cyfnodau pontio mwy cadarnhaol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Fy mhrofiad personol
Fel merch i fam sy’n siarad Cymraeg yn rhugl a dad a ddysgodd Gymraeg pan ddechreuais yn yr ysgol gynradd, roeddwn yn agored o’r cychwyn cyntaf i’r ddwy iaith trwy rigymau, caneuon, straeon, cerddoriaeth ac adnoddau digidol. Byddai fy nhad yn aml yn creu ei straeon ei hun amser gwely tra byddai Mam drwy’r dydd yn rhannu llyfrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Roedd cael y cyfle i ddefnyddio geiriau Cymraeg neu Saesneg yn rhywbeth roedden ni yn ei gymryd yn ganiataol a dwi’n meddwl fod hynny wedi fy nghefnogi i ddod yn gwbl ddwyieithog. Trwy ddefnyddio’r llyfrau fel ffynhonnell ddysgu chwareus rhoddodd hyn gyfle i mi glywed, gwrando a deall yr iaith Gymraeg trwy chwarae.
Llyfrau dwyieithog i gefnogi'r pontio i'r ysgol
Gall fod yn fuddiol cyflwyno llyfrau a straeon Cymraeg a dwyieithog ar ddechrau’r ysgol a fydd yn helpu plant i ddysgu mwy am yr anturiaethau y gallent eu profi wrth symud i’r ysgol. Rhai awgrymiadau i chi roi cynnig arnynt yw Smot yn mynd i'r ysgol, Topsi a Tim: Dechrau'r Ysgol, a Diwrnod Cyntaf Douglas yn yr Ysgol. Gallwch brynu ystod o lyfrau Cymraeg neu ddwyieithog o Gwales (archwiliwch am `ysgol’) neu Siop Cwlwm, neu ewch i'ch llyfrgell leol i fenthyg llyfrau sy’n cefnogi pontio i'r ysgol.
Gall fod yn fuddiol hefyd cyflwyno geiriau ac ymadroddion allweddol yn y Gymraeg wrth ddarllen llyfrau a storïau nad ydynt yn Gymraeg nac yn ddwyieithog. Am ystod o lyfrau a all eich helpu i gefnogi plant i ddechrau'r ysgol mae gan BookTrust restr awgrymedig i'w harchwilio. Mae ganddynt hefyd nifer o lyfrau sain Cymraeg y gallwch wrando arnynt, sy'n cael eu rhannu ar dudalennau gwe Pori Drwy Stori.
Adnoddau a gweithgareddau dwyieithog ar gyfer pontio i'r ysgol
Dyma rai syniadau am weithgareddau ac adnoddau i’ch cefnogi:
- Ewch i sesiynau amser rhigymau Cymraeg eich llyfrgell leol i helpu'r plant i ddysgu a dod yn gyfarwydd â'r rhigymau a'r caneuon Cymraeg y byddant yn eu defnyddio yn yr ysgol. Gallech hefyd ddefnyddio'r hwiangerddi a chaneuon Cymraeg Abertawe yn eich arferion dyddiol.
- Lawrlwythwch gopi o restr wirio bagiau ysgol gan Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot, neu crëwch eich rhestr wirio eich hun sy'n fwy personol i'r plentyn. Trafodwch beth fydd angen iddynt fynd gyda nhw a chefnogi plant a'u teuluoedd i gwblhau eu rhestr wirio ddwyieithog cyn dechrau'r ysgol.
- Fyddwch chi'n cerdded i'r ysgol? Os felly, beth am ymarfer eich sgiliau Cymraeg drwy ddefnyddio'r fideos Diogelwch y Ffyrdd ac adnodd geirfa ategol ar gyfer aelodau PACEY. Mae hon yn ffordd wych o sefydlu trefn a fydd yn parhau pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.
- Gall aelodau PACEY hefyd gael mynediad at gyfres o adnoddau sain i gyflwyno geirfa Gymraeg ar ystod o themâu, gan gynnwys beth i wisgo. Gallai hyn eich cefnogi i ddefnyddio'r Gymraeg tra bod y plant yn dod yn annibynnol wrth wisgo eu cot a gwisgo, ac wrth chwarae rôl gyda gwisg ysgol. Cofiwch ddefnyddio cymaint o Gymraeg â phosib, gan gynnwys enwi eitemau dillad, lleoli geiriau, a defnyddio ymadroddion llawnach, yn dibynnu ar gynnydd a sgiliau pob plentyn.
- Siaradwch â’r plant, gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw’n teimlo – sut wyt ti? Mae'n bwysig eich bod yn deall sut mae'r plentyn yn teimlo am y cyfnod pontio newydd hwn. Efallai y byddwch eisiau defnyddio siart teimladau neu ddelweddau i'w helpu i ddeall eu teimladau a'u hemosiynau. Mae rhigwm Mr Hapus ydw i Cyw yn un da i'w defnyddio, a gall aelodau PACEY ddefnyddio ein hadnodd sain teimladau, i gefnogi defnydd ar y Gymraeg wrth drafod teimladau.
- A oes gennych chi blant hŷn dan eich gofal a all rannu eu profiadau cadarnhaol? Beth sy'n eu gwneud yn hapus am yr ysgol? Beth maen nhw'n ei fwynhau fwyaf? Rhowch gynnig ar gynnwys y Gymraeg yn y trafodaethau hyn.
- Mae rhagor o syniadau am weithgareddau, fideos ac adnoddau sain i'w harchwilio yn Sbotolau ar yr Iaith Gymraeg PACEY.
Cefnogi'r pontio gyda phartneriaid
Yn ogystal â gweithio gyda'r plentyn, mae gwaith partneriaeth cadarnhaol yn allweddol i gefnogi pontio plant wrth symud rhwng lleoliadau ac ysgol. I gefnogi'r broses hon, gall aelodau PACEY ddefnyddio ein hadnodd cefnogi pontio yng Nghymru, sy'n cynnwys dogfen bontio a chanllaw ategol. Gellir defnyddio’r ddogfen bontio mewn partneriaeth â’r teulu i roi gwybodaeth ddefnyddiol i’r ysgol neu’r lleoliad i helpu i sicrhau bod y plentyn yn cael cyfnod ymgartrefu llyfn. Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod iddynt faint o Gymraeg y maent wedi'i hennill tra yn eich lleoliad.
Cefnogaeth ac adnoddau pellach
Eisiau gwella'ch sgiliau Cymraeg a’ch hyder? Wyddech chi y gall darparwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru gael mynediad i hunan-astudio ar-lein Cwrs iaith Gymraeg Camau wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant, ac mae’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru? I gael gwybod mwy am hyn cysylltwch â PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk
Datblygu'r Gymraeg
Cefnogi pontio yng Nghymru
Fideos ac adnoddau sain Cymraeg