Pirate Puw’s Quest

Stories are everywhere and they are a crucial part of what makes us human.  Reading stories with children has known benefits. Recent studies have found that by three years of age there is a 30 million word gap between children from the wealthiest and poorest families. To support in this area PACEY Cymru recently launched their new storybook ‘Pirate Puw’s Quest’. 

Welsh Government funding supported the production of the book which was written by registered childminders in Wales with support from PACEY Cymru staff through a project with Petra publishing, a small social enterprise that writes children’s storybooks with local community groups.

Claire Protheroe, National Manager for Wales for PACEY Cymru said ‘The purpose of this book is to showcase quality, registered childcare and to promote the role of a childminder within the sector. This will help to break down perceptions and promote the positive role that a childminder has to play when working with families. The story gives an opportunity for further discussions and to support further engagement with children, families and other professionals. Aside from this it was key, however, to ensure that this was an enjoyable story book that could be shared with children.’

The picture below shows those involved in the development of the book earlier this year before restrictions were in place. We would like to thank everyone for their time and commitment.

Using the book in your setting

All PACEY members in Wales will be sent a copy of the book in coming weeks which can be used with children in your care and their families. Copies will also be shared with local authorities and other key partners as a tool to support the promotion of quality childcare.

You will find we have included Wales related items throughout the book as talking points.  This includes daffodils, laver bread biscuits and not forgetting the Welsh themed gold coin on each page, so keep an eye out for these!

The book is bilingual and to support you we have shared Braint Rees, PACEY Cymru’s Welsh language coordinator, reading the book both in English and Welsh.  You could play the recording to the children or use it to aid your Welsh language pronunciation.  We hope this inspires you to develop the use of Welsh language in your setting and grows your confidence.

To support early years and childcare professionals with pronunciation of Welsh vocabulary relating to Pirate Puw and the associated activities go to our audio resource. 

Activity ideas

We would love to see you share how the book is used within your setting either through our Facebook page or by email to paceycymru@pacey.org.uk .

We have pulled together some activity ideas to extend activities in your setting and will be adding to this as more ideas develop.

Creative cookery

In the book the children make a ‘fish cake’ with their childminder.  Consider doing this in your setting either by making actual fish cakes or by making sweet cakes decorated in a fish or sea theme as in the book. You could also look at making laverbread biscuits but these may be an acquired taste!

Out and about

Visit a local beach and make the most of the environment to enhance children’s learning and development.  Collect shells, seaweed and driftwood to create images on the sand which link to the themes in the book. If you do not live local to the beach incorporate this into your setting using a sand tray or sand pit.

Dressing up

Include pirate costumes and resources in your dressing up box.  Make pirate hats or masks with the children to support their role play.

Getting crafty

A pirate ship features in the book. You could make some paper boats with children in your care and decorate these before seeing how they float- either in a water tray or bowl in the setting or in the outdoor environment. You could also make pirate ships out of paper plates or go larger and make a pirate ship out of cardboard.

Create maps for children to add to or support the children to recreate other images from the book- share your pictures with us!

Paint the characters onto wooden spoons or make puppets to support role playing and re-telling of the story.

Further resources and information

  • Following the launch of our book Pirate Puw’s Quest we are supporting the development of storytelling in settings through some online events.
  • CEY smart has now launched in Wales and new courses are being added to this.  There are courses related to literacy for childcare and early years professionals to explore and undertake. Explore CEY smart or find out more about CEY smart in Wales.

Mae straeon ym mhobman ac maent yn rhan hanfodol o’r hyn sy’n ein gwneud yn ddynol.Mae buddion amlwg i ddarllen straeon gyda phlant. Mae astudiaethau diweddar wedi canfod bod bwlch o 30 miliwn o eiriau rhwng plant o’r teuluoedd cyfoethocaf a phlant o’r teuluoedd tlotaf erbyn tair oed. Er mwyn cefnogi yn y maes hwn lansiodd PACEY Cymru eu llyfr stori newydd ‘Chwilfa Puw y Môr Leidr’.

Cynhyrchwyd y llyfr hwn gan gyllid Llywodraeth Cymru a chafodd ei ysgrifennu gan warchodwyr plant cofrestredig yng Nghymru a chymorth staff PACEY Cymru. Prosiect gan Fenter gymdeithasol Petra Publishing oedd hyn, sy’n cydweithio â grwpiau cymunedol lleol i gynhyrchu llyfrau i blant.

Dywedwyd Claire Protheroe, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, PACEY Cymru, ‘Diben y llyfr hwn yw arddangos darpariaeth gofal plant cofrestredig o ansawdd a hyrwyddo rôl gwarchodwr plant yn y sector. Bydd hyn yn helpu i chwalu canfyddiadau negyddol a hyrwyddo’r rôl gadarnhaol y mae’n rhaid i warchodwr plant ei chwarae wrth weithio gyda theuluoedd. Mae’r stori’n rhoi cyfle i drafod ymhellach ac i gefnogi ymgysylltiad pellach â phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.  Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, roedd yn allweddol wrth greu stori bleserus y gellir ei rhannu gyda phlant.’

Mae’r llun uchod yn dangos y rhai a fu’n rhan o ddatblygiad y llyfr yn gynharach eleni cyn bod cyfyngiadau ar waith. Hoffem ddiolch i bawb am eu hamser a’u hymrwymiad.

Using the book in your setting

Bydd holl aelodau PACEY yng Nghymru yn derbyn copi o’r llyfr yn ystod yr wythnosau nesaf y gellir ei ddefnyddio gyda phlant yn eich gofal a’u teuluoedd. Bydd copïau hefyd yn cael eu rhannu ag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill fel offeryn i gefnogi hyrwyddo gofal plant o safon.

Fe welwch ein bod wedi cynnwys eitemau cysylltiedig â Chymru trwy’r llyfr fel pwyntiau siarad. Mae hyn yn cynnwys cennin Pedr, bisgedi bara lawr a pheidio ag anghofio’r darn arian aur ar thema Cymru ar bob tudalen, felly cadwch lygad am y rhain!

Mae’r llyfr yn ddwyieithog ac i gefnogi chi ymhellach rydym wedi rhannu Braint Rees, cydlynydd yr iaith Gymraeg i PACEY Cymru, yn darllen y llyfr yn Saesneg ac yn Gymraeg. Fe allech chi chwarae’r recordiad i’r plant neu ei ddefnyddio i gynorthwyo’ch ynganiad Cymraeg. Gobeithio y bydd hyn yn eich ysbrydoli i ddatblygu’r defnydd o Gymraeg yn eich lleoliad a chynyddu eich hyder.

Cewch glywed y stori yn cael ei adrodd yn Saesneg neu’n Gymraeg trwy’r dolenni uchod.

I gefnogi gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a gofal plant i ynganu geirfa Gymraeg yn ymwneud â Môr-leidr Puw a’r gweithgareddau cysylltiedig ewch i’n hadnodd sain.

Syniadau gweithgaredd

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn rhannu sut mae’r llyfr yn cael ei ddefnyddio yn eich lleoliad naill ai trwy ein tudalen Facebook neu drwy e-bost i paceycymru@pacey.org.uk.

Rydym wedi dwyn ynghyd rai syniadau gweithgaredd i ymestyn gweithgareddau yn eich lleoliad ac mi wnawn yn ychwanegu at hyn wrth i fwy o syniadau ddatblygu.

Coginio creadigol

Yn y llyfr mae’r plant yn gwneud ‘cacennau pysgod’ gyda’u gwarchodwr plant. Ystyriwch wneud hyn yn eich lleoliad naill ai trwy wneud cacennau pysgod go iawn neu trwy wneud cacennau melys wedi’u haddurno mewn thema pysgod neu fôr fel yn y llyfr. Fe allech chi hefyd edrych ar wneud bisgedi bara lawr ond mae’r rhain yn flas caffaeledig!

Mynd am dro

Ymweld â thraeth lleol a gwneud y gorau o’r amgylchedd i wella dysgu a datblygiad plant. Casglwch gregyn, gwymon a broc môr i greu delweddau ar y tywod sy’n cysylltu â’r themâu yn y llyfr. Os nad ydych chi’n byw yn lleol i’r traeth, ymgorfforwch hwn yn eich lleoliad gan ddefnyddio hambwrdd tywod neu bwll tywod.

Gwisgo i fyny

Cynnwys gwisgoedd ac adnoddau môr-ladron yn eich blwch gwisgo i fyny.  Gwnewch hetiau neu fasgiau môr-ladron gyda’r plant i gefnogi eu chwarae rôl.

Hwyl gyda chrefft

Mae llong môr-ladron i’w gweld yn y llyfr. Fe allech chi wneud cychod papur gyda phlant yn eich gofal ac addurno’r rhain cyn gweld sut maen nhw’n arnofio – naill ai mewn hambwrdd dŵr neu bowlen yn y lleoliad neu yn yr amgylchedd awyr agored. Fe allech chi hefyd wneud llongau môr-ladron allan o blatiau papur neu ewch yn fwy a gwneud llong allan o gardbord.

Creu mapiau i blant eu hychwanegu at neu gefnogi plant i ail-greu delweddau eraill o’r llyfr – rhannwch eich lluniau gyda ni!

Paentiwch y cymeriadau ar lwyau pren neu gwnewch bypedau i gefnogi chwarae rôl ac ail-adrodd y stori.

Adnoddau a gwybodaeth bellach

Yn dilyn lansio ein llyfr Chwilfa Puw y Môr Leidr rydym yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu straeon mewn lleoliadau drwy rai digwyddiadau ar-lein.

Mae CEY smart wedi’i lansio yng Nghymru ac mae cyrsiau newydd yn cael eu hychwanegu at hyn. Mae cyrsiau sy’n gysylltiedig â llythrennedd i weithwyr gofal plant proffesiynol a blynyddoedd cynnar ar gael i archwilio a’u hymgymryd. Cymerwch gip ar wefan CEY smart neu darganfyddwch fwy am CEY smart yng Nghymru.

Recent Resources

Keep up to date with everything that’s happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that’s going on in the childcare and early years sector