Updated 31 January 2024
CIW have announced that the Self-Assessment of Service Statement (SASS) is now live.
The 2024 SASS window opened on 31 January and will close on the 15 March.2024.
What is SASS?
SASS is an online form that Registered Persons and Responsible Individuals are required to complete. This is a legal requirement for all childminders and childcare and play providers that registered before 31 December 2023.
Providers who registered after 31 December 2023 will not need to complete the SASS this year.
If you have not yet set up a CIW online account, visit CIW online account login. If you have any questions on setting up your CIW online account, please telephone CIW on 0300 7900 126 and select option 4.
SASS Deadline
If you run a childcare and play service, you are required to complete your SASS using CIW Online by 15 March 2024.
Quality of Care Review
If you registered before 31 January 2023, you will also need to upload your Quality of Care Review as part of the SASS.
Further information and support
Completing your SASS is quick and easy via your CIW Online account. CIW have put together a ‘how to’ video below, FAQs and a guidance booklet to talk you through how to complete your SASS.
SASS handy tips to help you
As many practitioners will be familiar with completing the SASS through CIW online, we have not scheduled any webinars to walk-through this. However, if you feel this would be useful or require any support, then please contact us at PACEY Cymru.
If you have any queries please email: paceycymru@pacey.org.uk.
Diweddariad 31 Ionawr 2024
Mae AGC wedi cyhoeddi y bydd Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach yn fyw .
Agorodd ffenestr Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2024 ar 31 Ionawr a bydd yn cau ar 15 Mawrth 2024.
Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?
Ffurflen ar-lein yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae angen i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae a wnaeth gofrestru cyn 31 Rhagfyr 2023.
Ni fydd angen i ddarparwyr a wnaeth gofrestru ar ôl 31 Rhagfyr 2023 gwblhau'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eleni.
Os nad ydych chi wedi creu eich cyfrif AGC ar-lein, ewch i Mewngofnodi gyda Chyfrif AGC Ar-lein. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â chreu cyfrif ffoniwch AGC ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4.
Dyddiad cau y SASS
Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 15 Mawrth 2024.
Adolygiad Ansawdd Gofal
Os gwnaethoch gofrestru cyn 31 Ionawr 2023, bydd angen i chi hefyd uwchlwytho eich Adolygiad Ansawdd Gofal fel rhan o'r SASS.
Gwybodaeth a chefnogaeth bellach
Mae cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn broses gyflym a hawdd drwy eich cyfrif AGC Ar-lein. Mae AGC wedi llunio fideo ‘sut i’ a llyfryn canllaw i esbonio sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.
Awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i gwblhau SASS
Gan y bydd llawer o ymarferwyr yn gyfarwydd â chwblhau’r SASS drwy AGC ar-lein, nid ydym wedi trefnu unrhyw weminarau i fynd drwy hyn. Fodd bynnag, os teimlwch y byddai hyn yn ddefnyddiol neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â ni yn PACEY Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost paceycymru@pacey.org.uk.