Curriculum for Wales/ Cwricwlwm i Gymru

Time for change!

It is a time of change in Wales, with a new curriculum for Wales in place from the 1st September 2022 for children from the ages of three to sixteen.

The national curriculum in Wales was first introduced in 1988 in a very different world. This was a time before the world-wide web, the fall of the Berlin Wall, the mobile phone, when majority of people smoked indoors and there were very few coffee shops! Professor Graham Donaldson was commissioned to complete a review of curriculum and assessment arrangements in Wales and his 2015 report to Welsh Government included 68 recommendations to improve education within Wales, which have been reflected in the new curriculum.

The new curriculum is a continuum of learning for children from three to sixteen years of age. As it is a continuum there will not be phases or stages within this, therefore the Foundation Phase as it currently is will not exist from September.  From September the term ‘Foundation Learning’ will be used to reflect the importance of this period of learning.

To reflect Foundation Learning as part of the new curriculum framework, the Curriculum for funded non-maintained nursery settings has been developed through a collaborative approach.  This included the involvement of practitioners from a range of settings, Early Years Advisory Teachers, umbrella organisations (including PACEY Cymru) and other key partners.

What does this mean to me?

Settings that are funded by the local authority to deliver funded early education should work closely to this curriculum.

Childcare settings not funded to provide education should be aware of the key principles and ethos of this new non-maintained curriculum.  This will support children’s learning and development in line with Care Inspectorate Wales’ requirements in a similar way to how the principles and areas of learning of the Foundation Phase are currently but do not have to deliver a full curriculum.

This page will focus on the key principles and ethos of the new non-maintained curriculum to support you in developing your practice.  We have broken this down into the following themes;

Setting the scene for learning

The curriculum takes a holistic approach to learning, keeping the developmental needs of children at the forefront.

‘Holistic’

Looking at something as a whole. Holistic development means developing the whole child and not focusing on a particular area of development.

It recognises that:

  • every child is unique.
  • children should have a voice and be valued
  • children have a need and a right to play
  • the Welsh language is an integral part of the unique culture of Wales and helps children develop a sense of cynefin.

‘Cynefin’

The place where we feel we belong, where the people and landscape around us are familiar and the sights and sounds are reassuringly recognisable. The historic, cultural and social place which has shaped and continues to shape the community which inhabits it.

The Curriculum for Wales has four purposes at the heart of it. These are the shared vision and aspiration for every child and young person.  You can find out more in our CEY smart course a Focus on the new curriculum for Wales: Four purposes.

The curriculum focuses on the role of three enablers, these enablers are interrelated and interdependent and integral to supporting children’s learning and development. You can find deeper information on these in the curriculum document.

Enabling adults

The role of the adult is integral to the progress of all children, and is particularly significant in relation to learning in the early years. An enabling adult draws on children’s previous knowledge and experiences as well as their current fascinations.

The PACEY Cymru Inspiring Environments toolkit looks at the role of the adult in relation to the environment and also includes a range of ideas and inspiration. There are also training resources within CEY smart that are helpful for you to understand the role you have to play.

‘Fascinations’

Things that ignite great interest or delight within a child.

Engaging experiences

The experiences offered to children in the early years should be hands on, purposeful and meaningful to the child.

The PACEY Cymru Inspiring Environments toolkit looks at resources and experiences and also includes a range of ideas and inspiration. There are also training resources within CEY smart that are helpful for you to understand more about providing engaging experiences.

Effective environments

The environment created in a setting, indoors and outdoors, should provide children with authentic experiences. Through exploration of their environment, children begin to develop a sense of belonging and an appreciation of the world around them.

The PACEY Cymru Inspiring Environments toolkit looks at the importance of the environment including support with creating effective spaces and emotionally secure environments.  It also includes a range of ideas and inspiration. There are also short training resources within CEY smart that are helpful for you to understand more about providing effective environments.

Pedagogy

‘Pedagogy’

The term pedagogy comes from a Greek term which means ‘the art of teaching children’ and simply means the way we teach.

The principles of effective pedagogy are embedded throughout the curriculum, however it is particularly important to ensure the learning environment within our setting provides consistent opportunities for the following:

  • play and play-based learning
  • being outdoors
  • authentic and purposeful learning
  • physical literacy

You can see more on these principles in the curriculum document.

Developmental pathways

Central to the curriculum are five developmental pathways that are fundamental to the learning and development of all young children. These developmental pathways are child-centred and interdependent, having equal value in supporting overall development. The five developmental pathways should be used holistically when planning learning experiences to ensure authentic and purposeful learning takes place.

They focus on what is important for the child and link closely to the key principles of child development. The five developmental pathways are:

  • belonging
  • communication
  • exploration
  • physical development
  • well-being

You can find deeper information on these in the curriculum document.  PACEY Cymru will also be developing further guidance to support you in growing your knowledge and understanding in relation to these in coming months.

Reflect!

As a starting point you should take time to read through this Spotlight page and the curriculum for funded non-maintained nursery settings. Reflect on what elements are familiar to you and your practice, make a note of the new aspects and think about how you can incorporate these into your setting. Record your thoughts to support evidencing to others.  PACEY members can use our PACEY certificate of reflection to record this.

Next steps

PACEY Cymru are working closely with Welsh Government on the development, implementation and roll out of the curriculum.  This includes discussions around future opportunities for a wider range of childcare providers, including childminders, to provide funded early years education in Wales.  PACEY Cymru strongly feel that opening up opportunities would benefit the sustainability of childcare providers, parental choice of provision and most importantly support children’s emotional development and well-being.

Welsh Government have published their guidance on assessment arrangements for funded non-maintained nursery settings. Further guidance will be developed by PACEY Cymru in relation to observation and assessment over the coming months

Keep up to date with any developments on this page.

CEY smart courses

This is a series of courses on CEY smart that are designed to help you to understand and apply the principles of the curriculum for funded non-maintained nursery settings. They each explore an aspect of the curriculum, and how this can be applied in your setting, featuring real life examples from a range of practitioners.

Simply click on the title of your chosen course to begin.

Focus on the curriculum for Wales: Engaging experiences – Bilingual
The authentic and engaging experiences that you plan for the children in your care are key to supporting their learning and development. This course will explore the importance of engaging experiences in the curriculum for funded non-maintained nursery settings.

An introduction to planning in the moment – Bilingual
Noticing, analysing, and responding to children’s fascinations and interests is often referred to as planning in the moment. This course will explore how planning in the moment comes to life in early years and why it is so beneficial to young children.

Applying planning in the moment – Bilingual
Noticing, analysing, and responding to children’s fascinations and interests is key to quality child-centred provision. Following on from an introduction to planning in the moment, this course will explore how you can incorporate planning in the moment in your practice to support children’s learning and development.

Ignite children’s curiosity through the use of light – Bilingual
During the early years children’s curiosity is a key driver for supporting their progress and development. This course will focus on exploring ways that you can provide experiences related to light and shadow to support children’s learning and development. We will consider the environment, resources, and provocations to play that can be offered to ignite the spark of curiosity and support the exploration of light and shadow in your setting.

Further reading and support

To support practitioners in the implementation and roll out of the new curriculum for Wales Welsh Government have prepared training modules which will align with the principles of the new curriculum (please note these are still currently titled as Foundation Phase). These professional learning modules have been designed to help continue to strengthen practice in supporting children in the early stages of their learning and development and support them in their continuing journey throughout education.

PACEY Cymru have produced a series of courses on CEY smart that are designed to help you to understand and apply the principles of the curriculum for funded non-maintained nursery settings. Already a member? Find out more about these courses at focus on the curriculum for Wales and log in to CEY smart here. Not a member? Explore more about PACEY membership

PACEY Cymru will also be reflecting the principles of the new curriculum within key events being held over coming months.  Find out more on our events page, further information and dates will be added when confirmed.

Inspiring Environments

Curriculum for funded non-maintained nursery settings

PACEY members can also access a range of curriculum resources

PACEY certificate of reflection

CEY smart

Welsh Government professional learning modules

Welsh Government Professional learning modules part 2

Professional learning vlogs: foundation learning support for practitioners in schools and settings

Engagement Toolkit for funded non-maintained nursery settings, curriculum for Wales

Foundation learning and Curriculum for Wales video explainer

Curriculum for Wales: Nursery education for 3 and 4 year olds – YouTube

Curriculum for Wales: Early education for 5 to 8 year olds (youtube.com)

Celebrating the Curriculum – Cwlwm 

We hope this resource and the links provided have been informative, and that they have helped you to reflect on your practice.  If you would like to discuss any aspect of this topic, or would like additional support or guidance, then please get in touch with PACEY Cymru on 02920 351407 or email paceycymru@pacey.org.uk.

Amser am newid!

Mae’n amser am newid yng Nghymru, gyda Chwricwlwm newydd i Gymru ar waith o 1 Medi 2022 ar gyfer plant tri i un deg chwech oed.

Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru gyntaf ym 1988 mewn byd gwahanol iawn. Roedd hyn yn gyfnod cyn y we fyd eang, chwalu Mur Berlin, y ffôn symudol, pan roedd y mwyafrif o bobl yn ysmygu dan do ac ychydig iawn o siopau coffi oedd yn bodoli! Comisiynwyd yr Athro Graham Donaldson i gwblhau adolygiad o drefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru ac roedd ei adroddiad 2015 i Lywodraeth Cymru’n cynnwys 68 o argymhellion i wella addysg yng Nghymru, sydd wedi cael eu hadlewyrchu yn y cwricwlwm newydd.

Mae’r cwricwlwm newydd yn gontinwwm dysgu i blant o dri i un deg chwech oed. Gan mai continwwm ydyw, ni fydd yn cynnwys cyfnodau, felly na fydd y Cyfnod Sylfaen fel y mae ar hyn o bryd yn bodoli o fis Medi.  O fis Medi ymlaen, defnyddir y term ‘Dysgu Sylfaen’ i adlewyrchu pwysigrwydd y cyfnod hwn o ddysgu.

I adlewyrchu Dysgu Sylfaen fel rhan o’r fframwaith cwricwlwm newydd, datblygwyd y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir drwy ddull cydweithredol.  Roedd hyn yn cynnwys ymarferwyr o ystod o leoliadau, Athrawon Ymgynghori’r Blynyddoedd Cynnar, sefydliadau ambarél (gan gynnwys PACEY Cymru) a phartneriaid allweddol eraill.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Dylai lleoliadau a ariennir gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg gynnar a ariennir weithio’n agos â’r cwricwlwm hwn.

Dylai lleoliadau gofal plant nad ydynt wedi’u hariannu fod yn ymwybodol o egwyddorion allweddol ac ethos y cwricwlwm newydd nas cynhelir hwn.  Bydd hyn yn cefnogi dysg a datblygiad plant yn unol â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru mewn ffordd debyg y sut mae egwyddorion a meysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen yn gwneud ar hyn o bryd ond nid oes rhaid iddynt ddarparu cwricwlwm cyfan.

Bydd y dudalen sylw hon yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol ac ethos y cwricwlwm nas cynhelir newydd i’ch cefnogi i ddatblygu’ch ymarfer.  Rydym wedi rhannu hyn i’r themâu canlynol;

Gosod yr olygfa ar gyfer dysgu

Mae’r cwricwlwm yn defnyddio ymagwedd gyfannol tuag at ddysgu, gan gadw anghenion y plant ar flaen y gad.

‘Cyfannol’

Edrych ar rywbeth yn ei gyfanrwydd. Mae datblygiad cyfannol yn golygu datblygu’r plentyn cyfan a pheidio â chanolbwyntio ar faes datblygu penodol.

Mae’n cydnabod:

  • bod pob plentyn yn unigryw.
  • dylai plant gael llais a chael eu gwerthfawrogi
  • bod gan blant angen a hawl i chwarae
  • bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o ddiwylliant unigryw Cymru ac yn helpu plant i ddatblygu ymdeimlad o gynefin.

‘Cynefin’

Y man lle rydyn ni’n teimlo ein bod yn perthyn, lle mae’r bobl a’r tirlun o’n cwmpas yn gyfarwydd, ac rydyn ni’n cael tawelwch meddwl o adnabod y golygfeydd a’r seiniau. Y lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi llywio’r gymuned sy’n byw yno, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae gan y Cwricwlwm i Gymru bedwar diben wrth ei wraidd. Dyma’r weledigaeth ar y cyd a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.  Gallwch ddarganfod rhagor yn ein cwrs CEY smart Canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd i Gymru: Pedwar diben. 

Mae’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar rôl tri galluogydd. Mae’r galluogwyr hyn yn gydberthynol a chyd-ddibynnol ac yn rhan annatod i gefnogi dysg a datblygiad plant. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddyfnach ar y rhain yn y ddogfen cwricwlwm.

Galluogi oedolion

Mae rôl yr oedolyn yn hanfodol i ddatblygiad pob plentyn, ac mae’n arbennig o arwyddocaol mewn perthynas â dysgu yn y blynyddoedd cynnar. Mae oedolyn galluogi’n tynnu ar wybodaeth a phrofiadau blaenorol y plant, yn ogystal â’u diddordebau arbennig presennol.

Mae pecyn cymorth Amgylcheddau Ysbrydoledig PACEY Cymru yn edrych ar rôl yr oedolyn mewn perthynas â’r amgylchedd ac yn cynnwys ystod o syniadau ac ysbrydoliaeth. Mae yna hefyd adnoddau hyfforddi o fewn CEY smart sy’n ddefnyddiol i chi ddeall y rôl sy’n rhaid i chi ei chwarae.

‘Diddordebau arbennig’

Pethau sy’n ennyn brwdfrydedd neu bleser ymhlith plant.

Profiadau atyniadol

Dylai’r profiadau sy’n cael eu cynnig i blant yn y blynyddoedd cynnar fod yn ymarferol, yn fwriadol, ac yn ystyrlon i’r plentyn.

Mae pecyn cymorth Amgylcheddau Ysbrydoledig PACEY Cymru yn edrych ar adnoddau a phrofiadau a hefyd yn cynnwys ystod o syniadau ac ysbrydoliaeth. Mae yna hefyd adnoddau hyfforddi o fewn CEY smart sy’n ddefnyddiol i chi ddeall mwy am ddarparu profiadau atyniadol.

Amgylcheddau effeithiol

Dylai’r amgylchedd a grëwyd mewn lleoliad, dan do ac yn yr awyr agored, ddarparu profiadau dilys i blant. Trwy archwilio’u hamgylchedd, mae plant yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u hamgylch.

Mae pecyn cymorth Amgylcheddau Ysbrydoledig PACEY Cymru yn edrych ar bwysigrwydd yr amgylchedd gan gynnwys cymorth gyda chreu lleoedd effeithiol ac amgylcheddau diogel yn emosiynol.  Mae hefyd yn cynnwys ystod o syniadau ac ysbrydoliaeth. Mae yna hefyd adnoddau hyfforddi byr o fewn CEY smart sy’n ddefnyddiol i chi ddeall rhagor am ddarparu amgylcheddau effeithiol.

Addysgeg

‘Addysgeg’

Mae’r term ‘pedagogy’ yn y Saesnag yn dod o air Groegaidd sy’n golygu ‘crefft addysgu plant’ ac yn syml mae’n golygu’r ffordd rydym yn addysgu.

Mae egwyddorion addysgeg wedi’u hymgorffori drwy’r cwricwlwm, fodd bynnag mae’n arbennig o bwysig i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu o fewn ein lleoliad yn darparu cyfleoedd cyson ar gyfer y canlynol:

  • chwarae a dysgu trwy chwarae
  • bod yn yr awyr agored
  • dysgu dilys a bwriadol
  • llythrennedd corfforol

Gallwch weld rhagor am yr egwyddorion hyn yn y ddogfen cwricwlwm.

Llwybrau datblygiad

Yn ganolog i’r cwricwlwm mae pum llwybr datblygiad sy’n hanfodol i ddysg a datblygiad pob plentyn ifanc. Mae’r llwybrau datblygiad hyn yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn gyd-ddibynnol, ac mae ganddynt werth cyfartal wrth gefnogi datblygiad cyffredinol. Dylid defnyddio’r pum llwybr datblygiad yn gyfannol wrth gynllunio profiadau dysgu i sicrhau bod dysgu dilys a bwriadol yn digwydd.

Maent yn canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’r plentyn ac yn cysylltu’n agos ag egwyddorion allweddol datblygiad plentyn. Y pum llwybr datblygiad yw:

  • perthyn
  • cyfathrebiad
  • archwilio
  • datblygiad corfforol
  • lles

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddyfnach ar y rhain yn y ddogfen cwricwlwm.  Bydd PACEY Cymru hefyd yn datblygu arweiniad ymhellach i’ch cefnogi wrth dyfu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth mewn perthynas â’r rhain dros y misoedd nesaf.

Adlewyrchwch!

Fel man cychwyn dylech gymryd yr amser i ddarllen y dudalen Sylw hon a’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir. Adlewyrchwch ar ba elfennau sy’n gyfarwydd i chi a’ch ymarfer, gwnewch nodyn o’r agweddau newydd a meddyliwch am sut gallwch eu hymgorffori yn eich lleoliad. Cofnodwch eich meddyliau i gefnogi dangos tystiolaeth i eraill.  Gall aelodau PACEY ddefnyddio ein tystysgrif adlewyrchu PACEY i gofnodi hyn.

Camau nesaf

Mae PACEY Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu, gweithredu a chyflwyno’r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch cyfleoedd yn y dyfodol i ystod ehangach o ddarparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar a ariennir yng Nghymru. Mae PACEY Cymru yn teimlo’n gryf y byddai agor cyfleoedd yn fanteisiol i gynaliadwyedd darparwyr gofal plant, dewis rhieni o ddarpariaeth ac, yn bwysicaf oll, yn cefnogi datblygiad emosiynol a lles plant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu canllawiau ar drefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Bydd arweiniad ymhellach yn cael ei ddatblygu gan PACEY Cymru mewn perthynas ag arsylwadau ac asesiadau dros y misoedd nesaf

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon.

Cyrsiau CEY smart

Mae hyn yn ffurfio rhan o gyfres o gyrsiau ar CEY smart sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddeall a chymhwyso egwyddorion y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir. Mae pob un yn archwilio agwedd ar y cwricwlwm, a sut gellir ei gymhwyso yn eich lleoliad, gan gynnwys enghreifftiau bywyd go iawn o ystod o ymarferwyr.

Cliciwch ar deitl y cwrs o’ch dewis i ddechrau.

Sylw ar y cwricwlwm i Gymru: Profiadau sy’n ennyn diddordeb – Dwyieithog
Mae’r profiadau dilys sy’n ennyn diddordeb yr ydych yn eu cynllunio ar gyfer y plant dan eich gofal yn allweddol i gefnogi eu dysg a’u datblygiad. Bydd y cwrs hwn yn archwilio pwysigrwydd profiadau sy’n ennyn diddordeb yn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Cyflwyniad i gynllunio yn y foment – Dwyieithog
Cyfeirir at sylwi ar, dadansoddi ac ymateb i ddiddordebau plant yn aml fel cynllunio yn y foment. Bydd y cwrs hwn yn archwilio sut mae cynllunio yn y foment yn dod yn fyw yn y blynyddoedd cynnar a pam y mae mor fuddiol i blant ifanc.

Gweithredu cynllunio yn y foment – Dwyieithog
Mae sylwi, dadansoddi ac ymateb i ddiddordebau plant yn allweddol i ddarpariaeth o ansawdd sy’n ffocysu ar y plentyn. Yn dilyn ymlaen o gyflwyniad i gynllunio yn y foment, bydd y cwrs hwn yn archwilio sut y gallwch ymgorffori cynllunio yn y foment yn eich ymarfer i gefnogi dysgu a datblygiad plant.

Taniwch chwilfrydedd plant trwy olau – Dwyieithog
Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae chwilfrydedd plant yn sbardun allweddol ar gyfer cefnogi eu cynnydd a’u datblygiad. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar archwilio ffyrdd y gallwch ddarparu profiadau yn ymwneud â golau a chysgod i gefnogi dysgu a datblygiad plant. Byddwn yn ystyried yr amgylchedd, yr adnoddau, a’r pryfociadau i chwarae y gellir eu cynnig i danio gwreichionen chwilfrydedd a chefnogi’r gwaith o archwilio golau a chysgod yn eich lleoliad.

Darllen pellach a chymorth

I gefnogi ymarferwyr gyda gweithredu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi modiwlau hyfforddi a fydd yn cyd-fynd ag egwyddorion y cwricwlwm newydd (sylwer mai teitl y rhain o hyd yw Cyfnod Sylfaen). Mae’r modiwlau dysgu proffesiynol hyn wedi’u dylunio i helpu parhau i gryfhau ymarfer yng nghefnogi plant yng nghyfnodau cynnar eu dysg a’u datblygiad a’u cefnogi yn eu siwrnai barhaus drwy addysg.

Mae PACEY Cymru wedi cynhyrchu’r gyfres o gyrsiau ar CEY smart sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddeall a chymhwyso egwyddorion y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir. Eisoes yn aelod? Dysgwch fwy am y cyrsiau hyn yn sylw ar y cwricwlwm i Gymru ac mewngofnodwch i CEY smart yma. Ddim yn aelod? Archwiliwch fwy am aelodaeth PACEY.

Bydd PACEY Cymru hefyd yn adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm o fewn digwyddiadau allweddol sy’n cael eu cynnal dros y misoedd i ddod.  Darganfyddwch ragor ar ein tudalen digwyddiadau, bydd rhagor o wybodaeth a dyddiadau’n cael eu hychwanegu pan fyddant wedi’u cadarnhau.

Amgylcheddau Ysbrydoledig

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Gall aelodau PACEY hefyd gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau cwricwlwm

PACEY- Tystygrif myfyrio

CEY smart

Llywodraeth Cymru- Modiwlau dysgu proffesiynol

Llywodraeth Cymru – Modiwlau dysgu proffesiynol rhan 2

Vlogiau dysgu proffesiynol: cymorth dysgu sylfaen i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau

Pecyn Cymorth Ymgysylltu ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, cwricwlwm i Gymru

Fideo yn esbonio dysgu sylfaen a’r Cwricwlwm i Gymru

Gobeithiwn y bydd yr adnodd hwn a’r cysylltiadau a ddarparwyd wedi bod yn addysgiadol, a’u bod wedi’ch helpu chi i fyfyrio ar les plant. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y pwnc hwn, neu os hoffech gael cymorth neu arweiniad pellach, cysylltwch â PACEY Cymru ar 02920 351407 neu drwy e-bost paceycymru@pacey.org.uk

Recent Resources

Keep up to date with everything that’s happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that’s going on in the childcare and early years sector